Gwneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth (T420)
Diweddarwyd 16 Mai 2025
Mae’r cyhoeddiad hwn hefyd yn berthnasol os ydych yn apelio yn erbyn:
- asesiad ardoll hyfforddiant a wnaethpwyd gan Fwrdd Hyfforddi Diwydiant
- hysbysiad gwella neu hysbysiad gwahardd a roddwyd dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb 1974
- hysbysiad o dandaliad a roddwyd dan Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol 1998
- hysbysiad o weithred anghyfreithlon a roddwyd dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010
- unrhyw hysbysiad arall pan fo’r apêl yn y tribiwnlys cyflogaeth
Os felly, cyfeirir atoch yn yr achos fel yr apelydd, ac yn y llyfryn hwn, pan ymddengys y gair ‘hawlydd’ neu ‘hawliad’ dylech ei ddarllen fel ‘apelydd’ neu ‘apêl’.
Nid yw’r gofyniad i gysylltu â’r gwasanaeth cynghori, cymodi a chyflafareddu (Acas) cyn cychwyn achos yn berthnasol os ydych yn apelio.
Canllawiau’r Llywyddion
Dan reolau’r tribiwnlys cyflogaeth gall Llywyddion y tribiwnlysoedd cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr a’r Alban gyhoeddi Canllawiau. Nod y canllawiau hyn yw galluogi’r partïon i ddeall yn well yr hyn a ddisgwylir ganddynt a’r hyn i’w ddisgwyl gan y tribiwnlys, ac i wella cysondeb o ran y ffordd y mae tribiwnlysoedd cyflogaeth yn rheoli achosion. Nid ydynt yn orfodol ond dylid eu dilyn lle bo hynny’n bosib.
Gweler ganllawiau’r ddau lywydd yng Nghymru a Lloegr a chanllawiau llywydd yr Alban.
Gall Tribiwnlys Cyflogaeth gymryd nifer o fisoedd i benderfynu ynglŷn â hawliad. Bydd yr amser y mae’n ei gymryd i gwblhau’r broses yn dibynnu beth sydd dan sylw a beth yw’r materion yn eich hawliad - os oes llawer o faterion, neu fod y materion yn gymhleth, efallai y bydd yn cymryd mwy o amser i ddelio â’r achos.
Os bydd y tribiwnlys cyflogaeth yn penderfynu o blaid eich hawliad, bydd yn ystyried pa ddyfarndal i’w roi. Cyfeirir at hyn yn aml fel ‘rhwymedi’ a roddir gan y tribiwnlys. Gall rhwymedi gynnwys agweddau ariannol a rhai nad ydynt yn ariannol. Er enghraifft, gall tribiwnlys wneud:
- datganiad fod yr atebydd wedi treisio eich hawliau
- argymhelliad mewn achos gwahaniaethu bod yr atebydd yn cymryd camau i leihau’r tebygolrwydd y bydd y weithred wahaniaethol yn digwydd eto
Bydd y dyfarndal yn cynnwys y swm y mae’r tribiwnlys yn cyfrifo y dylech fod wedi’i gael pe na fyddai’r torhawliau wedi digwydd, ac, yn ddibynnol ar natur yr hawliad, gall gynnwys dyfarndal mewn perthynas â chyfnod yn y dyfodol.
Bydd tribiwnlysoedd yn penderfynu pa ddyfarndal y mae gennych hawl iddo ar sail eich amgylchiadau personol, gan gynnwys:
- eich oed
- faint o arian rydych yn ennill
- niwed i’ch teimladau - mewn achosion sy’n ymwneud â gwahaniaethu
Bydd hyn ar sail y canllawiau presennol, a bennwyd mewn cyfraith achosion. Ar gyfer hawliadau diswyddo annheg, gall y tribiwnlys orchymyn eich bod yn cael eich ailbenodi i’ch swydd flaenorol neu bod yr atebydd yn eich penodi i swydd arall sy’n addas.
Bydd y dyfarndal i hawlwyr llwyddiannus yn wahanol ac yn dibynnu ar fanylion yr hawliad. Gallwch gael cyngor diduedd ynglŷn â’ch hawliad drwy ffonio llinell gymorth Acas ar 0300 123 1100.
Rheoliadau Cyffredinol Diogelu Data
Mae’r Weinyddiaeth Gyfiawnder a Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF yn prosesu gwybodaeth bersonol amdanoch chi yng nghyd-destun achosion tribiwnlys.
Darllenwch fwy am y safonau rydym yn eu dilyn wrth brosesu eich data.
I gael copi papur o’r hysbysiad preifatrwydd hwn, cysylltwch â’n Canolfan Cyswllt Cwsmeriaid.
Canolfan cyswllt cwsmeriaid
Cymru a Lloegr: 0300 323 0196
Siaradwyr Cymraeg: 0300 303 5176
Yr Alban: 0300 790 6234
Gellir anfon copi o’r ffurflen hawlio neu’r ffurflen ymateb ac unrhyw ohebiaeth arall sy’n gysylltiedig â’r tribiwnlys at y parti arall ac Acas at ddibenion:
- achosion tribiwnlys
- i setlo’r hawliad
Deddf yr Iaith Gymraeg
Os ydych yn gwneud hawliad yng Nghymru, cewch ofyn am gael gohebiaeth a galwadau ffôn yn Gymraeg. Os bydd y ddwy ochr yn cytuno, gellir cynnal y gwrandawiadau yn y Gymraeg yn unig. Os defnyddir y Gymraeg a’r Saesneg mewn gwrandawiad, gallwn ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar y pryd, dim ond ichi ofyn.
Cymodi Cynnar
Ar gyfer hawliadau a wneir i’r tribiwnlysoedd cyflogaeth ar ôl 6 Mai 2014, rhaid i unrhyw un sy’n dymuno gwneud hawliad (y darpar hawlydd) (gyda nifer gyfyngedig o esemptiadau) gysylltu ag Acas cyn gwneud ei hawliad. Bydd Acas yn cynnig cyfle i chi a’r darpar atebydd geisio datrys yr anghydfod heb orfod mynd drwy’r broses tribiwnlys cyflogaeth yn ffurfiol. Gelwir hyn yn cymodi cynnar.
Os bydd eich hawliad yn setlo drwy Acas, bydd yr hawliad yn cael ei dynnu oddi ar y rhestr ar gyfer gwrandawiad (os rhestrwyd yr achos ar gyfer gwrandawiad), a bydd ffeil yr achos yn cael ei ddinistrio yn unol â’n polisi dinistrio 12 mis o ddyddiad y setliad.
Ni ddylid cynnwys manylion am drafodaethau cymodi cynnar yn eich ffurflen hawlio.
Tribiwnlysoedd cyflogaeth
Mae’r tribiwnlysoedd cyflogaeth yn gwrando achosion ac yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â materion sy’n ymwneud â chyflogaeth megis:
- diswyddo annheg
- taliadau dileu swydd
- gwahaniaethu
- amrywiaeth o hawliadau sy’n ymwneud â chyflogau a thaliadau eraill
Er nad yw tribiwnlys cyflogaeth mor ffurfiol â llys, rhaid iddo gydymffurfio â rheolau trefniadaeth a gweithredu’n annibynnol.
Rhagor o gymorth a chyngor
Cymodi Cynnar - Hawliadau unigol
Mae’n rhaid i chi lenwi a chyflwyno ffurflen cymodi cynnar i Acas, sy’n nodi eich prif fanylion a rhai eich cyflogwr.
Fel arall, gallwch ffonio Acas ar 0300 123 1100 a darparu’r wybodaeth berthnasol.
Os ydych chi’n bwriadu gwneud hawliad yn erbyn mwy nag un darpar atebydd neu fwy nag un unigolyn, rhaid i chi lenwi ffurflen ar wahân ar gyfer pob un ohonynt.
Darllenwch fwy am gymodi cynnar a sut i gael y ffurflen. Cysylltwch ag Acas neu unrhyw ganolfan Cyngor Ar Bopeth i gael mwy o wybodaeth.
Ar ôl cael y ffurflen, bydd Acas yn cysylltu â chi i gael rhagor o fanylion ac i gynnig gwasanaethau cymodi.
Os byddwch chi a’r darpar atebydd/atebwyr yn derbyn y cynnig o gymodi cynnar, bydd gan Acas chwe wythnos i drafod sut i setlo’r mater.
Os bydd unrhyw barti yn gwrthod cymodi, neu os yw’n aflwyddiannus, bydd Acas yn darparu tystysgrif yn eich caniatáu i gyflwyno ffurflen hawlio i’r tribiwnlys cyflogaeth. Bydd y dystysgrif yn cynnwys rhif unigryw y bydd rhaid i chi ei ddyfynnu pan fyddwch yn gwneud eich hawliad. Os ydych wedi enwi mwy nag un darpar atebydd, darperir tystysgrif unigol yn cynnwys cyfeirnod unigryw ar gyfer pob darpar atebydd.
