Pryd allwch wneud hawliad

Gallwch wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth os ydych yn meddwl bod rhywun, megis eich cyflogwr, darpar gyflogwr neu undeb lafur, wedi eich trin mewn ffordd anghyfreithlon.

Gall triniaeth anghyfreithlon gynnwys:

Mae’r tribiwnlys yn annibynnol o’r llywodraeth. Bydd yn gwrando arnoch chi (yr ‘hawlydd’) a’r unigolyn neu’r sefydliad rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn (yr ‘atebydd’) cyn gwneud penderfyniad.

Mae’r broses ar gyfer gwneud hawliad yn wahanol os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).

Terfynau amser

Gan amlaf bydd rhaid ichi wneud hawliad o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu’r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.

Os ydych chi’n meddwl eich bod wedi colli eich swydd yn annheg, bydd y cyfnod o 3 mis yn dechrau o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben.

Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu neu anghydfod ynghylch tâl, bydd y cyfnod o 3 mis yn dechrau o’r dyddiad pryd digwyddodd y digwyddiad neu’r anghydfod.

Cyn i chi wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth, mae’n rhaid ichi gysylltu ag Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Bydd y terfyn amser ar gyfer gwneud hawliad yn cael ei atal tra bydd Acas yn eich helpu gyda’ch anghydfod.

Os ydych yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg

Efallai y gallwch wneud cais i’ch cyflogaeth cyflogedig barhau (a elwir hefyd yn ‘gymorth interim’) hyd nes y penderfynir yr achos.

Gallwch ond wneud cais am gymorth interim mewn rhai sefyllfaoedd. Mae’r rhain yn cynnwys os ydych wedi’ch diswyddo am:

  • weithgareddau undeb llafur
  • gweithredu fel cynrychiolydd gweithwyr
  • chwythu’r chwiban

Mae’n rhaid i chi wneud eich hawliad o fewn 7 diwrnod i chi gael eich diswyddo. Nid oes rhaid i chi gysylltu ag Acas, oni bai eich bod hefyd yn gwneud hawliadau eraill nad ydynt yn ymwneud â gwneud cais am gymorth interim.