Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 24: ymddiriedau tir preifat

Diweddarwyd 29 August 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

1.1 Natur ymddiried tir

Hanfod ymddiried tir yw bod y teitl ffurfiol i’r tir (yr ‘ystad gyfreithiol’) wedi ei wahanu o’r berchnogaeth sylfaenol (y ‘budd ecwitïol’ neu’r ‘budd llesiannol’).

Gall ymddiried preifat tir godi mewn amryw ffyrdd.

  • gall fod wedi ei greu’n benodol yn ysgrifenedig. Mae angen ysgrifennu (adran 53(1)(b) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925))
  • gall fod yn ymddiried noeth lle nad yw’r ymddiriedolwr ond yn enwebai ar ran buddiolwr mewn cyflawn oed
  • gall godi trwy weithredu’r gyfraith naill ai:
    • fel ymddiried goblygedig, canlyniadol neu ddeongliadol, er enghraifft lle bo’r perchennog wedi caffael y tir gan ddefnyddio cyllid sy’n cael ei ddarparu gan rywun arall, neu
    • fel ymddiried statudol. Enghreifftiau yw’r rhai gaiff eu gorfodi pan fydd dau neu fwy o bobl yn meddu tir ar y cyd (adrannau 34 a 36 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) neu ar ddiffyg ewyllys (Adran 33 o Ddeddf Gweinyddu Ystadau 1925)

Yn hanesyddol, gallai dau neu fwy o bobl feddu tir ar y cyd naill ai fel cyd-denantiaid neu denantiaid cydradd. Nid oes gan gyd-denantiaid gyfrannau penodol o’r tir ac mae ganddynt hawl trwy oroesi. Ar farwolaeth un cyd-denant, bydd eu budd yn y tir yn mynd i’r lleill ohono’i hun. Roedd gan denantiaid cydradd, fodd bynnag, gyfrannau penodol, yn dwyn yr enw cyfrannau anwahanedig, y gellid eu trosglwyddo ar wahân, ac oedd yn cael eu hetifeddu fel rhan o’u hystad ar eu marwolaeth. (Daethant yn gyfrannau rhanedig os rhannwyd y tir, fel bod pob un yn dod yn unig berchennog rhan ohono.) Gallai’r cyfrannau fod yn gyfartal neu’n anghyfartal.

Oddi ar 1925, ni fu modd dal ystad gyfreithiol fel tenantiaeth gydradd (adrannau 1(6) a 34 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Rhaid i gydberchnogion ddal yr ystad gyfreithiol fel cyd-denantiaid, ond gallant ddal eu buddion llesiannol naill ai fel cyd-denantiaid neu fel tenantiaid cydradd.

Bwriad hyn oedd symleiddio trawsgludo. Nid yw prynwyr (mae hyn yn golygu rhywun sy’n caffael budd mewn neu arwystl ar eiddo am arian neu werth arian – adran 205(1)(xxi) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) tir digofrestredig oddi wrth gydberchnogion yn ymwneud â’r buddion llesiannol. Nid oes angen iddynt wybod – ac nid oes ganddynt hawl i wybod – os yw perchnogion yr ystad gyfreithiol yn dal ar ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol, neu fel tenantiaid cydradd llesiannol, neu ar ymddiried ar ran pobl eraill yn gyfan gwbl. Ar yr amod bod y prynwyr yn talu’r pris prynu i o leiaf ddau ymddiriedolwr tir, mae’r buddion llesiannol wedi cael eu gorgyrraedd, ac mae’r ymddiried yn atafaelu i dderbyniadau’r gwerthiant, gan ryddhau ystad y prynwyr ohono (adrannau 2 a 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925).

Ar ben hynny, os bydd un neu fwy o’r cydberchnogion wedi marw, gall prynwr ddelio’n ddiogel gyda’r goroeswyr gan wybod fod yr ystad gyfreithiol wedi mynd ohoni’i hun iddynt, beth bynnag fo’r achos gyda’r buddion llesiannol. Os nad oes ond un goroeswr, yna rhaid penodi un neu fwy o ymddiriedolwyr ychwanegol fel bod modd gorgyrraedd y buddion llesiannol o blaid prynwr.

Bydd penodi un neu ragor o ymddiriedolwyr yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol os yw’r ystad gyfreithiol yn ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig neu’n ystad brydlesol ddigofrestredig gyda mwy na saith mlynedd ar ôl. Gweler Yr achos ymddiriedolwr newydd a chyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf am ragor o wybodaeth.

1.2 Cyd-denantiaid llesiannol

Bydd anghysonder yn codi pan fydd dau (neu fwy) o bobl yn dal yr ystad gyfreithiol ar ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol. Roedd y sefyllfa hon yn anghyffredin yn 1925; erbyn hyn mae’n dra chyffredin. Pan fydd nifer y cyd-denantiaid wedi gostwng i un, dyma’r unig berchennog cyfreithiol a llesiannol, a daeth yr ymddiried i ben. Ond ni fydd prynwr yn gwybod hyn oni bai bod y teitl ecwitïol wedi ei ddiddwytho – yr union broblem y lluniwyd deddfwriaeth 1925 i’w hosgoi. Y dewis, felly, oedd naill ai ddiddwytho’r teitl ecwitïol, neu benodi ail ymddiriedolwr yn gyfan gwbl er mwyn rhoi derbynneb dda am yr arian prynu.