Hawliadau lluosog neu hawliadau grŵp
Pan fydd unigolyn (e.e. cynrychiolydd undeb llafur, cyfreithiwr neu ddarpar hawlydd yn gweithredu ar ran eraill) yn gwneud cais ar ran grŵp o bobl, gall ddewis gofyn i bob darpar hawlydd gyflwyno ffurflen unigol. Fel arall, bydd rhaid i’r cynrychiolydd lenwi a chyflwyno i Acas yr hyn a elwir yn ‘ffurflen gais grŵp’.
Yn y ffurflen honno gofynnir iddynt roi enwau a chyfeiriadau pob unigolyn yn y grŵp. Rhoddir cyfeirnod unigryw yn dechrau gyda ‘MU’ i’r hawliad grŵp hwn (ac felly i bob hawlydd sydd wedi’i gynnwys yn y ffurflen hon).
Os hysbysir rhagor o setiau o hawlwyr yn yr un anghydfod naill ai ar yr un diwrnod neu ar ddiwrnodau gwahanol, rhoddir rhif MU newydd i bob set newydd i wahaniaethu rhwng y set honno a’r hawliad grŵp gwreiddiol. Bydd pob achos yn yr un anghydfod yn cael ei glustnodi i’r un cymodwr.
Os nad yw cymodi cynnar yn llwyddiannus, yna bydd Acas yn rhoi un dystysgrif ar gyfer pob set o hawlwyr – h.y. un dystysgrif i bob rhif MU. Bydd pob tystysgrif yn dangos enwau pob unigolyn yn y set honno. Os oes angen, gall unrhyw unigolyn o fewn grŵp ofyn i Acas ddarparu tystysgrif unigol iddyn nhw eu hunain, gyda’u rhif unigryw eu hunain arni. Os gwneir hawliad yn yr anghydfod ar ôl hynny i dribiwnlys cyflogaeth, gall yr ET1 gynnwys pob hawlydd a bydd rhaid dyfynnu pob rhif MU mewn perthynas â’r hawlwyr hynny.
Eithriadau i’r gofyniad i gysylltu ag Acas
Byddwch yn cael eich esemptio o’r gofyniad i gysylltu ag Acas:
- os ydych yn cyflwyno’ch hawliad tribiwnlys cyflogaeth ar yr un ffurflen â hawlwyr eraill ac mae o leiaf un ohonynt wedi cydymffurfio â’r gofyniad am gymodi cynnar
- nid yw’r mater neu un o’r materion rydych yn cwyno amdano yn rhywbeth y mae gan Acas y pŵer i gymodi arno
- gallwch ddangos fod eich cyn-gyflogwr wedi bod mewn cysylltiad ag Acas
- rydych yn gwneud hawliad am gymorth interim – mae hwn yn fath anghyffredin o hawliad ac nid yw’r ffaith eich bod yn gwneud hawliad am ddiswyddo annheg yn golygu eich bod o anghenraid yn gwneud cais am gymorth interim
Os ydych wedi’ch esemptio o’r gofyniad i gysylltu ag Acas, gofynnir i chi nodi hynny ar y ffurflen hawlio a rhoi’r rheswm pam.
Mae’n bosib y bydd eich hawliad yn cael ei wrthod os byddwch yn hawlio esemptiad yn anghywir. Os nad ydych yn sicr, cysylltwch ag Acas.
Gallwch gael cymorth a chyngor gan:
- undeb llafur, os ydych yn aelod
- gwasanaethau cyngor am ddim megis canolfan y gyfraith neu Cyngor ar Bopeth yng Nghymru a Lloegr, neu Cyngor ar Bopeth yn yr Alban
- cyfreithwyr neu gynghorwyr proffesiynol eraill neu, yn Yr Alban, dan y cynllun cymorth cyfreithiol, mae’n bosib y gallant eich helpu i baratoi eich achos
Os yw eich hawliad yn ymwneud â gwahaniaethu, mae gwybodaeth arbenigol, cyngor a chymorth ar wahaniaethu yng Nghymru, Lloegr a’r Alban ar gael gan y Gwasanaeth Cynghori a Chymorth Cydraddoldeb (EASS).
Rhif ffôn: 08088000082 9am i 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am i 2pm ar ddydd Sadwrn Ar gau ar ddyddiau Sul a gwyliau banc
Gwefan: www.equalityadvisoryservice.com
Post: FREEPOST EASS HELPLINE FPN6521
Os ydych yn gwneud cais am daliad dileu swydd, mae yna derfynau amser penodol cymhleth. Gallwch gael cymorth gan y Llinell Gymorth Taliadau Dileu Swydd ar 0330 331 0020.
Os yw eich cwyn yn ymwneud â pheidio â chael yr isafswm cyflog cenedlaethol,
gallwch gael mwy o wybodaeth am gwynion ynghylch peidio â chael yr isafswm cyflog cenedlaethol.
Rhagor o wybodaeth
Gall staff canolfan cyswllt cwsmeriaid y tribiwnlysoedd cyflogaeth ateb ymholiadau cyffredinol, roi gwybodaeth am gyhoeddiadau’r tribiwnlysoedd ac egluro sut mae’r system tribiwnlysoedd yn gweithio. Efallai y gallant eich helpu i lenwi’r ffurflen ond ni allant roi cyngor cyfreithiol, megis eich cynghori ynghylch a fydd eich hawliad yn debygol o fod yn llwyddiannus.
Ceir manylion y Ganolfan Gyswllt Cwsmeriaid ar y dudalen olaf.
Gwybodaeth sydd ei hangen cyn y gellir derbyn hawliad
Ni ellir derbyn eich hawliad oni bai ei fod yn bodloni amodau penodol. Rhaid i’r hawliad fod ar ffurflen gymeradwy, a elwir yn ffurflen ragnodedig, a ddarperir gan dribiwnlysoedd cyflogaeth. Yn ôl y gyfraith, rhaid i chi roi i ni:
- eich enw a’ch cyfeiriad
- enw a chyfeiriad yr atebydd neu’r atebwyr (yr unigolyn neu’r sefydliad rydych yn gwneud hawliad yn ei erbyn)
- rhif neu rifau’r dystysgrif cymodi cynnar a roddwyd gan Acas neu ddatganiad eich bod wedi’ch esemptio o’r gofyniad i fynd drwy’r broses cymodi cynnar
Hefyd, rhaid i chi roi digon o fanylion ynglŷn â’ch hawliad fel gall y tribiwnlys a’r atebydd ddeall beth sydd dan sylw.
Os ydych yn gwneud apêl i’r tribiwnlys cyflogaeth yn erbyn, er enghraifft, asesiad ardoll hyfforddiant a wnaethpwyd gan Fwrdd Hyfforddi Diwydiant neu hysbysiad gwella neu hysbysiad gwahardd a roddwyd dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith ayb 1974, nid oes rhaid i chi ddefnyddio’r ffurflen ragnodedig.
Os na dderbynnir eich hawliad, bydd yr amser yn dal i fynd rhagddo mewn perthynas â’r terfyn amser sy’n berthnasol i wneud eich hawliad. Os byddwch yn cyflwyno eich hawliad yn rhy agos at y terfyn amser yna efallai ni dderbynnir yr hawliad.
Faint o amser sydd gennych i wneud hawliad i dribiwnlys cyflogaeth
Pan fyddwch yn cyflwyno’r ffurflen cymodi cynnar i Acas, bydd hynny’n ‘stopio’r cloc’ ar y terfyn amser ar gyfer cyflwyno eich hawliad.
Ni fydd y ‘cloc’ yn ailgychwyn tan yr ystyrir eich bod wedi cael y dystysgrif a roddir gan Acas.
Os anfonwyd y dystysgrif atoch chi drwy e-bost, ystyrir eich bod wedi ei chael ar y diwrnod anfonwyd yr e-bost.
Os anfonwyd y dystysgrif atoch chi drwy’r post, ystyrir eich bod wedi ei chael ar y diwrnod y byddai wedi cael ei danfon yng nghwrs arferol y post.
Wrth gyfrifo am sawl diwrnod y caiff y terfyn amser ei ymestyn, mae’r cyfnod yn dechrau ar y diwrnod ar ôl y diwrnod pan gafodd Acas eich cais am gymodi cynnar ac yn gorffen ar y diwrnod yr ystyrir eich bod wedi cael y dystysgrif. Bydd y dystysgrif cymodi cynnar yn dangos y dyddiad y cafodd Acas eich ffurflen cymodi cynnar.
Os ydych wedi’ch esemptio o’r gofyniad i gysylltu ag Acas, mae’n rhaid i’ch hawliad gyrraedd y tribiwnlys o fewn y terfynau amser caeth sy’n berthnasol i’r math o gŵyn rydych yn ei gwneud. Yn y rhan fwyaf o achosion, rhaid i’ch hawliad gyrraedd y tribiwnlys o fewn 3 mis o’r dyddiad daeth eich cyflogaeth i ben, neu o’r dyddiad pan ddigwyddodd y mater rydych yn cwyno yn ei gylch. Mae hyn yn golygu os digwyddodd ar 1 Mawrth, mae’n rhaid i’ch hawliad gyrraedd y tribiwnlys ar neu cyn 31 Mai. Os digwyddodd ar 5 Mawrth, mae’n rhaid i’ch hawliad gyrraedd y tribiwnlys ar neu cyn 4 Mehefin.
