Ar ôl ichi wneud hawliad

Fel arfer, bydd rhaid i’r atebydd ymateb i’ch hawliad yn ysgrifenedig o fewn 28 diwrnod iddynt gael eich ffurflen hawlio. Byddant yn rhoi eu hochr nhw o’r achos.

Unwaith y byddant wedi ymateb, bydd y tribiwnlys yn penderfynu p’un a fydd yna wrandawiad llawn i benderfynu eich achos.

Os na fyddant yn ymateb, gall y tribiwnlys benderfynu eich achos heb ichi orfod cael gwrandawiad.

Mynychu gwrandawiad rhagarweiniol

Efallai y gofynnir i chi fynychu gwrandawiad cychwynnol (a elwir yn wrandawiad rhagarweiniol) yn bersonol, dros y ffôn neu drwy fideo. Ar ôl gwrando ar y ddwy ochr, bydd y barnwr yn penderfynu ar bethau fel:

  • a all rhan o’ch hawliad neu’ch hawliad cyfan fynd yn ei flaen
  • dyddiad ac amser gwrandawiad
  • hyd tebygol y gwrandawiad
  • sut bydd angen i chi a’r atebydd baratoi ar gyfer y gwrandawiad llawn

Rhannu dogfennau

Bydd rhaid ichi rannu unrhyw ddogfennau perthnasol gyda’r atebydd a’r tribiwnlys, hyd yn oed os nad ydynt yn helpu eich achos. Bydd rhaid i’r atebydd wneud yr un fath.

Gall enghreifftiau o ddogfennau perthnasol gynnwys:

  • contract cyflogaeth
  • slipiau cyflog
  • manylion eich cynllun pensiwn
  • nodiadau o gyfarfodydd perthnasol bu ichi fynychu yn y gwaith

Os ydych yn credu nad yw’r atebydd wedi rhannu eu holl ddogfennau perthnasol gyda chi a’r tribiwnlys, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn eu bod yn rhannu’r dogfennau.

Fel arfer bydd y tribiwnlys yn gwneud gorchymyn yn pennu amserlen ar gyfer pryd y dylech rannu dogfennau cyn y gwrandawiad.

Fe gewch lythyr hefyd yn dweud wrthych sawl copi o bob dogfen y dylech ddod gyda chi i’r gwrandawiad.

Trefnu tystion

Gallwch ddod â thystion i’r gwrandawiad os allant roi tystiolaeth sy’n berthnasol yn uniongyrchol i’ch achos.

Os byddwch yn gofyn i dyst fod yn bresennol ond nid ydynt eisiau gwneud hyn, gallwch ofyn i’r tribiwnlys orchymyn iddynt fod yn bresennol. Mae’n rhaid ichi ysgrifennu i swyddfa’r tribiwnlys, gan roi:

  • enw a chyfeiriad y tyst

  • manylion o ran beth all y tyst ddweud a sut bydd yn helpu’ch achos

  • y rheswm pam bod y tyst wedi gwrthod mynychu (os ydynt wedi rhoi rheswm)

Os yw eich tyst y tu allan i’r DU a’u bod eisiau rhoi tystiolaeth trwy gyswllt fideo neu sain byw, cysylltwch â’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos cyn gynted â phosibl i wneud cais am hyn. Dywedwch wrth y tribiwnlys ym mha wlad y maent a pha fath o dystiolaeth maent yn ei rhoi.

Mwy na thebyg, chi fydd yn gyfrifol am dalu costau’r tyst.

Os byddwch yn setlo eich anghydfod

Os byddwch yn dod i gytundeb drwy Acas (Y Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu), yna gan amlaf byddant yn rhoi gwybod i’r tribiwnlys. Bydd y cymodwr Acas yn egluro os bydd angen ichi wneud rhywbeth.

Os byddwch yn setlo eich anghydfod yn breifat, yna mae’n rhaid i chi gysylltu â’r tribiwnlys sy’n delio â’ch achos i ddweud wrthynt.

Os ydych eisiau tynnu eich hawliad cyfan yn ôl neu ran ohono

Mae’n rhaid i chi gysylltu â’r tribiwnlys yn ysgrifenedig.