Darparodd Deddf Cyfraith Eiddo (Cyd-denantiaid) 1964 drydydd ateb, symlach. Ystyrir, o blaid prynwr, mai’r goroeswr yw’r unig berchennog llesiannol os:

  • byddant yn trawsgludo fel perchennog llesiannol, neu fod y trawsgludiad yn cynnwys datganiad fod eu budd yn yr eiddo yn gyfan gwbl a llesiannol
  • nad oes memorandwm torri wedi ei ardystio ar y trawsgludiad yn breinio’r ystad gyfreithiol yn y cyd-denantiaid
  • nad oes deiseb na gorchymyn methdaliad wedi ei gofrestru fel pridiant tir yn erbyn unrhyw un o’r cyd-denantiaid

Ar adeg derbyn y Ddeddf hon, roedd trawsgludiad ‘fel perchennog llesiannol’ yn mynegi amrywiol gyfamodau safonol ar gyfer teitl, fel bod yr ymadrodd yn cael ei ddefnyddio’n fynych. Yn anffodus, oddi ar 1 Gorffennaf 1995 (pan ddaeth Deddf Cyfraith Eiddo (Darpariaethau Amrywiol) 1994 i rym) cafodd y cyfamodau safonol ar gyfer teitl eu mynegi gan yr ymadrodd ‘gyda gwarant teitl llawn’. Felly, mewn trawsgludo digofrestredig, mae angen gofalu cynnwys datganiad, lle bo angen, bod budd unig gyd-denant sydd wedi goroesi yn gyfan gwbl a llesiannol.

1.3 Ymddiriedau tir mewn trawsgludo cofrestredig

Mewn trawsgludo cofrestredig, mae’r sefyllfa’n symlach. Mae’r gofrestr yn cofnodi perchnogaeth yr ystad gyfreithiol, nid y buddion llesiannol, ac nid yw rhybudd ymddiried yn effeithio ar y cofrestrydd (adran 78 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Hyd y bo modd, dylid cadw cyfeiriadau at ymddiriedau oddi yn y gofrestr. Gall rhywun sy’n delio â’r perchnogion cofrestredig gymryd yn ganiataol fod ganddynt bŵer digyfyngiad i waredu’r ystad neu arwystl o dan sylw, yn rhydd o unrhyw gyfyngiad yn effeithio ar ddilysrwydd y gwarediad, oni bai bod cyfyngiad neu gofnod arall yn y gofrestr yn cyfyngu ar eu pwerau, neu gyfyngiad a osodwyd o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Felly, er enghraifft, os caiff dau neu fwy o bobl eu cofrestru fel cydberchnogion, gall prynwr gaffael yr ystad gyfreithiol yn ddiogel oddi wrth eu goroeswr, oni bai bod cyfyngiad i’r gwrthwyneb yn y gofrestr (fel arfer, bydd y cyfyngiad ar Ffurf A – gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth).

Gydag ymddiriedau preifat, dyletswydd yr ymddiriedolwyr yw gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau angenrheidiol, er y gall buddiolwr wneud cais hefyd. Dim ond o dan un amgylchiad y bydd y cofrestrydd yn gorfod cofnodi cyfyngiad heb gais, er y gall wneud hynny mewn achosion penodol eraill os bydd hynny’n ymddangos yn angenrheidiol neu’n ddewisol iddo (adran 42(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 2002). Yr achos lle bydd yn rhaid i’r cofrestrydd gofnodi cyfyngiad yw pan fydd yn cofrestru dau neu fwy o bobl fel cydberchnogion ystad gofrestredig. Yna rhaid iddo gofnodi cyfyngiad Ffurf A oni bai bod y cofrestrydd wedi ei argyhoeddi bod y ceiswyr yn dal ar ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol (adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 95(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth. Mae’r cofrestrydd hefyd yn gorfod cofnodi cyfyngiadau mewn rhai achosion sy’n cynnwys ymddiriedau cyhoeddus neu elusennol).

Nid yw Cofrestrfa Tir EF yn defnyddio unrhyw ffurflenni yn benodol ar gyfer cofrestru gwarediadau i neu gan ymddiriedolwyr. Rhaid defnyddio’r ffurflenni safonol a bennir yn Atodlen 1 Reolau Cofrestru Tir 2003. Er enghraifft, rhaid i drosglwyddiad o deitl cofrestredig cyfan i neu gan ymddiriedolwyr fod ar ffurflen TR1. Dylid gwneud cais i gofrestru ymddiriedolwyr fel perchnogion ystad ar ffurflen FR1 (os yw’n gofrestriad cyntaf) neu ffurflen AP1 (os yw’n warediad ystad gofrestredig), yn y ffordd arferol.

1.4 Cofrestriad cyntaf gorfodol tir sy’n cael ei ddal o dan ymddiried tir

1.4.1 Cefndir

Rhestrir y digwyddiadau sy’n peri cofrestriad cyntaf gorfodol yn adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf am fanylion y digwyddiadau hyn a chyfarwyddyd ar y drefn sydd i’w dilyn wrth wneud cais am gofrestriad cyntaf tir digofrestredig.

O 6 Ebrill 2009, ychwanegwyd dau ddigwyddiad arall sy’n peri cofrestriad teitl gorfodol tir sy’n cael ei ddal o dan ymddiried tir at y rhestr o achosion a restrir yn adran 4(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gan Orchymyn Deddf Cofrestru Tir 2002 (Newidiad) 2008. Cyfeirir at y ddau ddigwyddiad arall sy’n peri cofrestriad fel yr “achos ymddiriedolwr newydd” a’r “achos darnddosbarthiad”.

1.4.2 Yr achos ymddiriedolwr newydd

Mae’r achos ymddiriedolwr newydd yn gymwys pan gaiff ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig neu ystad brydlesol digofrestredig gyda mwy na saith mlynedd yn weddill ei throsglwyddo i ymddiriedolwr newydd trwy weithred, neu trwy orchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr a wnaed o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr newydd (adran 4(1)(aa) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Gall y weithred sy’n trosglwyddo’r ystad gyfreithiol i ymddiriedolwr newydd (ac unrhyw ymddiriedolwyr sy’n parhau) fod yn weithred penodi ymddiriedolwr newydd, os yw’n cynnwys datganiad breinio penodol neu un sy’n ymhlyg o dan adran 40 o Ddeddf Ymddiriedolwyr neu femorandwm wedi ei chyflawni fel gweithred sy’n rhoi tystiolaeth o benodi’r ymddiriedolwr newydd trwy benderfyniad y mae adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys iddo, neu gall fod yn drawsgludiad neu aseiniad ar wahân trwy weithred a wneir o ganlyniad i benodi’r ymddiriedolwr newydd.