Mae’r terfyn amser ar gyfer gwneud apêl i’r tribiwnlys cyflogaeth yn dibynnu ar y math o apêl rydych yn ei gwneud. Er enghraifft
- rhaid cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad gwella neu hysbysiad gwahardd o fewn 21 diwrnod o ddyddiad cyflwyno’r hysbysiad
- rhaid cyflwyno apêl yn erbyn hysbysiad o dandaliad a roddwyd dan y Ddeddf Isafswm Cyflog Cenedlaethol o fewn 28 diwrnod i gyflwyno’r hysbysiad.
Mae’n bwysig cyflwyno’r hawliad neu apêl rydych am ei wneud o fewn y terfyn amser priodol.
Mae yna derfynau amser llym ar gyfer cyflwyno hawliadau i dribiwnlys cyflogaeth a nodir mewn deddfwriaeth. Os cyflwynir hawliad yn hwyr, gall barnwr barhau i ganiatáu iddo fynd rhagddo. Gellir gwneud penderfyniad barnwrol mewn gwrandawiad rhagarweiniol a drefnir at y diben hwnnw. Bydd y penderfyniad yn seiliedig ar amgylchiadau unigol yr achos a chymhwysiad y gyfraith berthnasol.
Os ydych yn anfon eich cais yn hwyr, dylech esbonio pam yn y ffurflen hawlio a/neu mewn llythyr eglurhaol neu e-bost. Dylech hefyd ddarparu unrhyw wybodaeth a/neu dystiolaeth a fydd, yn eich barn chi, yn cynorthwyo barnwr i benderfynu a ddylid caniatáu i’ch hawliad fynd rhagddo ai peidio er ei fod yn hwyr.
Diswyddo annheg
Yn gyffredinol, i hawlio am gael eich diswyddo’n annheg mae’n rhaid i chi fod wedi gweithio’n ddi-dor i’r atebydd am o leiaf dwy flynedd. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau pan fo’r unigolyn yn hawlio iddo gael ei ddiswyddo’n annheg, nid oes isafswm hyd gwasanaeth yn ofynnol i fod yn gymwys. Mae’r rhain yn ynnwys diswyddo pan hawlir mai’r prif reswm dros ddiswyddo yw:
- cymryd rhan neu gynnig i gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb neu ddefnyddio gwasanaethau undeb
- ymuno ag undeb neu ddewis peidio ag ymuno ag undeb
- cymryd rhan mewn gweithgareddau iechyd a diogelwch, naill ai fel ‘swyddog’ iechyd a diogelwch i gyflogwr neu fel cynrychiolydd gweithwyr
- cymryd rhan mewn gweithgareddau megis ymddiriedolwr cynllun pensiwn
- bod yn ‘gynrychiolydd gweithwyr’ neu’n bwriadu dod yn un
- bod yn weithiwr mewn siop neu’n weithiwr betio sy’n gwrthod gweithio ar ddydd Sul
- defnyddio rhai hawliau sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau Amser Gwaith
- cael eich diswyddo oherwydd eich bod yn feichiog neu am reswm sy’n gysylltiedig â beichiogrwydd
- cael eich diswyddo am arddel hawl statudol
- cael eich diswyddo am wneud datgeliad gwarchodedig
Cymorth interim
Os ydych yn credu eich bod wedi cael eich diswyddo’n annheg am un o’r rhesymau a restrir isod, gallwch wneud cais i dribiwnlys am ‘gymorth interim’:
- am wneud datgeliad gwarchodedig o fewn ystyr Deddf Datgelu er Lles y Cyhoedd 1998 (chwythu’r chwiban)
- am geisio arfer eich hawl i fynd â rhywun gyda chi (neu fynd gyda rhywun arall) i wrandawiad disgyblu neu wrandawiad ynghylch cwyn
- am fod yn gynrychiolydd gweithwyr: diswyddo cynrychiolydd diogelwch neu aelod o bwyllgor diogelwch am reswm sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth honno, diswyddo cynrychiolydd gweithwyr am fater sy’n gysylltiedig â’r Rheoliadau Amser Gwaith neu ddiswyddo gweithiwr sy’n ymddiriedolwr cynllun pensiwn galwedigaethol am reswm sy’n gysylltiedig â’r swyddogaeth honno
- am resymau sy’n gysylltiedig â’r undeb llafur: diswyddo am resymau sy’n gysylltiedig â bod yn aelod o undeb llafur neu beidio â bod yn aelod o undeb llafur, neu weithgarwch undeb llafur neu ddiswyddo o ganlyniad i rwystro neu hyrwyddo rhoi cydnabyddiaeth swyddogol i undeb llafur
- am arfer neu geisio arfer yr hawl i fynd â rhywun gyda chi i gyfarfod i drafod cais i beidio ag ymddeol, neu am fynd gyda neu geisio mynd gyda chydweithiwr i gyfarfod o’r fath
Os bydd y tribiwnlys yn caniatáu eich cais am gymorth interim, bydd eich cyflogaeth yn parhau’n gyfreithlon hyd nes y penderfynir yr achos a byddwch yn cael eich cyflog neu dâl.
Os cawsoch eich diswyddo am un o’r rhesymau uchod ac rydych eisiau gwneud cais am gymorth interim, rhaid i’ch hawliad gyrraedd y tribiwnlys o fewn 7 diwrnod i’r dyddiad y cawsoch eich diswyddo. Efallai yr hoffech gael cyngor hefyd.
Os yw eich cais am gymorth interim yn ymwneud â bod yn aelod neu gymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur, bydd rhaid i chi ddarparu, ar adeg gwneud eich hawliad, tystysgrif wedi’i llofnodi gan swyddog undeb llafur yn nodi fod y diswyddo ar sail undeb llafur. Rhaid i’r dystysgrif nodi fod yr unigolyn yn aelod, ac, ym marn y swyddog, bod y diswyddo yn ymwneud â’r ffaith fod yr unigolyn yn aelod neu’n cymryd rhan mewn gweithgareddau undeb llafur.
Os ydych yn gwneud eich cais ar-lein, ni fydd yn bosib atodi’r dystysgrif honno i’r ffurflen hawlio. Er mwyn prosesu’r cais am gymorth interim mor gyflym â phosib, byddem yn awgrymu i chi wneud y canlynol.
- Cyflwyno eich hawliad ar-lein.
- Anfon copi o’r ffurflen hawlio, y dystysgrif a’r cais am gymorth interim drwy e-bost i’r swyddfa tribiwnlys berthnasol.
- Nodi’n glir ar y ffurflen hawlio a gyflwynir ar-lein eich bod wedi gwneud hynny.
Hawliadau Datgelu er Lles y Cyhoedd
Os yw eich hawliad yn hawlio eich bod wedi gwneud datgeliad gwarchodedig dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (a elwir hefyd yn ‘chwythu’r chwiban’), neu’n cynnwys hawliad o’r fath, efallai y byddwn yn rhoi copi o’ch ffurflen hawlio i’r rheoleiddiwr perthnasol, os byddwch yn rhoi eich caniatâd.
Yna byddwn yn ysgrifennu atoch chi neu eich cynrychiolydd os oes gennych un, yn cadarnhau bod eich hawliad wedi’i gyfeirio at reoleiddiwr, os bydd yn berthnasol inni wneud hynny. Byddwn hefyd yn ysgrifennu at yr atebydd i esbonio beth rydym wedi’i wneud. Y rheoleiddiwr fydd yn penderfynu a oes angen ymchwilio i’r mater sylfaenol sydd yn y ffurflen hawlio.
Ni fyddwn yn anfon eich hawliad ymlaen at reoleiddiwr oni bai eich bod wedi rhoi tic yn y blwch yn adran 10.1, hyd yn oed os ydych wedi cyfeirio at hyn yn y ffurflen hawlio.
Er gallwn anfon copi o’r ffurflen hawlio at reoleiddiwr mewn rhai amgylchiadau, mae gan nifer o reoleiddwyr ffurflenni ar-lein i’ch cynorthwyo gyda’r broses o wneud datgeliad a dylai’r hawlydd neu eu cynrychiolydd lenwi’r ffurflen hon.
Chwiliwch am fanylion rheoleiddwyr unigol.
Dim ond at reoleiddwyr rhagnodedig y gellir cyfeirio eich hawliad fel a nodir yn y cyfarwyddyd. Darllenwch fwy am y cyfarwyddyd.
Bydd eich hawliad i’r tribiwnlys cyflogaeth yn mynd rhagddo p’un a yw’r hawliad yn cael ei gyfeirio at reoleiddiwr neu beidio, oni bai eich bod yn cael gwybod fel arall. Darllenwch fwy am chwythu’r chwiban.
