Cael ad-daliad am ffioedd tribiwnlys

Gallwch gael ad-daliad os wnaethoch dalu ffioedd mewn Tribiwnlys Cyflogaeth neu Dribiwnlys Apeliadau Cyflogaeth rhwng 29 Gorffennaf 2013 a 26 Gorffennaf 2017.

Sut i wneud cais

Gallwch wneud cais ar-lein:

  • os nad ydych wedi newid eich enw ers ichi gyflwyno’r hawliad i’r tribiwnlys
  • roedd eich hawliad yn erbyn un cyflogwr
  • mae gennych gyfrif banc yn y DU

Fel arall, gallwch wneud cais drwy’r post neu drwy e-bost.

Bydd rhaid ichi nodi faint oedd swm y ffioedd tribiwnlys wnaethoch chi eu talu.

Gwneud cais ar-lein

Defnyddiwch y gwasanaeth i wneud cais am ad-daliad ar-lein.

Gwneud cais drwy e-bost neu drwy’r post

Bydd y math o ffurflen y bydd angen i chi ei defnyddio yn dibynnu ar pam wnaethoch chi dalu’r ffioedd.

Defnyddiwch ffurflen 1/2-CR os:

  • wnaethoch chi’r hawliad ar ben eich hun a chi dalodd y ffioedd
  • cafodd hawliad ei wneud yn eich erbyn a chawsoch eich gorchymyn i dalu ffioedd rhywun arall, neu os wnaethoch chi dalu unrhyw ffioedd eraill i’r tribiwnlys
  • chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer llai na 11 o bobl

Defnyddiwch ffurflen 3-S os:

  • wnaethoch chi dalu’r ffioedd er mwyn i rywun arall wneud yr hawliad
  • chi oedd y ‘prif hawlydd’ mewn hawliad ar y cyd (‘lluosog’) ar gyfer mwy na 10 o bobl.

Anfonwch eich ffurflen wedi’i llenwi drwy’r post neu drwy e-bost i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF).

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Cymru a Lloegr
etrefunds@justice.gov.uk

Tribiwnlys Cyflogaeth - Cymru a Lloegr
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 10218
Leicester
LE1 8EG

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF - Yr Alban
glasgowet@justice.gov.uk

Tribiwnlys Cyflogaeth - Yr Alban
Canolfan Gyswllt Cwsmeriaid
PO Box 27105
Glasgow
G2 9JR

Cael cymorth i wneud cais

Cysylltwch â GLlTEF os ydych angen help neu os oes gennych gwestiynau am ad-daliadau.

GLlTEF - Cymru a Lloegr
Rhif ffôn i siaradwyr Saesneg: : 0300 323 0196

GLlTEF - Llinell Iaith Gymraeg
Rhif ffôn: 0300 303 5176

GLlTEF - Yr Alban
Rhif ffôn: 0300 790 6234

Gwybodaeth am gost galwadau

Beth fydd yn digwydd nesaf

Os oes gennych hawl i gael ad-daliad, bydd yn cael ei drosglwyddo i’ch cyfrif banc (gyda 0.5% llog hefyd). Byddwch yn cael llythyr yn cadarnhau’r swm.