Mae adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys nid dim ond i elusennau ond hefyd, trwy adran 334(6), i unrhyw sefydliad y mae Deddf Sefydliadau Llenyddol a Gwyddonol 1854 yn gymwys, er y bydd unrhyw sefydliad o’r fath yn aml yn elusen beth bynnag. Gweler hefyd adran 8.2.4 Penodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr trwy benderfyniad yr ymddiriedolwyr.

Gellir gwneud gorchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr gan yr Uchel Lys, neu trwy lys sir i freinio tir mewn ymddiriedolwr newydd a benodir gan lys o dan adran 41 o Ddeddf Ymddiriedolwyr neu y tu allan i’r llys.

Nid yw’r achos ymddiriedolwr newydd yn gymwys pan gaiff ystad rydd-ddaliol neu brydlesol ddigofrestredig sy’n cael ei dal mewn ymddiried ar gyfer undeb llafur neu gymdeithas cyflogwyr anghorfforedig (gan gynnwys cymdeithas cyflogwyr wedi’i ffederaleiddio) ei throsglwyddo ar benodiad ymddiriedolwr newydd lle bo adran 13 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992 yn gymwys, fel bod datganiad breinio o dan adran 40 o Ddeddf Ymddiriedolwyr yn ymhlyg yn yr offeryn yn ysgrifenedig, gan gynnwys cofnod ysgrifenedig o benderfyniad yn hytrach na gweithred sy’n penodi ymddiriedolwr newydd (adrannau 13, 129 a 135 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992).

Nid yw’r achos ymddiriedolwr newydd yn gymwys ychwaith wrth benodi ymddiriedolwr newydd setliad o dan Ddeddf Tir Setledig 1925.

1.4.3 Yr achos darnddosbarthiad

Mae’r achos darnddosbarthiad yn gymwys wrth drosglwyddo ystad rydd-ddaliol ddigofrestredig neu ystad brydlesol ddigofrestredig gyda mwy na saith mlynedd yn weddill sy’n peri darnddosbarthiad tir sy’n cael ei ddal o dan ymddiried tir ymhlith buddiolwr yr ymddiried (adran 4(1)(a)(iii) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Mae darnddosbarthiad yn digwydd lle mae tir mewn ymddiried yn cael ei rannu a chaiff y rhannau ar wahân eu pennu i’r buddiolwr, a thrwy hynny’n terfynu’r ymddiried rhwng rhai o’r buddiolwr neu bob un ohonynt. Gall darnddosbarthiad ddigwydd o dan gyfraith gwlad trwy gytundeb yr holl fuddiolwyr, ac felly bydd yr ymddiriedolwyr, sef y buddiolwyr eu hunain mewn llawer o achosion, yn peri’r darnddosbarthiad trwy drosglwyddo’r ystad gyfreithiol yn y rhannau ar wahân i’r unigolion sydd â hawl trwy weithred. Gall darnddosbarthiad ddigwydd hefyd pan fydd ymddiriedolwyr yn arfer eu pwerau statudol i ddarnddosbarthu tir o dan adran 7 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996 gyda chydsyniad y buddiolwyr. Unwaith eto, rhaid i’r ymddiriedolwyr beri’r darnddosbarthiad trwy drosglwyddo’r ystad gyfreithiol trwy weithred.

Mae’r achos darnddosbarthiad yn gymwys i ddarnddosbarthiad ar ba delerau bynnag. Er enghraifft, gall y darnddosbarthiad gynnwys taliad arian cydraddoldeb lle bydd buddiolwr yn derbyn mwy na’i hawliad llesiannol o dan yr ymddiried blaenorol.

1.5 Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau

Fel rheol, mae dogfennau gwreiddiol yn ofynnol dim ond os yw eich cais am gofrestriad cyntaf. Gall trawsgludwr, fodd bynnag, wneud cais am gofrestriad cyntaf ar sail copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn unig. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd am wybodaeth am hyn.

Os nad yw eich cais am gofrestriad cyntaf, dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi wedi ei sganio o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a chopïau ardystiedig.

Fodd bynnag, byddwn yn parhau i ddychwelyd unrhyw gopïau gwreiddiol o dystysgrifau marwolaeth neu grantiau profiant atoch.

2. Ffurfiau safonol o gyfyngiadau

2.1 Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth

2.1.1 Ei ddiben a’i eiriad

Mae geiriad y cyfyngiad hwn fel a ganlyn (Ffurf A, Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

“Nid oes gwarediad gan unig berchennog yr ystad gofrestredig (ac eithrio corfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan orchymyn y llys.”

Diben y cyfyngiad yw sicrhau cydymffurfio â darpariaethau adran 27(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo. Fel y’i newidiwyd gan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr (adran 25(1) ac Atodlen 3, paragraff 4), mae’r adran hon yn darllen fel a ganlyn:

“Ar waethaf unrhyw beth i’r gwrthwyneb yn yr offeryn (os oes un) sy’n creu ymddiried tir neu yn unrhyw ymddiried sy’n effeithio ar elw clir gwerthu’r tir os caiff ei werthu, rhaid peidio â thalu derbyniadau gwerthiant neu arian cyfalaf arall i lai na dau o bobl fel ymddiriedolwyr na’i gymhwyso yn ôl eu cyfarwyddyd, heblaw lle bo’r ymddiriedolwr yn gorfforaeth ymddiried, ond nid yw’r isadran hon yn effeithio ar hawl unig gynrychiolydd personol fel y cyfryw i roi derbynebau dilys am, neu gyfarwyddo cymhwyso, derbyniadau gwerthiant neu arian cyfalaf arall, nac yn ei gwneud yn angenrheidiol i gael mwy nag un ymddiriedolwr, heblaw lle bo arian cyfalaf yn deillio o drafodiad.”