Ble i anfon eich hawliad
Ni allwn dderbyn eich hawliad oni bai ei fod ar ffurflen gymeradwy (ragnodedig) a ddarparwyd gan Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Mae’n bwysig iawn felly, eich bod yn defnyddio’r ffurflen gymeradwy. Mae’r ffurflen ar gael yn y fformatau canlynol:
- fersiwn ar-lein ar gyfer cyflwyno eich hawliad
- copi papur y gellir ei lawrlwytho a’i anfon i’r swyddfa ganolog berthnasol
Cyflwyno hawliad ar-lein yw’r ffordd gyflymaf i anfon hawliad i’r tribiwnlys.
Cyfeiriadau’r Swyddfeydd Canolog i anfon hawliad iddynt trwy’r post yw:
Employment Tribunal Central Office (England and Wales)
PO Box 11225
Crown House
Loughborough
LE11 9PX
Employment Tribunals Central Office Scotland
PO Box 27105
GLASGOW
G2 9JR
Fodd bynnag, gallwch fynd â’ch ffurflen hawlio i un o’r swyddfeydd tribiwnlys cyflogaeth unigol a restrir yn yr atodlen i’r Cyfarwyddiadau Ymarfer (un atodlen ar gyfer Cymru a Lloegr ac un ar gyfer yr Alban) ar gyflwyno hawliadau.
Y swyddfeydd hynny yw:
Yng Nghymru a Lloegr:
Aberdeen
Ground Floor, AB1
48 Huntly Street
Aberdeen
AB10 1SH
Rhif ffôn: 01224 593 137 E-bost: aberdeenet@justice.gov.uk
Bryste
Bristol Civil & Family Justice Centre
2 Redcliff Street
Bryste
BS1 6GR
Rhif ffôn: 0117 929 8261 E-bost: bristolet@justice.gov.uk
Caeredin
54-56 Melville Street
Caeredin
EH3 7HF
Rhif ffôn: 0131 226 5584 E-bost: edinburghet@justice.gov.uk
Canol Llundain
Victory House
30-34 Kingsway
Llundain
WC2B 6EX
Rhif ffôn: 020 7273 8603 E-bost: londoncentralet@justice.gov.uk
Cymru
Llys Ynadon Caerdydd a’r Fro
Plas Fitzalan
Caerdydd
CF24 ORZ
Rhif ffôn: 0300 303 5176 E-bost: ymholiadaucymraeg@justice.gov.uk
De Llundain
Montague Court
101 London Road
West Croydon
CR0 2RF
Rhif ffôn: 020 8667 9131 E-bost: londonsouthet@justice.gov.uk
Dundee
Ground Floor
Endeavour House
Greenmarket
Dundee
DD1 4BZ
Rhif ffôn: 01382 221578 E-bost: dundeeet@justice.gov.uk
Dwyrain Canolbarth Lloegr
Nottingham Justice Centre
Carrington Street
Nottingham
NG2 1EE
Rhif ffôn: 0115 947 5701 E-bost: midlandseastet@justice.gov.uk
Dwyrain Llundain
2nd Floor
Import Building
2 Clove Crescent
Llundain
E14 2BE
Rhif ffôn: 020 7538 6161 E-bost: eastlondon@justice.gov.uk
Glasgow
The Glasgow Tribunals Centre
20 York Street
Glasgow
G2 8GT
Rhif ffôn: 0141 204 0730 E-bost: glasgowet@justice.gov.uk
Gorllewin Canolbarth Lloegr
Centre City Tower
7 Hill Street
Birmingham
B5 4UU
Rhif ffôn: 0121 600 7780 E-bost: midlandswestet@justice.gov.uk
Leeds
West Gate
6 Grace Street
Leeds
LS1 2RP
Rhif ffôn: 0113 245 9741 E-bost: Leedset@justice.gov.uk
Manceinion
Alexandra House
14-22 The Parsonage
Manceinion
M3 2JA
Rhif ffôn: 0161 833 6100 E-bost: manchesteret@justice.gov.uk
Newcastle
Newcastle Civil Family Courts & Tribunal Centre
Barras Bridge
Newcastle Upon Tyne
NE1 8QF
Rhif ffôn: 0191 205 8750 E-bost: newcastleet@justice.gov.uk
Watford
3rd Floor
Radius House
51 Clarendon Road
Watford
WD17 1HP
Os derbynnir eich hawliad, yn arferol pennir y swyddfa tribiwnlys fydd yn delio gyda’ch hawliad drwy edrych ar god post y man lle roeddech yn gweithio, neu y gwnaethoch gais i weithio ynddo, neu le ddigwyddodd y mater rydych yn cwyno yn ei gylch. Er enghraifft, os oeddech yn gweithio, neu wedi gwneud cais i weithio yn ardal cod post PE10, 11 neu 12 prosesir eich hawliad fel arfer yn swyddfa Canolbarth Lloegr (Dwyrain). Os ydych yn cyflwyno’r hawliad yn electronig, bydd y ffurflen hawlio yn cael ei hanfon yn awtomatig i’r swyddfa gywir. Os byddwch yn nodi’r cod post anghywir, efallai caiff eich hawliad ei anfon i’r swyddfa anghywir a gall hyn achosi oedi.
Os ydych yn cyflwyno eich hawliad drwy’r post, a bod yr hyn rydych yn cwyno yn ei gylch wedi digwydd yng Nghymru neu yn Lloegr, yna, yn amodol ar yr hyn a nodir isod ynghylch ’awdurdodaeth ddyblyg’, dylech ei anfon i Swyddfa Ganolog Cymru a Lloegr.
Os digwyddodd yr hyn rydych yn cwyno amdano yn yr Alban (yn amodol ar yr hyn a nodir ynghylch ‘awdurdodaeth ddyblyg’), dylech ei anfon i Swyddfa Ganolog Yr Alban.
Awdurdodaeth Ddyblyg
Mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig, gall tribiwnlys cyflogaeth yng Nghymru a Lloegr ddelio ag achos lle gweithiodd yr hawlydd yn yr Alban a gall tribiwnlys cyflogaeth yn yr Alban ddelio â rhai achosion lle gweithiodd yr hawlydd yng Nghymru neu Loegr.
Os ydych yn bwriadu gwneud hawliad drwy’r post, ac yn meddwl ei anfon i wlad wahanol i’r un lle’r oeddech yn gweithio, yna efallai yr hoffech geisio cyngor.
Os byddwch yn anfon eich hawliad i dribiwnlys cyflogaeth (Cymru a Lloegr), ond nid oes gan y tribiwnlys hwnnw’r gallu cyfreithiol i ddelio â’ch achos, ni dderbynnir eich hawliad. Mae’r un peth yn wir os byddwch yn anfon yr hawliad i dribiwnlys cyflogaeth yn yr Alban ac nid oes ganddo’r gallu cyfreithiol i ddelio â’ch achos.
Os na dderbynnir hawliad, bydd yr amser yn parhau i fynd rhagddo mewn perthynas â’r terfyn amser sy’n berthnasol i wneud eich hawliad.
Pan fydd hawliad wedi cael ei gyflwyno’n llwyddiannus ar-lein, byddwch yn cael derbynneb i gadarnhau hyn. Os na fyddwch yn cael derbynneb, dylech gysylltu â swyddfa’r tribiwnlys cyflogaeth ar unwaith. Gallwch weld i ba swyddfa yr anfonwyd eich ffurflen hawlio drwy gyfeirio at yr wybodaeth a geir yn nes ymlaen yn y cyhoeddiad hwn.
Os ydych wedi cyflwyno eich hawliad drwy’r post i un o’r swyddfeydd canolog neu wedi ei ddanfon trwy law i un o’r swyddfeydd dynodedig, byddwch yn cael cadarnhad unwaith y bydd yr hawliad wedi’i anfon ymlaen i’r swyddfa tribiwnlys cyflogaeth briodol i’w weithredu.
Dylech gadw copi o’ch ffurflen hawlio ar gyfer eich cofnodion. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod eich hawliad yn cyrraedd swyddfa’r tribiwnlys o fewn y terfyn amser perthnasol.
Ar ôl i chi anfon eich hawliad
Ni fydd eich hawliad yn cael ei dderbyn os:
- nad yw wedi’i gyflwyno ar ffurflen gymeradwy
- nid ydych wedi rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen, gan gynnwys naill ai rif neu rifau tystysgrif cymodi cynnar neu ddatganiad eich bod wedi’ch esemptio o’r gofyniad i gysylltu ag Acas
O dan yr amgylchiadau hynny, bydd y ffurflen yn cael ei dychwelyd i chi gyda llythyr yn nodi’r rheswm pam a pha gamau dylech eu cymryd nesaf. Os na dderbynnir hawliad, bydd yr amser yn dal i fynd rhagddo mewn perthynas â’r terfyn amser sy’n berthnasol i wneud eich hawliad.
Os derbynnir eich hawliad, byddwn yn anfon llythyr atoch i gadarnhau hyn. Bydd y llythyr hwnnw’n cynnwys dolen i gyhoeddiad ‘Eich hawliad – beth nesaf’ a fydd yn dweud wrthych beth yw’r camau nesaf. Ar yr un pryd, byddwn yn anfon copi o’ch ffurflen hawlio at yr atebydd, ynghyd â ffurflen ar gyfer eu hymateb.
