Dod o hyd i swydd gyda Paru Swyddi Ar-lein
Chwilio a gwneud cais am swyddi llawn amser neu ran amser ym Mhrydain Fawr a thramor.
Mewngofnodwch i Paru Swyddi Ar-lein os oes gennych gyfrif.
Ailosodwch eich cyfrinair neu’ch ID defnyddiwr os ydych wedi eu hanghofio.
Gallwch barhau i chwilio am a gwneud cais am swyddi heb gyfrif.
Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).
Cyn i chi ddechrau
Cofrestru
Cofrestrwch gyda Paru Swyddi Ar-lein i arbed chwiliadau am waith, llwytho eich CV, sefydlu rhybuddion e-bost a chadw golwg ar eich ceisiadau yn y gorffennol.
Gwnewch nodyn o’ch rhif Porth y Llywodraeth pan fyddwch yn cofrestru, byddwch ei angen yn hwyrach ymlaen i fewngofnodi.
Mae’n rhaid i chi hefyd ddilysu eich cyfeiriad e-bost drwy glicio ar y ddolen yn yr e-bost o gadarnhad. Edrychwch yn eich ffolderi ‘spam’ os nad yw yn eich mewnflwch.
Help
Darllenwch Cwestiynau cyffredin am Paru Swyddi Ar-lein i gael help gyda’r gwasanaeth.
Mewngofnodwch i Paru Swyddi Ar-lein a defnyddiwch y ffurflen gysylltu os oes gennych gyfrif yn barod ac yn methu dod o hyd i ateb i’ch problem.
Defnyddiwch ffurflen gysylltu cyffredinol Paru Swyddi Ar-lein os oes gennych broblemau mewngofnodi neu os nad oes gennych gyfrif.
Chwiliwch am swyddi yng Ngogledd Iwerddon gyda Jobcentre Online.
Mae Paru Swyddi Ar-lein wedi disodli teclyn chwiliad gwaith y Ganolfan Byd Gwaith.