Mae hyn yn golygu y dylid cofnodi cyfyngiad Ffurf A pryd bynnag y caiff dau neu fwy o bobl eu cofrestru fel cydberchnogion ystad gofrestredig, heblaw naill ai:

  • lle maent yn gyd-denantiaid llesiannol (oherwydd y bydd yr ymddiried wedi dod i ben pan nad oes ond un ar ôl – gweler Cyd-denantiaid llesiannol)
  • lle maent yn gynrychiolwyr personol unig berchennog ymadawedig, oni bai bod y perchennog hwnnw yn ymddiriedolwr

Dylid cofnodi cyfyngiad Ffurf A hefyd pryd bynnag y bo, neu y daw, unig berchennog yn ymddiriedolwr tir.

Os yw cyfyngiad Ffurf A wedi ei gofrestru, fel arfer bydd angen penodi ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr newydd cyn gallu delio â thir yn nwylo ymddiriedolwr unigol ar ymddiried tir yn y fath ffordd fel bod arian cyfalaf yn deillio.

2.1.2 Cofrestrfa Tir EF yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A ohono’i hun

Byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr, heb gais, bryd bynnag y byddwn yn cofrestru dau neu fwy o bobl fel perchnogion ystad gofrestredig mewn tir, oni bai ein bod yn cael clywed eu bod yn dal yr ystad gyfreithiol ar ymddiried drostynt eu hunain fel cyd-denantiaid llesiannol, neu ein bod yn eu cofrestru fel cynrychiolwyr personol. Rhaid i ni wneud hyn trwy adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 95(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003. Mae adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn darllen fel a ganlyn.

“Os bydd y cofrestrydd yn cofnodi dau neu fwy o bobl yn y gofrestr fel perchennog ystad gofrestredig mewn tir, rhaid iddo hefyd gofnodi’r fath gyfyngiadau yn y gofrestr ag y gall rheolau eu darparu at ddiben sicrhau bod buddion sydd â’r gallu i’w gorgyrraedd ar warediad yr ystad yn cael eu gorgyrraedd.”

Mae Rheol 95(2)(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn darparu y bydd y cyfyngiad ar Ffurf A.

Nid yw Adran 27(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn effeithio ar hawl unig gynrychiolydd personol fel y cyfryw i roi derbynneb ddilys am arian cyfalaf. Felly, ni fydd cyfyngiad Ffurf A yn cael ei gofnodi ohono’i hun wrth gofrestru cynrychiolwyr personol (neu unig gynrychiolydd personol) fel perchnogion tir. Os oes cyfyngiad Ffurf A eisoes, fodd bynnag, bydd yn aros yn y gofrestr. Mae hyn oherwydd, yn yr achos hwnnw, bod y cynrychiolwyr personol yn olynu’r ymadawedig fel ymddiriedolwyr yr ymddiried i bob diben. Am yr un rheswm, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A ar gofrestriad cyntaf wrth gofrestru cynrychiolwyr personol perchennog ymadawedig oedd yn unig ymddiriedolwr neu (oni bai ei fod yn oroeswr cyd-denantiaid llesiannol) yr ymddiriedolwr olaf i oroesi.

Yn yr un modd, nid yw adran 27(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn effeithio ar hawl goroeswr cyd-denantiaid llesiannol i roi derbynneb ddilys am arian cyfalaf. Wrth wneud cais i gofrestru cydberchnogion ystad, felly, dylech wneud yn glir sut maent yn ei dal. Gweler Datganiad ymddiried. Os na wnewch hynny, byddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn.

Ni fyddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A o ran arwystl cofrestredig. Er bod modd dal arwystl ar ymddiried, mae goroeswr yr arwystleion cofrestredig bob amser yn gallu rhoi derbynneb ddilys am yr arian a ddiogelwyd ganddo (adran 56 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Ni fyddwn yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A ohono’i hun wrth gofrestru unig berchennog.

2.1.3 Ymddiriedolwyr yn gorfod gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A

Rhaid i berchennog ystad gofrestredig wneud cais am gyfyngiad ar Ffurf A o dan yr amgylchiadau canlynol (Rheol; 94(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

  • pan ddaw’r ystad yn amodol ar ymddiried tir, heblaw ar warediad cofrestradwy, ac na fydd y perchennog neu oroeswr cydberchnogion yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf
    • enghreifftiau fyddai petai’r perchennog yn cyflawni datganiad ymddiried, neu pe bai ymddiried deongliadol yn deillio
  • pan fo’r ystad wedi ei dal ar ymddiried tir ac, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, na fydd y perchennog neu oroeswr cydberchnogion yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf
    • un enghraifft fyddai lle byddai un o ddau gyd-denant llesiannol yn cyflwyno rhybudd i dorri’r cyd-denantiaeth lesiannol

Mae cais gan un neu ddau o’r ymddiriedolwr yn bodloni’r gofyniad i ymgeisio (rheol 94(9) o Reolau Cofrestru Tir 2003), er dylid gwneud cais o’r fath fel cais gan unigolyn a chanddo fudd digonol i greu’r cofnod (rheolau 92 a 93 o Reolau Cofrestru Tir 2003) a rhaid cael tystiolaeth o’r budd hwnnw gydag ef.

Os yw’r unig ymddiriedolwr tir neu’r olaf ohonynt i oroesi yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf, neu i gofrestru gwarediad o ystad gofrestredig o’u plaid, rhaid iddo ar yr un pryd wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (Rheol 94(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae hyn oherwydd bod adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 yn berthnasol i gydberchnogion yn unig. Nid yw’r cofrestrydd yn gorfod cofnodi cyfyngiad Ffurf A ohono’i hun wrth gofrestru unig ymddiriedolwr neu’r olaf ohonynt i oroesi.

Mae adran 44(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 hefyd yn berthnasol i ystadau cofrestredig mewn tir yn unig. Nid yw’n berthnasol pan fo dau neu fwy o bobl wedi eu cofrestru fel perchnogion rhent-dâl, maenor, rhyddfraint neu broffid à prendre mewn gros. Serch hynny, os na fydd eu goroeswr yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, bydd angen cyfyngiad Ffurf A, a dylech wneud cais amdano.