Yn y mwyafrif o achosion byddwn hefyd yn anfon copi o’ch hawliad at Acas. Bydd un o gymodwyr Acas yn cysylltu â chi i weld a fyddai’n bosib datrys yr hawliad drwy gymodi a heb fod angen gwrandawiad tribiwnlys.
Gohebiaeth
Mewn gohebiaeth yn y dyfodol byddwn yn cyfeirio atoch chi fel yr ‘hawlydd’ a’r sawl rydych chi’n cwyno yn ei erbyn fel ‘yr atebydd.’ Byddwn yn anfon copi o’ch ffurflen hawlio at yr atebydd.
Dan y rheolau trefniadaeth, gofynnir i bartïon anfon copi o unrhyw lythyrau neu ddogfennau y byddant yn eu hanfon i’r tribiwnlys (ar wahân i gais am orchymyn tyst) at bob parti arall a nodi eu bod wedi gwneud hyn. Gallwch ddangos eich bod wedi gwneud hyn, er enghraifft, drwy ddefnyddio ‘cc’.
Byddwn yn anfon unrhyw benderfyniad y bydd y tribiwnlys yn ei wneud atoch chi ac at yr atebydd.
Rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os bydd eich manylion cyswllt yn newid. Os oes gennych gynrychiolydd (rhywun rydych yn gofyn iddynt weithredu ar eich rhan), byddwn yn anfon pob gohebiaeth am eich achos ato ef/hi ac nid atoch chi. Rhaid i chi anfon unrhyw geisiadau pellach am wybodaeth drwy’r cynrychiolydd ac nid yn syth atom ni.
Costau’r atebydd
Fel arfer, nid oes rhaid i chi dalu costau’r atebydd. Fodd bynnag, gall y tribiwnlys wneud gorchymyn ar gyfer costau neu amser paratoi os yw’n credu eich bod chi neu eich cynrychiolydd wedi ymddwyn yn ymosodol, yn aflonyddgar neu’n afresymol mewn modd arall o ran y ffordd rydych wedi trin eich achos neu os yw’n meddwl bod eich hawliad mor wan fel na ddylai fod wedi ei wneud. Yn yr Alban, cyfeirir at gostau fel treuliau.
Hefyd, mae gan Farnwyr cyflogaeth a thribiwnlysoedd y pŵer, pan fo’r gwrandawiad yn ymwneud â hawliad a wnaethpwyd ar neu ar ôl 6 Ebrill 2012, i orchymyn parti i dalu treuliau unrhyw dyst neu dystion y gofynnwyd iddynt fynychu’r gwrandawiad.
Hawliadau torri contract
Os ydych yn gwneud hawliad am dorri amodau contract, dylech fod yn ymwybodol mai dim ond iawndal am hyd at £25,000 y gall Tribiwnlysoedd Cyflogaeth ei ddyfarnu. Os yw swm yr iawndal yr ydych yn ei hawlio am dorri amodau contract yn fwy na £25,000 dylech wneud yr hawliad drwy’r Uchel Lys yng Nghymru a Lloegr, neu Lys y Siryf neu Lys y Sesiwn yn yr Alban. Efallai yr hoffech geisio cyngor cyfreithiol.
Llenwi’r ffurflen hawlio bapur
Rydym wedi dylunio’r nodiadau canllaw hyn fel eu bod mor ddefnyddiol ag sy’n bosibl. Fodd bynnag, nid ydynt yn nodi’r gyfraith yn ei chyfanrwydd. Ni fydd eich hawliad yn cael ei dderbyn os na fyddwch yn rhoi’r wybodaeth sydd wedi’i marcio â seren (*).
1 Eich manylion
1.1 Ticiwch y blwch perthnasol i ddynodi sut y dylid cyfeirio atoch – Mr, Mrs, Miss, Ms neu arall.
1.2* Rhowch eich enw neu enwau cyntaf.
1.3* Rhowch eich cyfenw neu enw teulu mewn PRIFLYTHRENNAU.
1.4 Rhowch eich dyddiad geni ar y ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 25/02/1965) a thiciwch y blwch perthnasol i ddweud wrthym ai gwryw ynteu fenyw ydych chi. Mae’n ddefnyddiol os ydych yn rhoi eich dyddiad geni oherwydd bod angen yr wybodaeth hon gyda mathau penodol o hawliadau.
1.5 Rhywedd – Gwryw, Benyw, Mae’n well gennyf beidio dweud.
1.6* Rhowch eich cyfeiriad llawn, gan gynnwys rhif y tŷ, stryd, tref neu ddinas, sir a chod post.
1.7 Rhowch rif(au) ffôn (gan gynnwys y cod deialu llawn ar gyfer llinellau tir) y gallwn ddefnyddio i gysylltu â chi yn ystod oriau gwaith arferol.
1.8 Rhowch eich rif ffôn symudol os yw’n wahanol.
1.9 Ticiwch y blwch perthnasol i ddweud sut y byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi yn y dyfodol. Os ydych eisiau defnyddio e-bost i gyfathrebu, dylech wirio eich negeseuon e-bost bob dydd. Er byddwn fel arfer yn ceisio defnyddio e-bost os ydych yn dymuno i ni wneud hynny, ni fydd hyn yn bosib bob amser gan fod angen i rai dogfennau gael eu llofnodi gan farnwr cyflogaeth.
1.10 Os byddai’n well gennych i ni gysylltu â chi drwy e-bost yn y dyfodol, rhowch eich cyfeiriad e-bost, os gwelwch yn dda.
1.11 A fyddech chi’n gallu cymryd rhan mewn gwrandawiadau fideo a gwrandawiadau dros y ffôn?
2 Manylion yr atebydd
Os bydd eich hawliad yn cael ei dderbyn, byddwn yn anfon copi o’ch hawliad i’r sefydliad rydych yn cwyno amdano (yr atebydd) fel y gallant baratoi ymateb i’ch cwyn. Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym pwy yn union yw’r atebydd er mwyn osgoi oedi wrth brosesu eich hawliad. Dylech allu canfod hyn drwy edrych ar y llythyr a oedd yn cynnig eich swydd i chi, eich contract cyflogaeth neu eich slip cyflog.
2.1 Rhowch enw’r atebydd h.y. enw’ch cyflogwr, yr unigolyn neu’r sefydliad y mae eich hawliad yn ei erbyn (Os ydych angen, gallwch ychwanegu mwy o atebwyr yn 2.5). Dylai enw’r atebydd gyfateb ag enw’r atebydd sydd ar eich tystysgrif cymodi cynnar gan ACAS. Os nad ydynt yn cyfateb, gall eich hawliad gael ei wrthod.
2.2* Rhowch gyfeiriad llawn a chod post yr atebydd. Os oeddech yn gweithio mewn cyfeiriad gwahanol, rhaid i chi lenwi adran 2.4 hefyd, oherwydd bydd yn pennu pa ranbarth neu wlad fydd yn delio â’ch hawliad.
2.3 Rhowch y rhif tystysgrif cymodi cynnar a rhoddwyd gan Acas neu dywedwch pam nad oes gennych un. Mae’n bosib y bydd eich hawliad yn cael ei wrthod os byddwch yn hawlio esemptiad yn anghywir. Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Acas.
2.4 Rhowch gyfeiriad llawn a chod post y man lle’r oeddech yn gweithio, neu’r man lle gwnaethoch gais i weithio yno, os yw’n wahanol i gyfeiriad yr atebydd a roesoch yn 2.2. Os oeddech yn gweithio gartref, rhowch fanylion eich cartref, gan y byddwn yn trin eich cyfeiriad cartref a’ch cod post fel eich gweithle. (Os na fyddwch yn llenwi’r adran hon, bydd eich hawliad yn cael ei ddyrannu i’r rhanbarth tribiwnlys neu wlad sy’n berthnasol i’r cyfeiriad a nodir yn 2.2)
2.5 a 2.7 Gall cwynion fod yn erbyn un atebydd neu nifer o atebwyr. Mewn achosion gwahaniaethu, gellir dwyn hawliad yn erbyn mwy nag un atebydd, y cyflogwr ac unrhyw unigolyn y mae’r cyflogwr yn gyfrifol amdano, yr ydych chi’n honni sydd wedi cyflawni gweithred, neu weithredoedd gwahaniaethol yn eich erbyn.
Os ydych yn dwyn eich hawliad yn erbyn mwy nag un atebydd, ticiwch y blwch a rhowch fanylion yr ail atebydd ac unrhyw atebwyr eraill gan gynnwys eu henwau a’u cyfeiriadau.
2.6 a 2.8 Rhowch y rhif tystysgrif cymodi cynnar a rhoddwyd gan Acas neu dywedwch pam nad oes gennych un. Mae’n bosib y bydd eich hawliad yn cael ei wrthod os byddwch yn hawlio esemptiad yn anghywir. Os ydych yn ansicr, cysylltwch ag Acas.
