Os byddwch yn ennill eich achos

Os byddwch yn ennill eich achos, gall y tribiwnlys orchymyn i’r parti aflwyddiannus wneud pethau penodol, yn ddibynnol ar y math o achos. Mae’r enghreifftiau o hyn yn cynnwys:

  • talu iawndal i chi
  • talu unrhyw gostau tyst rydych wedi’u talu
  • cymryd camau i leihau effeithiau gwahaniaethu yn eich erbyn
  • eich ailbenodi i’ch swydd, os yw’n briodol

Os byddwch yn cael iawndal, gall y swm ddibynnu ar:

  • y math o achos - mae yna derfynau ar rai achosion penodol
  • faint o arian rydych wedi’i golli o ganlyniad i weithredoedd yr atebydd
  • eich oedran, hyd eich gwasanaeth a’ch cyflog

Os na fydd yr atebydd yn talu

Os na fyddwch yn cael eich taliad, cysylltwch â nhw i ganfod pam.

Os na fyddant yn talu ar ôl hynny, gallwch ofyn iddynt gael dirwy ac i’r llywodraeth eu henwi ar-lein. Gallwch hefyd ofyn i lys eu gorfodi i dalu.

Ni allwch wneud unrhyw un o’r ddau beth uchod os yw’r atebydd wedi apelio, neu ar fin gwneud hynny. Mae ganddynt 42 diwrnod i apelio.

Os yw’r atebydd yn ‘ansolfedd’ (er enghraifft, maent yn nwylo gweinyddwyr, yn cael eu diddymu neu yn nwylo derbynnydd), gallwch wneud hawliad am yr arian sy’n ddyledus i chi ganddynt, gan gynnwys taliadau colli swydd.

Rhoi dirwy i’r atebydd ac i’r llywodraeth eu henwi ar-lein

Defnyddiwch y ffurflen gorfodi dirwy. Anfonwch y ffurflen i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen neu anfonwch hi ar e-bost i’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol

Yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol etpenalties@businessandtrade.gov.uk

Yn gyntaf, bydd yr atebydd yn cael hysbysiad o rybudd yn dweud wrthynt efallai y gallant gael dirwy a’u henwi ar-lein gan y llywodraeth.

Os na fyddant yn talu’r iawndal o fewn 28 diwrnod i’r rhybudd hwn, bydd rhaid iddynt dalu dirwy a gallant gael eu henwi ar-lein gan y llywodraeth.

Gallwch dal ofyn i lys eu gorfodi i dalu.

Eu gorfodi i dalu os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr

Gallwch ddefnyddio’r cynllun Trac Cyflym i anfon swyddog gorfodi o’r uchel lys (sy’n debyg i feili) i fynnu taliad gan yr atebydd. Mae’n costio £71, a bydd yn cael ei ychwanegu at y ddyled sy’n ddyledus i chi gan yr atebydd.

Llenwch y Ffurflen Gorfodi Trac Cyflym (neu ffurflen gais i orfodi dyfarniad os cafodd eich achos ei setlo cyn gwrandawiad), a’i hanfon i’r cyfeiriad a nodir ar y ffurflen.

Gallwch hefyd ofyn i’r Llys Sirol lleol gael yr arian gan yr atebydd.

Llenwch ffurflen gais i orfodi dyfarniad a’i hanfon gyda chopi o benderfyniad y tribiwnlys i’ch Llys Sirol lleol. Byddant yn adolygu eich cais ac yn cofrestru Dyfarniad Llys Sirol ar gyfer y ddyled.

Bydd yr atebydd yn cael e-bost neu lythyr yn egluro’r ddyled sy’n ddyledus ac erbyn pryd y mae rhaid iddynt ei thalu.

Os na fyddant yn ymateb erbyn y dyddiad cau, llenwch ffurflen gwneud cais am warant a’i hanfon i’ch Llys Sirol lleol. Byddant yn anfon beili’r llys sirol i gael yr arian gan yr atebydd. Mae hyn yn costio £83, a bydd yn cael ei ychwanegu at y ddyled sy’n ddyledus i chi gan yr atebydd.

Eu gorfodi i dalu os ydych yn byw yn Yr Alban

Ysgrifennwch at y swyddfa a wrandawodd eich achos a gofyn am ‘ddetholiad o’r dyfarniad’. Gall swyddog siryf ddefnyddio hyn i orfodi’r atebydd i dalu.