Nid yw’r rhain yn ‘ystadau mewn tir’. Gweler adran 2 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a’u cymharu ag adrannau 1(1) ac 1(2)(a) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925. Er na all maenorau fod yn destun cofrestriad cyntaf mwyach, mae cofrestriadau presennol ohonynt yn aros ac mae modd delio â hwy.

2.1.4 Buddiolwr yn gwneud cais am gyfyngiad Ffurf A

Lle bo ystad gofrestredig wedi ei dal ar ymddiried tir, ac na fydd unig berchennog neu oroeswr cydberchnogion (heb fod yn gorfforaeth ymddiried) yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, gall unrhyw un â budd yn yr ystad wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (o dan adran 43(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 93(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Oni bai bod cydsyniad y perchnogion cofrestredig yn dod gyda’r cais, bydd y cofrestrydd yn gorfod cyflwyno rhybudd o’r cais iddynt (bydd y cais yn un hysbysadwy o dan adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y rhybudd yn rhoi 15 diwrnod gwaith iddynt wrthwynebu (rheol 92(9) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.1.5 Ymarfer blaenorol

Cyn i Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a Rheolau Cofrestru Tir 2003 ddod i rym ar 13 Hydref 2003, y ffurf oedd yn cyfateb i Ffurf A oedd Ffurf 62 yn Atodlen 2 i Reolau Cofrestru Tir 1925. Amrywiodd union eiriad y ffurf hon drwy’r blynyddoedd, ond roedd ei fersiwn terfynol fel a ganlyn. “Nid oes gwarediad gan unig berchennog y tir (heb fod yn gorfforaeth ymddiried) o dan yr hyn y mae arian cyfalaf yn codi i’w gofrestru oni bai y gorchmynnir hynny gan y Cofrestrydd neu’r Llys.” Cofnodwyd y cyfyngiad hwn o dan amgylchiadau tebyg i’r rhai lle bydd cyfyngiad Ffurf A yn cael ei gofnodi erbyn hyn (o dan adran 58(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 1925 a rheol 213(1) o Reolau Cofrestru Tir 1925). O ganlyniad, byddwn yn trin cyfyngiad Ffurf 62 fel pe bai yn un Ffurf A.

Cyn 1 Ionawr 1997 (pan ddaeth Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr i rym), roedd oedd adran 27(2) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 yn berthnasol dim ond i ystadau oedd yn amodol ar ymddiried i’w gwerthu. Gall ddal i fod ystadau a gofrestrwyd cyn 1997 a ddaliwyd ar ymddiriedau nad oedd yn cynnwys ymddiried i’w gwerthu (er enghraifft, ymddiried deongliadol neu noeth), a lle na chofnodwyd cyfyngiad Ffurf A na Ffurf 62. Gall naill ai ymddiriedolwyr neu fuddiolwyr ymddiriedau o’r fath wneud cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf A, a byddai’n ddoeth gwneud hynny.

2.2 Y cyfyngiad Ffurf B: lle bo pwerau ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol yn gyfyngedig

2.2.1 Ei ddiben a’i eiriad

Mae geiriad y cyfyngiad hwn fel a ganlyn (Ffurf B, Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

“Nid oes gwarediad [neu rhowch fanylion] gan berchnogion yr ystad gofrestredig i’w gofrestru oni bai bod un neu ragor ohonynt yn gwneud datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y gwarediad [neu rhowch fanylion] yn unol â [enwch y gwarediad sy’n creu’r ymddiried] neu ryw amrywiad ohono y cyfeiriwyd ato yn y datganiad neu’r dystysgrif.”

Y rheol gyffredinol yw bod gan ymddiriedolwyr tir holl bwerau perchennog llwyr i arfer eu swyddogaethau fel ymddiriedolwyr (adran 6(1) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr). Fodd bynnag, o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, gall gwarediad sy’n creu ymddiried tir gynnwys darpariaethau yn cyfyngu ar bwerau’r ymddiriedolwyr. Mae angen i gyfyngiad yn y gofrestr adlewyrchu unrhyw gyfyngiad o’r fath i warchod hawliau’r buddiolwyr. Yn absenoldeb cyfyngiad, ni fydd angen i brynwr ystad gofrestredig oddi wrth yr ymddiriedolwyr weld a gafwyd unrhyw gydsynio gofynnol, na sicrhau y cydymffurfiwyd ag unrhyw gyfyngiad ar bwerau gwarediad yr ymddiriedolwyr. Nid oes modd amau teitl y prynwr hyd yn oed os aeth yr ymddiriedolwyr y tu hwnt i’w pwerau wrth wneud y gwarediad (adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

2.2.2 Ymddiriedolwyr yn gorfod gwneud cais am gyfyngiad Ffurf B

Rhaid i ymddiriedolwyr wneud cais am gyfyngiad Ffurf B o dan yr amgylchiadau canlynol (rheol 94(4) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 20033).

  • o ran ystad gofrestredig, pan fo datganiad ymddiried yn gosod cyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr
  • hefyd, o ran ystad gofrestredig, pan fo newid yn ymddiriedau ei dal yn gosod cyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr
  • ar gais am gofrestriad cyntaf ystad gyfreithiol sy’n cael ei dal ar ymddiried tir, pan fo pwerau’r ymddiriedolwyr yn gyfyngedig o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr

Mae hyn yn berthnasol nid yn unig pan fo’r ystad gyfreithiol yn cael ei dal gan ymddiriedolwyr, ond hefyd pan fo’n cael ei dal gan gynrychiolydd personol unig ymddiriedolwr neu’r olaf ohonynt i oroesi (rheol 94(7) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Mae cais gan un neu ddau o’r ymddiriedolwyr yn bodloni’r gofyniad i ymgeisio (rheol 94(9) o Reolau Cofrestru Tir 2003), er, dylid gwneud cais o’r fath fel cais gan unigolyn a chanddo fudd digonol i greu’r cofnod (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003) a rhaid cael tystiolaeth o’r budd hwnnw gydag ef.