Noder, rhaid nodi rhifau tystysgrif Acas ar wahân ar gyfer pob atebydd a enwir. Defnyddiwch Adran 13 ar y ffurflen hon i roi manylion atebwyr ychwanegol.
3 Achosion lluosog
3.1 Os gwyddoch fod eich hawliad yn un o nifer o hawliadau sy’n codi o’r un amgylchiadau neu rai tebyg yn erbyn yr un atebydd, ticiwch ‘Ydy’ ac, os gwyddoch enwau unrhyw rai o’r hawlwyr eraill, rhowch eu henwau yn y blwch a ddarparwyd. Bydd hyn yn ein galluogi i baru’ch hawliad â hawliadau perthnasol eraill.
4 Achosion lle nad yr atebydd oedd eich cyflogwr
4.1 Os nad oeddech yn gyflogedig gan unrhyw un o’r atebwyr rydych wedi’u henwi yn rhan 2, ond eich bod yn gwneud hawliad am ryw reswm arall mewn cysylltiad â chyflogaeth (er enghraifft, yn ymwneud â chais am swydd neu yn erbyn undeb llafur), nodwch y math o hawliad rydych yn ei wneud yma.
5 Manylion cyflogaeth
5.1 Os yw eich cwyn yn erbyn eich cyflogwr neu gyn-gyflogwr, rhowch y dyddiad dechreuodd eich cyflogaeth, nodwch p’un a ydych yn parhau i fod yn gyflogedig ac, os yw’n berthnasol, y dyddiad daeth y gyflogaeth i ben neu y daw i ben. Defnyddiwch y ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 08/09/2023).
5.2 Rhowch eich teitl swydd a dweud pa swydd yr ydych yn ei gwneud neu yr oeddech yn ei gwneud i’ch cyflogwr.
6 Enillion a buddion
6.1 Rhowch nifer sylfaenol yr oriau yr ydych yn eu gweithio neu yr oeddech yn eu gweithio bob wythnos – peidiwch â chynnwys goramser, hyd yn oed os oeddech yn ei weithio’n rheolaidd.
6.2 Rhowch fanylion eich cyflog sylfaenol, cyn treth ac unrhyw ddidyniadau ond heb gynnwys taliadau goramser. Yna rhowch fanylion eich cyflog clir arferol (sef eich cyflog ar ôl tynnu treth, Yswiriant Gwladol ac unrhyw ddidyniadau eraill ond yn cynnwys goramser, comisiynau a bonysau). Dylai bod eich slip cyflog yn dangos y symiau hyn. Dylech dalgrynnu’r symiau i’r bunt agosaf. Ticiwch y blwch perthnasol i ddangos a yw hyn am wythnos, mis neu’n flynyddol.
6.3 Os yw eich cyflogaeth wedi dod i ben, ticiwch y blwch perthnasol i ddweud a wnaethoch weithio neu a gawsoch eich talu am gyfnod o rybudd. Os felly, dywedwch wrthym am ba hyd y gwnaethoch weithio neu y cawsoch eich talu.
6.4 Ticiwch y blwch priodol i ddweud a oeddech yng nghynllun pensiwn eich cyflogwr ai peidio. Os oeddech, nodwch gyfraniadau wythnosol eich cyflogwr.
6.5 Rhowch fanylion unrhyw fuddion eraill a gawsoch gan eich cyflogwr. Gallai enghreifftiau gynnwys car cwmni neu yswiriant meddygol. Disgrifiwch pa fath o fudd a gawsoch a rhowch syniad o’i werth.
7 Os yw eich swydd gyda’r atebydd wedi dod i ben, beth sydd wedi digwydd ers hynny?
7.1 Ticiwch y blwch priodol i ddweud a ydych wedi cael swydd arall ai peidio ers gadael eich cyflogaeth. Os nad oes gennych swydd arall, ewch ymlaen i adran 8.
7.2 Os ydych wedi cael swydd arall, dywedwch wrthym pa bryd y gwnaethoch ddechrau gweithio (neu y byddwch yn dechrau gweithio).
7.3 Dywedwch wrthym faint yr ydych yn ei ennill (neu y byddwch yn ei ennill) bob wythnos, mis neu flwyddyn yn eich swydd newydd.
Math a manylion yr hawliad
8.1* Ticiwch y blwch neu’r blychau priodol i ddweud am beth yr ydych yn cwyno.
8.2* Rhowch gefndir a manylion eich cwynion.
Diswyddo annheg
Os yw eich hawliad neu ran o’ch hawliad yn ymwneud â chael eich diswyddo’n annheg gan yr atebydd, neu os ydych yn hawlio bod diswyddo deongliadol wedi digwydd, defnyddiwch y blwch a ddarperir i esbonio cefndir y diswyddiad a rhoi unrhyw wybodaeth arall y credwch fyddai’n ddefnyddiol i ni.
Os ydych yn anghytuno â’r rheswm y rhoddodd yr atebydd dros eich diswyddo, dywedwch beth oedd y rheswm yn eich barn chi. Dylech ddisgrifio’r digwyddiadau a arweiniodd at eich diswyddiad a disgrifio sut y digwyddodd y diswyddiad, gan gynnwys dyddiadau, amseroedd a’r bobl dan sylw.
Os ydych yn hawlio bod gweithredoedd yr atebydd wedi achosi i chi ymddiswyddo a gadael eich swydd (diswyddo deongliadol), esboniwch yn fanwl yr amgylchiadau a oedd yn gysylltiedig â hyn.
Gwahaniaethu
Gall gwahaniaethu ddigwydd ar sail:
- rhyw (gan gynnwys cwynion ynghylch cyflog cyfartal), priodas neu bartneriaeth sifil
- beichiogrwydd a mamolaeth
- ailbennu rhywedd
- hil
- cyfeiriadedd rhywiol
- crefydd neu gred
- oed
- rheswm sy’n gysylltiedig ag anabledd
Mae cyfreithiau gwahaniaethu yn cwmpasu holl feysydd cyflogaeth, gan gynnwys:
- recriwtio
- hyfforddiant
- dyrchafu
- diswyddo
Maent hefyd yn cynnwys erledigaeth oherwydd eich bod chi (neu mae’r atebydd yn credu eich bod chi) wedi cwyno ynghylch gwahaniaethu neu wedi helpu rhywun arall i wneud hynny, neu eich bod chi wedi gwneud rhywbeth arall sy’n gysylltiedig â’r hawliau dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Gall digwyddiadau sy’n digwydd ar ôl i chi adael eich cyflogaeth gael eu cynnwys dan gyfreithiau gwahaniaethu hefyd.
Yn y blwch, disgrifiwch y digwyddiadau a oedd yn cyfateb i wahaniaethu yn eich barn chi, dyddiadau’r digwyddiadau hyn a’r bobl dan sylw. Esboniwch ym mha ffordd, yn eich barn chi, y profoch wahaniaethu. Os ydych chi’n gwneud cwyn am wahaniaethu pan wnaethoch gais am swydd, dywedwch pa swydd yr oeddech yn ymgeisio amdani. Os ydych chi’n gwneud cwyn am fwy nag un math o wahaniaethu, rhowch fanylion ar wahân am y weithred (neu’r gweithredoedd) o wahaniaethu.
Dylech ddisgrifio sut y mae’r digwyddiadau rydych yn cwyno amdanynt wedi effeithio arnoch.
Os na allwch roi dyddiadau ar gyfer pob un o’r digwyddiadau rydych yn cwyno amdanynt, rhaid i chi o leiaf roi dyddiad y digwyddiad olaf neu ddweud wrthym a yw’r gwahaniaethu’n parhau.
Taliad dileu swydd
Os ydych yn hawlio taliad dileu swydd, dywedwch a ydych wedi gofyn i’ch cyflogwr am daliad. Os ydych, rhowch y dyddiad ar ffurf diwrnod/mis/blwyddyn (er enghraifft 08/09/2023).
Dywedwch a ydych wedi gwneud cais i Swyddfa Taliadau Dileu Swydd (RPO) am daliad. Os ydych wedi gwneud cais i RPO, dywedwch wrthym a gafodd eich hawliad ei wrthod ac, os felly, y dyddiad a nodir ar y llythyr gwrthod.
Taliadau eraill sy’n ddyledus i chi
Os ydych yn cwyno am gyflog, tâl gwyliau, taliad am gyfnod o rybudd neu ryw daliad arall nad yw wedi cael ei dalu ichi (gallai symiau eraill nad ydynt wedi cael eu talu gynnwys treuliau, comisiwn neu fonws heb eu talu), dywedwch wrthym faint yr ydych yn ei hawlio.
Esboniwch pam yr ydych yn credu bod gennych hawl i’r taliad hwn, gan roi manylion llawn megis y cyfnod y mae’r taliad yn ei gwmpasu a chyfradd y taliad. Os ydych wedi nodi swm, dywedwch sut y gwnaethoch chi ei gyfrifo. Os ydych yn hawlio mwy nag un math o daliad, rhowch y symiau yr ydych yn eu hawlio ar gyfer pob math o daliad ac esbonio sut y gwnaethoch gyfrifo pob swm.
