Cymryd absenoldeb salwch

Gall gweithwyr gymryd amser i ffwrdd o’r gwaith os ydynt yn sâl. Mae angen iddynt roi prawf i’w cyflogwr os ydynt yn sâl am fwy na 7 diwrnod.

Os ydynt yn sâl ychydig cyn neu yn ystod eu gwyliau, gallant ei gymryd fel absenoldeb salwch yn lle hynny.

Mae’r dudalen yma hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Nodiadau ffitrwydd a thystiolaeth o salwch

Rhaid i weithwyr roi ‘nodyn ffitrwydd’ i’w cyflogwr (a elwir weithiau yn ‘nodyn salwch’) os ydynt wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod yn olynol ac wedi cymryd absenoldeb salwch. Mae hyn yn cynnwys diwrnodau di-waith, megis penwythnosau a gwyliau banc.

Bydd y nodyn ffitrwydd yn dweud bod y cyflogai naill ai ‘ddim yn ffit i weithio’ neu ‘gallai fod yn ffit i weithio’.

Os yw’n dweud y ‘gallai’r gweithiwr fod yn ffit i weithio’, dylai cyflogwyr drafod unrhyw newidiadau a allai helpu’r cyflogai i ddychwelyd i’r gwaith (er enghraifft, oriau neu dasgau gwahanol). Rhaid trin y cyflogai fel ‘ddim yn ffit i weithio’ os nad oes cytundeb ar y newidiadau hyn.

Gall cyflogwyr gymryd copi o’r nodyn ffitrwydd. Dylai’r gweithiwr gadw’r gwreiddiol.

Cael nodyn ffitrwydd

Gall gweithwyr gael nodyn ffitrwydd o’r gweithwyr gofal iechyd proffesiynol canlynol:

  • meddyg teulu neu feddyg ysbyty
  • nyrs gofrestredig
  • therapydd galwedigaethol
  • fferyllydd
  • ffisiotherapydd

Mae’n angen i’r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol asesu ffitrwydd y gweithiwr i weithio cyn rhoi nodyn ffitrwydd.

Mae nodiadau ffitrwydd am ddim os yw’r gweithiwr wedi bod yn sâl am fwy na 7 diwrnod pan fydd yn gofyn am un. Efallai bydd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn codi tâl os ydy’r gweithiwr wedi bod yn sâl am 7 diwrnod neu’n llai.

Tystiolaeth arall o salwch

Os yw eu cyflogwr yn cytuno, gall y gweithiwr ddefnyddio dogfen debyg a elwir yn Adroddiad Iechyd a Gwaith Gweithiwr Proffesiynol Perthynol i Iechyd (AHP) yn lle hynny. Gall rhywun sy’n gweithio yn unrhyw un o’r galwedigaethau canlynol ddarparu hyn:

  • Therapydd Celf
  • Dramatherapydd
  • Ciropodydd
  • Dietegydd
  • Therapydd cerdd
  • Therapydd galwedigaethol
  • Ymarferydd Adran Weithredu
  • Orthoptydd
  • Osteopath
  • Orthotydd
  • Parafeddyg
  • Ffisiotherapydd
  • Podiatregydd
  • Prosthetydd
  • Radiograffydd
  • Therapydd lleferydd ac iaith

Bydd ffisiotherapydd neu therapydd galwedigaethol yn rhoi naill ai nodyn ffitrwydd neu Adroddiad Iechyd a Gwaith AHP yn dibynnu ar anghenion y cyflogai. Ni ellir defnyddio Adroddiad Iechyd a Gwaith AHP i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA).

Hunan-ardystio

Os yw gweithwyr i ffwrdd o’r gwaith am 7 diwrnod neu lai, nid oes angen iddynt roi nodyn ffitrwydd na phrawf arall o salwch gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol i’w cyflogwr.

Pan fyddant yn dychwelyd i’r gwaith, gall eu cyflogwr ofyn iddynt gadarnhau eu bod wedi bod i ffwrdd yn sâl. Gelwir hyn yn ‘hunan-ardystio’. Bydd y cyflogwr a’r gweithiwr yn cytuno ar sut y dylai’r cyflogai wneud hyn. Efallai y bydd angen iddynt lenwi ffurflen neu anfon manylion eu habsenoldeb salwch trwy e-bost.

Absenoldeb salwch a gwyliau

Mae hawl gwyliau statudol yn cael ei gronni (cronedig) tra bod cyflogai i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch (ni waeth pa mor hir y mae i ffwrdd).

Gall unrhyw hawl gwyliau statudol nad yw’n cael ei ddefnyddio oherwydd salwch gael ei gario drosodd i’r flwyddyn wyliau nesaf. Os bydd gweithiwr yn sâl ychydig cyn neu yn ystod ei wyliau, gall ei gymryd fel absenoldeb salwch yn lle hynny.

Gall cyflogai ofyn am gael cymryd ei wyliau â thâl am yr amser y mae i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch. Gallant wneud hyn os nad ydynt yn gymwys i gael tâl salwch, er enghraifft. Bydd unrhyw reolau sy’n ymwneud ag absenoldeb salwch yn berthnasol o hyd.

Ni all cyflogwyr orfodi gweithwyr i gymryd gwyliau blynyddol pan fyddant yn gymwys i gael absenoldeb salwch.

Tâl

Pan fydd gweithiwr yn newid ei wyliau i absenoldeb salwch mae’n cael Tâl Salwch Statudol a fydd yn cyfrif tuag at swm y tâl gwyliau y mae wedi’i dderbyn. Yr eithriadau i’r rheol hon yw:

  • nid ydynt yn gymwys ar gyfer Tâl Salwch Statudol
  • eu bod i ffwrdd o’r gwaith yn sâl ac yn cael ‘tâl salwch galwedigaethol’

Dychwelyd i’r gwaith

Rhaid i gyflogwyr wneud newidiadau i amodau gwaith cyflogai os yw’n anabl. Gelwir y newidiadau hyn yn ‘addasiadau rhesymol’ a gallent gynnwys gweithio oriau byrrach neu addasu offer y mae gweithwyr yn eu defnyddio yn y gwaith.

Gall gweithwyr gael cyngor gan Acas ar reoli cyflyrau iechyd yn y gwaith a dychwelyd i’r gwaith o absenoldeb salwch.

Salwch tymor hir

Gall gweithwyr sydd i ffwrdd o’r gwaith oherwydd salwch am fwy na 4 wythnos gael eu hystyried yn sâl am gyfnod hir. Mae gweithiwr sy’n sâl am gyfnod hir yn dal i fod â hawl i wyliau blynyddol.

Diswyddo gweithiwr sy’n sâl am gyfnod hir

Fel cam olaf, gall cyflogwyr ddiswyddo cyflogai sydd â salwch hirdymor, ond cyn y gallant wneud hyn rhaid i gyflogwyr:

  • ystyried a all cyflogai ddychwelyd i’r gwaith - megis gweithio’n hyblyg neu’n rhan-amser, gwneud gwaith gwahanol neu waith llai o straen (gyda hyfforddiant os oes angen)
  • ymgynghori â gweithwyr ynghylch pryd y gallent ddychwelyd i’r gwaith ac os fydd eu hiechyd yn gwella

Gall cyflogai fynd â’i achos i dribiwnlys cyflogaeth os yw’n meddwl ei fod wedi’i ddiswyddo’n annheg.