Lle bo angen cyfyngiad Ffurf A (gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth), bydd ei angen yn ogystal â’r cyfyngiad Ffurf B.

2.2.3 Ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol yn gwneud cais am gyfyngiad Ffurf B

Lle bo ystad gofrestredig wedi ei dal ar ymddiried tir, a phwerau’r ymddiriedolwyr yn gyfyngedig o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, yn ddarostyngedig i gais am gyfyngiadau Ffurf B lluosog, gall unrhyw un â budd yn yr ystad wneud cais am gyfyngiad Ffurf B (o dan adran 43(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 a rheol 93(c) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Oni bai bod cydsyniad y perchnogion cofrestredig yn dod gyda’r cais, bydd y cofrestrydd yn gorfod cyflwyno rhybudd o’r cais iddynt (bydd y cais yn un hysbysadwy o dan adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y rhybudd yn rhoi 15 diwrnod gwaith iddynt wrthwynebu (rheol 92(9) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.2.4 Geiriad y dylid ei ddefnyddio mewn cyfyngiad Ffurf B

Mewn llawer achos, ni fydd y cyfyngiad ar bwerau’r ymddiriedolwyr yn berthnasol i holl warediadau, ond rhai o fath arbennig yn unig. Mewn achosion o’r fath, gallwch ddefnyddio ‘trosglwyddiad’, ‘prydles’ neu ‘arwystl’ yn lle ‘gwarediad’. Er enghraifft, fe all fod cyfyngiad ar roi prydlesi am fwy nag 21 mlynedd yn unig. Fodd bynnag, ni ddylid ei ddisodli gan ddarpariaeth gymhlethach, er enghraifft ‘prydles am gyfnod dros 21 mlynedd’ (rheol 91A(8) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Ni ddylech bennu natur y cydsyniad sydd ei angen, nac unrhyw ddarpariaeth gymhleth debyg, yn y cyfyngiad. Mae’r cyfyngiad yn cynnwys y geiriau amodol “oni bai bod un neu ragor ohonynt yn gwneud datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y gwarediad [neu nodwch y math o warediad] yn unol â …”. Diben hyn yw caniatáu i’r cyfyngiad adlewyrchu telerau’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried heb fod gofyn i’r cofrestrydd ystyried y telerau hynny neu a gydymffurfiwyd â hwy. Y ffordd arferol o gydymffurfio â’r cyfyngiad fydd i drawsgludwr y perchnogion ddarparu tystysgrif. Ni fydd angen datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd heblaw bod y trawsgludwr yn amharod i roi tystysgrif am unrhyw reswm neu os nad oes trawsgludwr yn gweithredu.

2.2.5 Pan na fydd, efallai, yn briodol gwneud cais am gyfyngiad Ffurf B

Mae cyfyngiad Ffurf B yn briodol os yw’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried tir yn cynnwys darpariaethau sy’n cyfyngu ar bwerau’r ymddiriedolwyr o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996. Nid rhoi rhybudd o’r ymddiried y mae’r ystad gofrestredig yn cael ei dal arno yw unig ddiben cyfyngiad Ffurf B. Nid yw rhybudd ymddiried yn effeithio ar y cofrestrydd (adran 78 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). O ganlyniad, ni fydd datganiad ymddiried sydd dim ond yn cydnabod a/neu’n meintioli’r cyfrannau llesiannol mewn ecwiti eiddo yn cyfiawnhau cofnodi cyfyngiad Ffurf B.

Barn Cofrestrfa Tir EF yw mai dim ond un cyfyngiad Ffurf B, yn cyfeirio at un ymddiried yn unig, y gellir ei nodi mewn cofrestr unigol ar unrhyw un adeg oni bai, pan wneir cais am gyfyngiadau ar wahân, bod y cyfyngiadau wedi eu cyfyngu i effeithio ar wahanol rannau o’r teitl cofrestredig, a phob un ohonynt yn ddarostyngedig i ymddiried gwahanol (er eu bod yn rhannu’r un ymddiriedolwr neu ymddiriedolwyr). Mae hyn oherwydd mai dim ond fesul un ymddiried ar y tro y gellir dal ystad gyfreithiol. Er enghraifft, gall A neu A a B ddal ymddiried ar gyfer B, neu ar ymddiried ar gyfer A a B, neu ar ymddiried ar gyfer A, yna B, yna C; ond ym mhob achos dim ond un ymddiried sydd, hyd yn oed os oes mwy nag un ymddiriedolwr neu fuddiolwr.

Sylwch ar y sefyllfa pan fo C a D, er enghraifft, yn dal eiddo ar ymddiried eu hunain (ymddiried 1) ond yna mae pob un yn cyflawni gweithredoedd ymddiried ar wahân mewn perthynas â’u buddion ecwitïol (ymddiriedau 2 a 3). Yma, dim ond ymddiried 1 sy’n effeithio ar yr ystad gyfreithiol yn yr eiddo. Nid yw ymddiriedau 2 a 3 yn effeithio ar yr ystad gyfreithiol; maent yn effeithio ar fuddion ecwitïol ar wahân C a D yn unig (hynny yw, eu cyfrannau llesiannol ar wahân). Mae’n dilyn y gellir nodi cyfyngiad Ffurf B (unigol) ar gyfer ymddiried 1 gan ei fod yn effeithio ar yr ystad gyfreithiol, os yw pwerau C a D fel ymddiriedolwyr yr ymddiried hwnnw’n gyfyngedig. Fodd bynnag, ni ellir nodi cyfyngiad Ffurf B na chyfyngiad Ffurf B wedi ei addasu ar gyfer ymddiriedau 2 neu 3 gan nad ydynt yn effeithio ar yr ystad gyfreithiol.

