Os byddwch yn colli eich achos

Gallwch ofyn i’r tribiwnlys ailystyried y penderfyniad (neu’r ‘dyfarniad’) os byddwch yn colli’ch achos.

Mae’n rhaid ichi ysgrifennu i swyddfa’r tribiwnlys o fewn 14 diwrnod i’r penderfyniad ysgrifenedig gael ei anfon atoch, gan ddweud pam eich bod eisiau i’r penderfyniad gael ei ailystyried.

Mae rhaid ichi hefyd roi rhesymau da, er enghraifft:

  • mae’r tribiwnlys wedi gwneud camgymeriad yn y ffordd y daeth i’w benderfyniad
  • ni chawsoch eich hysbysu am y gwrandawiad, neu nid oeddech yn bresennol yn y gwrandawiad
  • mae yna dystiolaeth newydd

Anfonwch eich llythyr i swyddfa’r tribiwnlys a wnaeth ddelio â’ch achos.

Apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth

Gallwch hefyd apelio i’r Tribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth os ydych yn credu bod y tribiwnlys cyflogaeth wedi gwneud camgymeriad cyfreithiol.