Cerbydau sydd wedi'u heithrio rhag treth cerbyd
Mae rhai mathau o gerbydau wedi’u ‘heithrio’ rhag treth cerbyd. Mae hyn yn golygu nid oes angen ichi dalu am y dreth cerbyd.
Mae’n rhaid ichi drethu eich cerbyd hyd yn oed os nad oes rhaid ichi dalu.
Mae’r dudalen hon hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Nid oes rhaid ichi dalu os oes gennych un o’r mathau canlynol o gerbydau.
Cerbydau a ddefnyddir gan berson anabl
Gallwch hawlio eithriad anabl pan rydych yn gwneud cais am dreth cerbyd. Cael gwybod os ydych yn gymwys a sut i hawlio.
Gallwch dynnu eithriad oddi ar gerbyd os nad yw’n cael ei ddefnyddio bellach gan berson anabl.
Dim ond ar un cerbyd ar y tro y gallwch ddefnyddio’ch eithriad. Os oes gennych fwy nag un cerbyd, bydd angen ichi ddewis pa un fydd wedi’i eithrio rhag treth cerbyd.
Cerbydau teithwyr anabl
Mae cerbydau (ar wahân i ambiwlansys) a ddefnyddir gan sefydliadau sy’n darparu trafnidiaeth i bobl anabl wedi’u heithrio.
Cerbydau hanesyddol
Mae cerbydau a wnaed cyn 1 Ionawr 1985 wedi’u heithrio. Cael gwybod os yw eich cerbyd yn gymwys a sut i hawlio.
Sgwteri symudedd a chadeiriau olwyn â phŵer
Mae cerbydau wedi’u heithrio os yw’r canlynol yn gymwys:
- mae ganddynt gyflymder uchaf o 8mya ar y ffordd
 - maent wedi’u gosod â dyfais sy’n eu cyfyngu i 4mya ar droedffyrdd
 
Cerbydau trydan
Er mwyn cael ei eithrio, rhaid i’r trydan ddod o unrhyw un o’r canlynol:
- ffynhonnell allanol, fel man gwefru preifat neu gyhoeddus
 - batri storio trydan sydd heb gael ei gysylltu ag unrhyw ffynhonnell pŵer pan fydd y cerbyd yn symud
 - celloedd tanwydd hydrogen
 
Rhaid ichi dalu treth cerbyd os yw eich cerbyd yn drydan hybrid.
O 1 Ebrill 2025, os oes gennych gar, fan, beic modur neu feic tair olwyn trydan, bydd angen ichi dalu treth cerbyd. Dim ond cerbydau nwyddau trwm sy’n pwyso dros 3,500kg fydd yn dal i gael eu heithrio.
Peiriannau lladd gwair
Nid oes rhaid ichi dalu treth cerbyd ar beiriant lladd gwair sydd wedi’i gynllunio ac yn cael ei ddefnyddio ar gyfer lladd gwair yn unig.
Nid yw hyn yn cynnwys tractorau sy’n cael eu defnyddio i dynnu peiriannau lladd gwair gweddog (sef ‘gang mowers’ yn Saesneg).
Cerbydau stêm
Nid oes angen ichi dalu treth cerbyd ar unrhyw gerbydau peiriant-stêm.
Cerbydau a ddefnyddir am amaethyddiaeth, garddwriaeth a choedwigaeth
Mae hyn yn cynnwys:
- tractorau
 - peiriannau amaethyddol
 - cerbydau amaethyddol ysgafn a ddefnyddir oddi-ar-y-ffordd
 - cerbydau ‘defnydd cyfyngedig’ a ddefnyddir ar gyfer teithiau byr (dim mwy nag 1.5 cilometr) ar ffordd gyhoeddus rhwng tir a ddefnyddir gan yr un person
 
Hysbysiad Oddi ar y ffordd Statudol (HOS)
Os ydych yn cofrestru cerbyd fel oddi ar y ffordd, byddwch yn cael ad-daliad am unrhyw dreth cerbyd sy’n weddill.
Cysylltu â DVLA
Os oes angen help arnoch gyda’ch treth cerbyd, cysylltwch â DVLA.