Taliad Tanwydd Gaeaf
Gwirio a oes angen i chi wneud cais
Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael y Taliad Tanwydd Gaeaf yn awtomatig os ydynt yn gymwys.
Nid oes angen i chi wneud cais os ydych yn cael unrhyw un o’r canlynol:
- Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Pensiwn
- Credyd Cynhwysol
- Lwfans Gweini
- Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
- Lwfans Gofalwr
- Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
- dyfarniadau gan y Cynllun Pensiwn Rhyfel
- Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol
- Budd-dal Analluogrwydd
- Budd-dal Marwolaeth Diwydiannol
Os nad ydych yn cael unrhyw un o’r rhain, mae angen i chi wneud cais os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
- nid ydych chi wedi cael y Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen
- rydych chi wedi gohirio eich Pensiwn y Wladwriaeth ers eich Taliad Tanwydd Gaeaf diwethaf
Sut i wneud cais
Gallwch wneud cais am Daliad Tanwydd Gaeaf:
- drwy’r post - o 21 Medi 2026
- dros y ffôn - o 19 Hydref 2026
Dyddiad cau er mwyn gwneud cais ar gyfer gaeaf 2026 i 2027 yw 31 Mawrth 2027.
Gwneud cais drwy’r post
Cwblhewch ffurflen gais Taliad Tanwydd Gaeaf a’i anfon i’r Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf.
Winter Fuel Payment Centre
Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 1LR
Gwneud cais dros y ffôn
Ffoniwch y Ganolfan Taliad Tanwydd Gaeaf i wneud cais dros y ffôn.
Cyn i chi ffonio, bydd angen y canlynol arnoch:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- y dyddiad wnaethoch briodi neu sefydlu partneriaeth sifil (os yw’n berthnasol)
- eich manylion banc neu gymdeithas adeiladu
Ni ellir gwneud taliadau i gyfrif Cynilion a Buddsoddiadau Cenedlaethol (NS&I) oni bai bod eich budd-daliadau eraill eisoes yn cael eu talu i’r cyfrif.
Bydd angen i chi hefyd ddweud a oeddech chi, yn ystod yr wythnos gymhwyso o 21 i 27 Medi 2026:
- yn yr ysbyty yn cael triniaeth glaf fewnol am ddim
- mewn cartref gofal preswyl neu Ilford Park Resettlement Home
- yn y carchar
Canolfan Taliad Tanwydd Gaeaf
Ffôn: 0800 731 0160
Ffôn testun: cysylltwch â Relay UK ar 18001 ac yna 0800 731 0160
Iaith Arwyddion Prydain (BSL): Gwasanaeth video relay os ydych chi ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Os ydych chi’n anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ar eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ailystyriaeth orfodol.