Oni bai bod y ceisydd ar gyfer y cyfyngiad yn dangos seiliau cyfreithiol digonol dros gofnodi’r cyfyngiad, ni fyddwn felly, fel rheol, yn cofnodi cyfyngiad Ffurf B:

  • pe byddai’n arwain at fwy nag un cyfyngiad Ffurf B yn y gofrestr
  • os yw’r cyfyngiad yn cyfeirio at fwy nag un ymddiried, neu
  • os yw’n ymddangos o’r cais nad yr ymddiried y cyfeirir ato yn y cyfyngiad yw ymddiried yr ystad gyfreithiol gofrestredig neu nad yw’n cynnwys darpariaethau sy’n cyfyngu ar bwerau’r ymddiriedolwyr o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Bydd hyn yn wir p’un ai y mae’r perchennog/perchnogion cofrestredig yn gwneud cais am y cyfyngiad Ffurf B o dan sylw neu’n cydsynio iddo ai peidio.

2.3 Y cyfyngiad Ffurf C: lle bo pwerau cynrychiolydd personol yn gyfyngedig

2.3.1 Ei ddiben a’i eiriad

Mae geiriad y cyfyngiad hwn, sy’n berthnasol i gynrychiolwyr personol, fel a ganlyn (Ffurf C, Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003).

“Nid oes gwarediad gan gynrychiolydd personol [enw] ymadawedig, ac eithrio trosglwyddiad trwy gydsyniad, i’w gofrestru oni bai bod y cynrychiolydd personol yn gwneud datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y gwarediad yn unol â thelerau [dewiswch y cymal bwled sy’n briodol]

  • ewyllys yr ymadawedig [fel y’i hamrywiwyd trwy [rhowch fanylion dyddiad a phartïon y weithred amrywio neu fanylion priodol eraill]]
  • y gyfraith sy’n ymwneud â diewyllysedd fel y’i hamrywiwyd trwy [rhowch fanylion dyddiad a phartïon y weithred amrywio neu fanylion priodol eraill]

neu ryw amrywiad [pellach] arni y cyfeiriwyd ato yn y datganiad statudol, datganiad o wirionedd neu’r dystysgrif, neu sy’n angenrheidiol at ddibenion gweinyddu.”

Er mwyn arfer eu swyddogaethau fel ymddiriedolwyr, a heb amharu ar eu swyddogaethau at ddibenion gweinyddu, mae Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr yn rhoi holl bwerau perchennog llwyr i gynrychiolwyr personol (adrannau 6(1) a 18 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr). Fodd bynnag, o dan adrannau 8 a 18 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, gall darpariaethau sydd yn ewyllys yr ymadawedig neu mewn gweithred amrywio neu drefniant teuluol gyfyngu ar bwerau’r cynrychiolwyr personol. Mae angen i gyfyngiad yn y gofrestr adlewyrchu unrhyw gyfyngiad o’r fath i warchod hawliau’r buddiolwyr. Yn absenoldeb cyfyngiad, nid oes angen i brynwr ystad gofrestredig oddi wrth ymddiriedolwyr weld bod cydymffurfio â thelerau’r ewyllys neu weithred (adran 26 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

2.3.2 Cynrychiolwyr personol yn gorfod gwneud cais am gyfyngiad Ffurf C

Rhaid i gynrychiolydd personol rhywun ymadawedig sy’n dal ystad gofrestredig ar ymddiried tir yn deillio o ewyllys yr ymadawedig, neu o ddiffyg ewyllys, ac sydd â phwerau cyfyngedig o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, wneud cais am gyfyngiad Ffurf C (rheol 94(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Mae hyn yn ogystal ag unrhyw gyfyngiad Ffurf A all fod ei angen.

Mae cais gan un neu ddau o’r cynrychiolwyr personol yn bodloni’r gofyniad i ymgeisio (rheol 94(10) o Reolau Cofrestru Tir 2003), er dylid gwneud cais o’r fath fel cais gan unigolyn a chanddo fudd digonol i greu’r cofnod (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003) a rhaid cael tystiolaeth o’r budd hwnnw gydag ef.

2.3.3 Buddiolwr yn gwneud cais am gyfyngiad Ffurf C

Os yw’r cynrychiolwyr personol yn peidio â gwneud cais am y cyfyngiad pan ddylent, gall unrhyw un â budd mewn gweinyddu’r ystad yn briodol wneud hynny (rheol 93(d) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.3.4 Y geiriad y dylid ei ddefnyddio mewn cyfyngiad Ffurf C

Gallwch wneud cais am gyfyngiad Ffurf C gyda’r fath newidiadau i’r geiriau rhwng cromfachau ag sy’n angenrheidiol i gyd-fynd â’r amgylchiadau. Fel gyda Ffurf B, mae’r cyfyngiad yn cynnwys y geiriau amodol “oni bai iddynt wneud datganiad statudol, neu fod eu trawsgludwr yn rhoi tystysgrif, bod y gwarediad yn unol â …”. Diben hyn yw caniatáu i’r cyfyngiad adlewyrchu telerau’r ewyllys neu weithred o dan sylw heb fod gofyn i’r cofrestrydd ystyried y telerau hynny neu a gydymffurfiwyd â hwy.

Y ffordd arferol o gydymffurfio â’r cyfyngiad fydd i drawsgludwr y cynrychiolydd personol ddarparu tystysgrif. Ni fydd angen datganiad statudol heblaw bod y trawsgludwr yn amharod i roi tystysgrif am unrhyw reswm, neu os nad oes trawsgludwr yn gweithredu.

2.4 Cyfyngiadau eraill

Gall naill ai’r ymddiriedolwyr neu’r buddiolwyr wneud cais yn wirfoddol am gyfyngiadau eraill (o dan adran 43(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Os bydd y buddiolwyr yn gwneud cais, byddwn yn cyflwyno rhybudd i’r perchnogion cofrestredig, yn rhoi cyfle iddynt wrthwynebu – gweler Pwy sy’n gallu gwneud cais am gyfyngiad?

Y ffurfiau safonol o gyfyngiadau fydd yn briodol o bryd i’w gilydd i ymddiriedau yw:

Mae’r ddwy ffurf hyn yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Gweler Ffurflen gais am gyfyngiadau, ar gyfer yr amgylchiadau lle bydd y cofrestrydd yn cymeradwyo cyfyngiad nad yw ar un o’r ffurfiau safonol.

