Cydraddoldeb ac amrywiaeth

Sut mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM yn cefnogi defnyddwyr y llysoedd a thribiwnlysoedd sydd ag anableddau.


Yng Ngwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (GLlTEM), rydym ni eisiau darparu:

  • profiad sy’n gweithio i bawb
  • gwasanaethau gall unigolion sydd ag anableddau eu defnyddio’n annibynnol lle bo’n bosibl
  • gwasanaethau gellir eu defnyddio mewn ffordd deg

Gwyddwn bydd pobl sydd ag anableddau weithiau angen ein cymorth a’n cefnogaeth i ddefnyddio ein gwasanaethau. Gall hyn olygu bod arnom angen darparu rhywbeth gwahanol er mwyn ichi allu cael mynediad at ein gwasanaethau yn yr un ffordd ag unigolyn heb anabledd. Gelwir hyn yn aml yn addasiad rhesymol.

Beth yw addasiad rhesymol?

Dyma sut rydym yn cynnig cefnogaeth i bobl sydd ag anableddau i sicrhau eu bod yn gallu cael mynediad at wasanaethau GLlTEM heb unrhyw rwystrau.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn amddiffyn hawliau pobl sy’n byw gydag anableddau. Mae hyn yn golygu bod gennym ddyletswydd gyfreithiol i roi cymorth a chefnogaeth lle bo modd. Mae addasiadau rhesymol yn cael eu trafod yn Adran 20 y Ddeddf.

Mae pobl sydd ag anableddau yn gwybod beth sy’n peri anawsterau iddynt. Trwy wrando’n ofalus ac ymateb i’w hanghenion, gallwn wneud gwir wahaniaeth a helpu i ddarparu profiad sy’n gweithio i bawb.

Pa addasiadau rhesymol gallwn ni eu darparu?

Gallwn wneud llawer o bethau sy’n golygu gall bobl sydd ag anableddau ddefnyddio ein gwasanaethau yn annibynnol lle bo’n bosibl ac mewn ffordd deg, er enghraifft:

  • darparu ein ffurflenni mewn print bras
  • darparu ein canllawiau mewn fformat recordiad sain neu fformat ‘EasyRead’
  • sicrhau bod systemau dolenni clyw ar gael ym mhob un adeilad llys a thribiwnlys
  • darparu man aros ar wahân
  • sicrhau bod rampiau a lifftiau ar gael

Nid yw’r rhestr hon yn cynnwys popeth y gallwn wneud i helpu, a byddwn wastad yn siarad gyda chi am eich anghenion yn gyntaf.

Os ydych angen cymorth neu gefnogaeth yn yr ystafell wrandawiadau byddwn hefyd yn trafod hyn gyda’r barnwr sy’n gwrando eich achos. Mae barnwyr wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn gallu rhoi eu tystiolaeth orau a bod pawb yn cael gwrandawiad teg.

Sut i drefnu addasiad rhesymol

Mae anableddau yn effeithio ar unigolion mewn ffyrdd gwahanol felly ni fyddwn bob tro yn gwybod beth fydd yn helpu. Os oes gennych anabledd sy’n golygu na allwch gael mynediad at ein gwybodaeth neu’n gwasanaethau, yna cysylltwch â ni os gwelwch yn dda. Gallwch wneud cais am gymorth a chefnogaeth fel addasiad rhesymol dros y ffôn, yn bersonol neu yn ysgrifenedig.

Bydd ein manylion cyswllt wedi’u nodi ar unrhyw lythyrau a gewch gennym, neu gallwch gysylltu â’ch llys neu dribiwnlys lleol.

Dylech esbonio sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch a rhoi cymaint o wybodaeth ac sy’n bosibl i’n helpu i ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth orau. Bydd hyn yn helpu ein staff neu’r barnwr ystyried beth fydd angen ichi wneud yn ystod eich achos ac ystyried unrhyw gymorth gallwn ni ei roi. Bydd ein staff wastad yn siarad gyda chi ac yn cytuno gyda chi ar unrhyw addasiadau rhesymol rydych eu hangen.