Ceisiadau newydd am fudd-dal

Gallwch wneud cais am Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA) ar lein, oni bai eich bod o dan 18 oed neu rydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall.

Os na allwch wneud cais ar-lein neu mae angen cymorth arnoch i wneud cais, ffoniwch Ganolfan Byd Gwaith i wneud cais am JSA Dull Newydd.

Canolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 012 1888
Ffôn Testun: 0800 023 4888
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 055 6688
Gwasanaeth cyfnewid fideo Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu lechen
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Ganolfan Prosesu Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Mae manylion cyswllt gwahanol ar gyfer:

Fformatau eraill

Ffoniwch y Ganolfan Byd Gwaith i ofyn am fformatau eraill fel, braille, print bras neu CD sain.

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon, ffoniwch y Ganolfan Prosesu Lwfans Ceisio Gwaith yn lle.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.