Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA)
Sut i wneud cais
Gallech gael Credyd Cynhwysol ar yr un pryd neu yn lle ESA Dull Newydd. Gwiriwch a ydych yn gymwys i gael Credyd Cynhwysol.
Mae yna ffordd wahanol o wneud cais:
- yng Ngogledd Iwerddon
- os ydych yn agosáu at ddiwedd oes (er enghraifft, oherwydd salwch sy’n cyfyngu ar fywyd)
Beth rydych ei angen i wneud cais
Byddwch angen:
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- rhif cyfrif a chod didoli eich banc neu gymdeithas adeiladu (gallwch ddefnyddio cyfrif ffrind neu aelod o’r teulu os nad oes gennych un)
- enw, cyfeiriad a rhif ffôn eich meddyg
- nodyn ffitrwydd (a elwir weithiau yn ‘nodyn salwch’ neu ‘ddatganiad o ffitrwydd i weithio’), os nad ydych wedi gallu gweithio am fwy na 7 diwrnod yn olynol oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd
- manylion eich incwm, os ydych yn gweithio
- y dyddiad y daw eich Tâl Salwch Statudol (SSP) i ben, os ydych yn ei hawlio
Ni allwch gael ESA Dull Newydd os ydych yn cael Tâl Salwch Statudol (SSP) gan gyflogwr. Gallwch wneud cais am ESA Dull Newydd am hyd at 3 mis cyn daw eich SSP i ben.
Unwaith y byddwch wedi gwneud cais, byddwn yn cysylltu â chi dros y ffôn ac yn dweud wrthych pryd i roi’r dystiolaeth a ble i’w hanfon.
Gwneud cais ar lein am ESA
Ni allwch wneud cais ar-lein os ydych yn gwneud cais fel penodai ar ran rhywun arall.
Pryd y gallwch wneud cais dros y ffôn
Ffoniwch linell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith os:
- ni allwch wneud cais ar-lein
- rydych yn benodai i rywun
Llinell gymorth ceisiadau newydd y Ganolfan Byd Gwaith
Ffôn: 0800 328 1744
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn):
18001 yna 0800 055 6688
Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled
Llinell Saesneg: 0800 055 6688
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Darganfyddwch am gostau galwadau
Ar ôl i chi wneud cais
Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel arfer yn cysylltu â chi o fewn 10 diwrnod gwaith o wneud cais. Ar hyn o bryd mae’n cymryd hirach nag arfer i brosesu ceisiadau.
Os ydych yn gymwys
Byddwch chi’n dechrau cael ESA Dull Newydd.
Efallai y bydd y DWP yn dweud wrthych fod rhaid i chi fynychu apwyntiad gydag anogwr gwaith. Mae hyn fel arfer yn digwydd dros y ffôn. Os yw’ch apwyntiad wyneb yn wyneb mewn swyddfa Canolfan Byd Gwaith, bydd angen i chi ddod ag ID a phrawf o gyfeiriad.
Bydd eich anogwr gwaith yn esbonio beth sydd angen i chi ei wneud i barhau i gael ESA Dull Newydd. Gelwir hyn yn ‘Ymrwymiad Hawlydd’ ac mae’n rhaid i chi ei dderbyn i barhau i gael ESA Dull Newydd.
Yn yr apwyntiad, gofynir i chi:
- esbonio sut mae’ch salwch neu anabledd yn effeithio ar eich gallu i weithio
- cytuno i ddweud wrth eich Canolfan Byd Gwaith lleol os bydd eich amgylchiadau’n newid
Os nad ydych chi’n gymwys
Bydd y DWP yn anfon llythyr atoch i egluro pam nad ydych yn gymwys i gael ESA.
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad
Gallwch herio penderfyniad ynghylch eich cais. Gelwir hyn yn gofyn am ‘ailystyriaeth orfodol’.
Gwneud cais eto am ESA
Ni allwch wneud cais newydd am ESA yn seiliedig ar incwm. Byddwch yn parhau i gael taliadau tra’ch bod yn gymwys nes i’ch cais ddod i ben.
Efallai y gallwch ailymgeisio ar ôl i’ch ESA Dull Newydd ddod i ben. Efallai y byddwch yn gymwys eto yn dibynnu ar:
- pa gyfraniadau Yswiriant Gwladol gwnaethoch eu talu yn ystod y 2 flynedd dreth lawn ddiwethaf cyn y flwyddyn dreth rydych yn gwneud y cais ynddi
- p’un a ydych wedi’ch rhoi yn y grŵp cymorth oherwydd i chi ddatblygu cyflwr newydd neu fod eich iechyd wedi dirywio