Gwneud hawliad

Gallwch wneud hawliad:

  • ar gyfer chi eich hun, fel yr unig unigolyn sy’n gwneud yr hawliad
  • ar gyfer chi eich hun ac eraill sydd wedi’u trin yn yr un ffordd
  • ar gyfer rhywun arall, os ydych yn gweithredu fel eu cynrychiolydd

Gan amlaf bydd rhaid ichi wneud hawliad i’r tribiwnlys o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu’r dyddiad pan ddigwyddodd y broblem.

Gan amlaf byddwch angen tystysgrif cymodi cynnar ar gyfer pob atebydd cyn i chi wneud hawliad. Mae’r rhain ar gael gan Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu).

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd a allai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn gwrandawiad, gallwch hysbysu’r tribiwnlys y byddwch angen addasiadau rhesymol. Dywedwch wrth y tribiwnlys os ydych angen i addasiadau gael eu gwneud ar eich cyfer pan fyddwch yn gwneud eich hawliad neu ar unrhyw adeg yn ystod y broses gwneud hawliad.

Dylech hefyd ddarllen yr arweiniad ar chwythu’r chwiban os yw’n berthnasol i’ch hawliad.

Y gost

Nid oes rhaid i chi dalu ffi i wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.

Fodd bynnag, efallai y bydd rhaid i chi dalu costau eraill, er enghraifft:

  • costau tystion
  • costau’r bobl neu’r sefydliadau rydych yn gwneud hawliad yn eu herbyn (yr ‘atebwyr’) os bydd y tribiwnlys yn penderfynu eich bod wedi ymddwyn mewn modd afresymol

Gwneud hawliad ar-lein

Cyn ichi ddechrau, byddwch angen:

  • enwau a chyfeiriadau pawb sy’n gwneud yr hawliad (yr ‘hawlwyr’)
  • enwau a chyfeiriadau’r atebwyr – gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth hon yn eich llythyr cynnig swydd, eich contract cyflogaeth neu eich slipiau cyflog
  • rhifau eich tystysgrifau cymodi cynnar Acas

Gwneud hawliad ar-lein

Os ydych eisoes wedi cychwyn hawliad

Gallwch ddychwelyd i hawliad sy’n bodoli’n barod i barhau â’ch cais neu i weld yr hawliadau yr ydych wedi’u cyflwyno’n barod.

Gwneud hawliad drwy’r post

Gallwch hefyd lawrlwytho a llenwi ffurflen hawlio.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi i un o’r cyfeiriadau canlynol, yn ddibynnol ar lle oeddech chi’n gweithio.

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Cymru a Lloegr)
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG

Swyddfa Ganolog y Tribiwnlys Cyflogaeth (Yr Alban)
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR

Ffonio canolfan cyswllt cwsmeriaid y tribiwnlys cyflogaeth

Gallwch ffonio canolfan cyswllt cwsmeriaid y tribiwnlys cyflogaeth os ydych angen cymorth gyda’ch hawliad neu’r gwasanaeth ar-lein. Ni all y staff roi cyngor cyfreithiol i chi.

Os ydych yng Nghymru neu’n Lloegr

Rhif ffôn i siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am – 5pm, dydd Gwener 9am – 4.30pm
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: 0300 323 0196
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 323 0196
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau

Os ydych yn yr Alban

Rhif ffôn: 0300 790 6234
Relay UK (os na allwch glywed neu siarad ar y ffôn): 18001 yna 0300 790 6234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm
Gwybodaeth am gost galwadau