Cwynion eraill
Dywedwch beth yw eich cwyn ac esbonio’r digwyddiadau a arweiniodd at eich hawliad, gan gynnwys unrhyw ddyddiadau perthnasol. Os yw’n bosib, dywedwch pa gyfraith sy’n berthnasol i’ch hawliad.
Beth hoffech chi ei gael os yw eich hawliad yn llwyddiannus?
9.1 Byddai’n ddefnyddiol pe gallech ddweud beth rydych yn ei geisio gan yr atebydd os yw eich hawliad yn llwyddiannus trwy roi tic yn y bwlch perthnasol.
Argymhelliad
Pan fydd tribiwnlys yn profi fod gwahaniaethu anghyfreithlon wedi digwydd, mae ganddo’r pŵer i argymell bod cyflogwr yn cymryd camau i leihau effaith y gwahaniaethu arnoch chi ac ar unrhyw unigolyn arall, megis eich cydweithwyr yn y gwaith.
Bydd argymhelliad yn nodi’r camau y dylid eu cymryd o fewn terfyn amser penodol a gall, er enghraifft, gynnwys:
- ailhyfforddi staff
- cyhoeddi meini prawf dethol a ddefnyddir ar gyfer trosglwyddo neu ddyrchafu staff
- sefydlu panel adolygu i ddelio â chyfleoedd cyfartal
- aflonyddu a chwynion
Os bydd y cyflogwr yn methu â chydymffurfio â’r argymhelliad, a bod y tribiwnlys wedi dyfarnu iawndal i chi, gellir cynyddu’r dyfarndal hwnnw. Os na ddyfarnwyd iawndal yn wreiddiol gellir ei ddyfarnu unwaith y daw’n glir nad yw’r cyflogwr wedi cydymffurfio â’r argymhelliad. Er nad yw’n orfodol, gall methu cydymffurfio ag argymhelliad y tribiwnlys fod yn niweidiol i enw da’r cyflogwr a gellir ei ddefnyddio yn eu herbyn mewn hawliadau yn ymwneud â gwahaniaethu yn y dyfodol.
9.2 Yn y blwch a ddarparwyd, rhowch fanylion yr iawndal neu rwymedi rydych yn ei geisio. Os ydych yn hawlio iawndal ariannol, rhowch gymaint o fanylion ag y gallwch am faint rydych yn ei hawlio a sut wnaethoch gyfrifo’r swm hwn.
Cyfrifo Iawndal
Os dyfernir iawndal, bydd y cyfanswm yn dibynnu ar y math o hawliad rydych chi’n ei wneud. Ystyrir amrywiaeth o ffactorau eraill hefyd.
Y math symlaf o achos mewn perthynas â chyfrifo iawndal tebygol yw hawliad am gyflog heb ei dalu. Mewn achos o’r fath, os byddwch yn ennill, y cyfanswm a ddyfernir gan y tribiwnlys fydd cyfanswm y cyflog y dylech fod wedi’i gael fel tâl. Nid oes gan y tribiwnlys bŵer mewn achos o’r math hwn i ddyfarnu iawndal am ofid a achoswyd i chi ond gallant ddyfarnu iawndal ychwanegol os y gallwch ddangos bod methiant y cyflogwr i dalu’r swm cywir wedi achosi colled ariannol i chi megis ffioedd banc.
Diswyddo Annheg
Mewn achos diswyddo annheg, gall y tribiwnlys orchymyn bod y cyflogwr yn eich adfer i’ch hen swydd neu’n eich penodi i swydd debyg. Yn y naill sefyllfa neu’r llall, byddech hefyd yn cael ôl-daliadau cyflog. Byddai buddion cyflogaeth eraill, fel aelodaeth yng nghynllun pensiwn eich cyflogwr yn cael ei adfer fel petai na chawsoch eich diswyddo. Fodd bynnag, os yw eich cyflogwr yn gwrthod eich ailgyflogi yn unol â gorchymyn y tribiwnlys, ni ellir ei orfodi i wneud hynny, ond gall y tribiwnlys gynyddu’r iawndal y dyfarnwyd i chi eisoes.
Gan dybio nad ydych yn dychwelyd i weithio gyda’r cyflogwr, yna gall y tribiwnlys ddyfarnu iawndal ariannol a rennir i ddyfarndal ‘cyffredin’ a dyfarndal ‘cydadferol’.
Cyfrifir y dyfarndal cyffredin drwy ddefnyddio fformiwla sy’n ystyried eich oed, hyd gwasanaeth (hyd at 20 mlynedd) a’ch tâl wythnosol, hyd at uchafswm penodol bob wythnos. Fel arfer, mae’r swm hwn yn newid bob blwyddyn.
Wrth wneud dyfarndal cydadferol, mae’n rhaid i’r tribiwnlys ystyried beth sy’n deg a chyfiawn.
Fel arfer, bydd yn cael ei gyfrifo ar sail eich ‘colled blaenorol’ – y cyflog rydych wedi’i golli hyd at ddyddiad y gwrandawiad tribiwnlys – a hefyd gall ystyried eich ‘colled yn y dyfodol’ – y cyflog y byddwch wedi’i golli erbyn y dyddiad mae’r tribiwnlys yn amcangyfrif y byddwch wedi dod o hyd i swydd arall.
Gall y golled yn y dyfodol fod yn anodd iawn i’w chyfrifo oherwydd gall y tribiwnlys ond dyfalu ar sail nifer o ffactorau gan gynnwys amgylchiadau’r farchnad gyflogaeth leol. Os ydych wedi bod yn cael lwfans ceisio gwaith neu gymhorthdal incwm, bydd yr iawndal y cewch gan eich cyflogwr yn llai yn y pen draw oherwydd didynnir cyfanswm y budd-daliadau a gawsoch oherwydd bod rhaid i’ch cyflogwr ei ad-dalu i’r llywodraeth. Mae yna uchafswm yn berthnasol i’r dyfarndal cydadferol.
Mae’n bwysig eich bod yn ymwybodol fod gennych ddyletswydd gyfreithiol i ‘liniaru’ (lleihau) eich colled o ran cyflog drwy geisio cael swydd arall, a gofynnir i chi gyflwyno gwybodaeth ynghylch eich ymdrechion i wneud hynny. Hefyd, dylech wybod y gall y tribiwnlys leihau’r dyfarndaliadau cyffredin a chydadferol os daw i’r canlyniad, ar sail y dystiolaeth a geir, eich bod wedi ‘cyfrannu’ at (h.y. yn rhannol ar fai) gael eich diswyddo. Fel arfer, ni all y tribiwnlys ddyfarnu iawndal ychwanegol mewn achosion diswyddo annheg am ofid neu frifo teimladau.
Achosion gwahaniaethu
Mewn achos gwahaniaethu, gall y tribiwnlys ddyfarnu iawndal am golled ariannol. Gall hyn fod am golli cyflog os cawsoch eich diswyddo am reswm gwahaniaethol neu os dylech fod wedi cael swydd y gwnaethoch gais amdani ond ni chawsoch y swydd oherwydd gwahaniaethu. Fodd bynnag, eto, disgwylir i chi leihau eich colled drwy geisio cael swydd arall.
Mewn achos gwahaniaethu, gall y tribiwnlys hefyd ddyfarnu iawndal am frifo teimladau – hynny yw, swm o arian a delir i ddigolledu am y niwed a gofid a achoswyd oherwydd gwahaniaethu. Bydd y cyfanswm a ddyfernir yn amrywio yn ddibynnol ar ba mor ddrwg yr effeithiwyd ar yr unigolyn. Bydd angen tystiolaeth er mwyn galluogi’r tribiwnlys i asesu hyn.
Mewn achosion eithafol, os oes tystiolaeth bod unigolyn yn sâl oherwydd gwahaniaethu, yna gellir dyfarnu iawndal am anaf personol hefyd. Fodd bynnag, mewn achosion o’r fath, bydd angen tystiolaeth feddygol ar y tribiwnlys sy’n esbonio pa salwch sydd wedi datblygu a sut mae’n gysylltiedig â’r gwahaniaethu.
Hefyd, gall tribiwnlys wneud argymhelliad mewn achos gwahaniaethu ac os nad yw’r cyflogwr yn cydymffurfio â’r argymhelliad, gellir rhoi iawndal yn lle.
Yn gyffredinol, bydd dyfarniad iawndal y tribiwnlys yn deg a chyfiawn ac yn ystyried yr holl amgylchiadau ym mhob achos. Os ydych wedi gwneud hawliad am ddiswyddo annheg a gwahaniaethu, ni fyddwch yn cael ‘dwbl’ yr iawndal. Hynny yw, os cawsoch y cyflog a gollwyd fel rhan o’r iawndal am ddiswyddo annheg, ni fyddwch yn cael yr arian eto fel rhan o’ch iawndal am wahaniaethu.
Gwybodaeth i reoleiddwyr mewn achosion datgeliad gwarchodedig
10.1 Os yw’n briodol, ticiwch y blwch a nodwch enw’r rheoleiddiwr.
I gael eglurhad ar y broses hon, cyfeiriwch at y canllawiau a nodir o dan y pennawd ‘Datgelu Gwybodaeth Gyhoeddus’.
11 Eich cynrychiolydd
Dim ond os ydych wedi penodi rhywun i weithredu ar eich rhan, hynny yw, cynrychiolydd, y bydd angen i chi lenwi’r adran hon. Os byddwch yn penodi cynrychiolydd, byddwn yn delio’n uniongyrchol gyda nhw, nid gyda chi. Peidiwch â rhoi enw cynrychiolydd oni bai eu bod wedi cytuno i weithredu ar eich rhan. Peidiwch â nodi enw unigolyn neu sefydliad sy’n rhoi cyngor i chi ynglŷn â llenwi’r ffurflen hon yn unig.
11.1 Os ydych chi’n gwybod enw’r sawl sy’n eich cynrychioli, nodwch ef yma. Os nad ydych yn ei wybod, gadewch yr adran hon yn wag.
11.2 Rhowch enw llawn sefydliad y cynrychiolydd (er enghraifft, yr undeb, cwmni cyfreithwyr neu ganolfan Cyngor Ar Bopeth).
11.3 Rhowch gyfeiriad llawn a chod post sefydliad y cynrychiolydd.
11.4 Rhowch rif DX (os yw’n hysbys) sefydliad y cynrychiolydd. (System bost breifat yw DX a ddefnyddir gan nifer o sefydliadau fel cwmnïau cyfreithiol, Canolfannau Cyngor ar Bopeth ayb).
11.5 Rhowch rif ffôn y cynrychiolydd gan gynnwys y cod deialu llawn.
11.6 Rhowch rif ffôn symudol eich cynrychiolydd os yw’n wahanol i’r rhif a ddarparwyd yn 11.5.
11.7 Rhowch y cyfeirnod y mae eich cynrychiolydd wedi ei roi i’ch achos (os gwyddoch beth ydyw).
11.8 Os byddai’n well gan eich cynrychiolydd i ni gysylltu â hwy drwy e-bost yn y dyfodol, rhowch eu cyfeiriad e-bost, os gwelwch yn dda. Rhowch gyfeiriad e-bost eich cynrychiolydd dim ond os ydynt yn gwirio eu negeseuon e-bost bob dydd.
11.9 Ticiwch y blwch priodol i ddweud sut y byddai’n well gan eich cynrychiolydd i ni gysylltu â hwy yn y dyfodol (os gwyddoch) a nodwch y cyfeiriad e-bost os yw’n briodol i wneud hynny.
Anabledd
12.1 Ticiwch ‘Oes’ os ydych yn ystyried bod gennych anabledd. Dywedwch beth yw’r anabledd os y gallwch a rhowch fanylion unrhyw gymorth y gallech fod ei angen gan staff y tribiwnlys. Mae enghreifftiau o’r cymorth y gallwn ei ddarparu yn cynnwys trosglwyddo dogfennau i Braille neu brint mwy, a thalu am ddehonglwyr iaith arwyddion. Cofiwch, os nad ydym yn ymwybodol fod gennych anabledd, ni fyddwn yn gwybod pa addasiadau rhesymol all eich helpu i gymryd rhan yn y broses tribiwnlys.
Manylion atebwyr ychwanegol
Defnyddiwch y blychau i roi manylion atebwyr ychwanegol.
Gwybodaeth ychwanegol
Peidiwch ag anfon llythyr esboniadol gyda’ch ffurflen hawlio. Dylech roi unrhyw wybodaeth ychwanegol inni yma. Er enghraifft, efallai yr hoffech esbonio pam eich bod yn cyflwyno eich hawliad ar ôl y terfyn amser, neu ddweud wrthym os ydych wedi codi’r mater gyda’r atebydd, ac os hynny, pa gamau a gymerwyd, os o gwbl. Os nad oes digon o le, defnyddiwch ddarn arall o bapur a’i roi ynghlwm wrth y ffurflen hon. Os ydych yn darparu gwybodaeth ar dudalennau ar wahân ar gyfer nifer o gwestiynau, dywedwch yma faint o dudalennau i gyd rydych wedi eu rhoi ynghlwm wrth y ffurflen.
Holiadur Monitro Amrywiaeth
Nid oes rhaid ichi lenwi’r adran hon, ond os byddwch yn gwneud hynny bydd yn ein galluogi i fonitro ein prosesau a helpu i sicrhau ein bod yn trin pawb yn deg. Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gwbl gyfrinachol ac ni fydd yn ffurfio rhan o’ch achos. Gellir ei defnyddio at ddibenion ymchwil cyffredinol lle na fyddwch yn cael eich enwi.
Postcode | Tribunal office |
---|---|
AL | Watford |
BA1-16 | Bryste |
BA20-22 | Bryste |
B | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
BB | Manceinion |
BD | Leeds |
BH | Bryste |
BL | Manceinion |
BN1-10 | De Llundain |
BN11-18 | Bryste |
BN19-42 | De Llundain |
BN43-45 | Bryste |
BN46-99 | De Llundain |
BR | De Llundain |
BS | Bryste |
CA | Manceinion |
CB | Watford |
CF | Cymru |
CH1-3 | Manceinion |
CH4-8 | Cymru |
CH41-66 | Manceinion |
CM | Dwyrain Llundain |
CO | Dwyrain Llundain |
CR | De Llundain |
CT | De Llundain |
CV | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
CW1-5 | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
CW6-10 | Manceinion |
CW11-12 | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
DA | De Llundain |
DE | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
DH | Newcastle |
DL | Newcastle |
DN1-20 | Leeds |
DN21-22 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
DN31-37 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
DN38-40 | Leeds |
DN41 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
DT1-11 | Bryste |
DY | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
E | Dwyrain Llundain |
EC | Canol Llundain |
EN | Watford |
EX | Bryste |
FY | Manceinion |
GL | Bryste |
GU1-25 | Watford |
GU26-35 | Bryste |
GU46-52 | Watford |
HA | Watford |
HD | Leeds |
HG | Leeds |
HP1-27 | Watford |
HR | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
HU | Leeds |
HX | Leeds |
IG | Dwyrain Llundain |
IP | Watford |
KT | De Llundain |
L | Manceinion |
LA | Manceinion |
LD | Cymru |
LE | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
LL | Cymru |
LN | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
LS | Leeds |
LU | Watford |
M | Manceinion |
ME | De Llundain |
MK | Watford |
N1 | Canol Llundain |
N2-22 | Watford |
NE | Newcastle |
NG | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
NN1-18 | Watford |
NN29 | Watford |
NP | Cymru |
NR | Watford |
NW1 | Canol Llundain |
NW2 | Watford |
NW3 | Canol Llundain |
NW4 | Watford |
NW5 | Canol Llundain |
NW6-7 | Watford |
NW8 | Canol Llundain |
NW9-11 | Watford |
OL1-13 | Manceinion |
OL14 | Leeds |
OL15-16 | Manceinion |
OX | Watford |
PE1-9 | Watford |
PE10-12 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
PE13-19 | Watford |
PE20-25 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
PE26-38 | Watford |
PL | Bryste |
PO | Bryste |
PR | Manceinion |
RG1-20 | Watford |
RG21-28 | Bryste |
RG29-45 | Watford |
RH | De Llundain |
RM | Dwyrain Llundain |
S1-39 | Leeds |
S40-45 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
S46-79 | Leeds |
S80-81 | Canolbarth Lloegr (Dwyrain) |
S96-S98 | Leeds |
SA | Cymru |
SE | De Llundain |
SG1-19 | Watford |
SK | Manceinion |
SL | Watford |
SM | De Llundain |
SN1-6 | Bryste |
SN7 | Watford |
SN8-26 | Bryste |
SO | Bryste |
SP | Bryste |
SR | Newcastle |
SS | Dwyrain Llundain |
ST | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
SW1 | Canol Llundain |
SW2 | De Llundain |
SW3 | Canol Llundain |
SW4 | De Llundain |
SW5-7 | Canol Llundain |
SW8-9 | De Llundain |
SW10 | Canol Llundain |
SW11-20 | De Llundain |
SY1-14 | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
SY15-25 | Cymru |
TA1-24 | Bryste |
TD** | Newcastle |
TF | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
TN | De Llundain |
TQ | Bryste |
TR | Bryste |
TS | Newcastle |
TW1-3 | De Llundain |
TW4-6 | Watford |
TW7-12 | De Llundain |
TW13-20 | Watford |
UB | Watford |
W | Canol Llundain |
WA | Manceinion |
WC | Canol Llundain |
WD | Watford |
WF | Leeds |
WN | Manceinion |
WR | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
WS | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
WV | Canolbarth Lloegr (Gorllewin) |
YO1-6 | Leeds |
YO7 | Newcastle |
YO8-20 | Leeds |
Y021-22 | Newcastle |
YO23-62 | Leeds |
TD** ardal cod post – Lleoliadau yn Lloegr yn unig – Mae gan yr Alban ei dribiwnlysoedd ei hun.