Mae Rheol 93(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn caniatáu yn benodol i rywun sydd â budd digonol mewn atal torri adran 6(6) neu (8) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, wneud cais am gyfyngiad i atal toriad o’r fath.

Mae adran 6(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr yn gwahardd arfer pwerau’r ymddiriedolwyr yn groes i unrhyw ddeddfiad arall neu unrhyw reol gyfreithiol neu ecwiti, nac i unrhyw orchymyn a wnaed yn unol â hwy.

Mae adran 6(8), Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr yn gwahardd arfer pwerau’r ymddiriedolwyr yn groes i unrhyw gyfyngiad neu amod a osodwyd ar eu hawdurdod i weithredu gan unrhyw ddeddfiad arall.

Mewn trawsgludo digofrestredig, bydd trawsgludiad gan ymddiriedolwyr ymddiried preifat sy’n torri’r darpariaethau hyn yn ddilys, serch hynny, o blaid prynwr sydd heb wir rybudd o’r toriad (adran 16(2), (6) a (7) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr). Mewn trawsgludo cofrestredig, nid oes angen i brynwr ond gweld bod cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad perthnasol iddynt yn y gofrestr.

Mae Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr yn gosod rhai cyfyngiadau ar bwerau ymddiriedolwyr tir na fydd angen i brynwr ystadau digofrestredig ymwneud â hwy (adran 16(1) a (7) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr. Y darpariaethau perthnasol yw adrannau 6(5), 7(3) ac 11(1) y Ddeddf honno.). Eto, mewn trawsgludo cofrestredig, nid oes angen i brynwr ond gweld bod cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr sy’n berthnasol iddyn nhw.

3. Sut i wneud cais am gyfyngiadau

3.1 Ffurflen gais am gyfyngiadau

Fel mae’r cyfarwyddyd hwn yn egluro, yn aml bydd angen i chi wneud cais am gyfyngiad pan fo ymddiried o dan sylw. Fel arfer, rhaid gwneud cais am gyfyngiad ar ffurflen RX1. Fodd bynnag, nid oes angen i chi ddefnyddio ffurflen RX1 os yw’r cais naill ai:

  • am ffurf safonol o gyfyngiad ac ym mhanel ‘darpariaethau ychwanegol’ ffurflen drosglwyddo neu gydsynio (ffurflen TP1, ffurflen TP2, ffurflen TR1, ffurflen TR2, ffurflen TR4, ffurflen TR5, ffurflen AS1, ffurflen AS2 neu ffurflen AS3. Mae’r ffurflenni hyn yn Atodlen 1 i Reolau Cofrestru Tir 2003)
  • ffurf safonol o gyfyngiad gyda chais amdano yng nghymal LR13 prydles cymalau penodedig neu unrhyw brydles arall yn cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003
  • i weithredu gorchymyn y llys a wnaed o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 (rheol 92 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Yn yr achos hwn, dylech wneud cais ar ffurflen AP1)

Mae eithriadau hefyd ar gyfer cyfyngiadau sydd mewn rhai arwystlon.

Sylwer: Rhaid ichi gynnwys geiriau cais megis “mae’r trosglwyddwr yn gwneud cais i gofrestru’r cyfyngiad canlynol…”. Nid yw’n ddigonol cofnodi geiriad y cyfyngiad yn unig heb ddweud pwy sy’n gwneud cais amdano. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 19, adran 3.5.1 am ragor o wybodaeth.

Ffurf safonol o gyfyngiad yw un o’r ffurfiau yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003.

Rhaid gwneud cais am gyfyngiad ansafonol ar ffurflen RX1 bob amser (oni bai bod y llys yn ei orchymyn o dan adran 46 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Ni all y cofrestrydd gymeradwyo cais am gyfyngiad ansafonol heblaw ei bod yn ymddangos bod:

  • telerau’r cyfyngiad yn rhesymol
  • y byddai ei gymhwyso yn rhwydd ac na fyddai’n gosod baich afresymol arno (Adran 43(3) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

O 9 Ionawr 2006 ymlaen mae modd defnyddio prydles yn cynnwys cymalau LR1 i LR14 Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003, yng nghymal LR13, i wneud cais am gofnod o ffurf safonol o gyfyngiad. Bydd hyn yn cynnwys prydlesi cymalau penodedig a roddwyd ar neu ar ôl 19 Mehefin 2006. Rhaid dal i ddefnyddio ffurflen RX1 i wneud cais i gofnodi cyfyngiad sydd yn unrhyw brydles arall neu i gofnodi ffurf ansafonol o gyfyngiad.

3.2 Pobl sy’n gallu gwneud cais am gyfyngiad

Gallwch wneud cais am gyfyngiad os:

  • mai chi yw’r perchennog cofrestredig
  • ydych yn rhywun gyda hawl i’w gofrestru fel perchennog
  • ydych yn gwneud cais gyda chydsyniad y perchennog cofrestredig neu rywun gyda hawl i’w gofrestru fel perchennog, neu
  • oes gennych fudd digonol mewn cofnodi’r cyfyngiad (adran 43(1) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002)

Os byddwch yn gwneud cais gyda chydsyniad, yna rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • trefnu i bwy bynnag sy’n cydsynio gwblhau panel 11 ffurflen RX1
  • cyflwyno’r cydsyniad gyda’r cais, neu
  • (os ydych yn drawsgludwr) tystio eich bod yn dal y cydsyniad (rheol 92(2)(c) a (6) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Os byddwch yn gwneud cais fel, neu gyda chydsyniad, rhywun gyda hawl i’w gofrestru fel perchennog, yn hytrach na rhywun sydd eisoes yn gofrestredig, yna rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • cyflwyno tystiolaeth o’i hawl
  • (os ydych yn drawsgludwr) tystio eich bod yn argyhoeddedig o’i hawl i’w gofrestru fel perchennog, a’ch bod yn dal y dogfennau gwreiddiol sy’n profi hynny, neu
  • (os ydych yn drawsgludwr) tystio eich bod yn argyhoeddedig o’i hawl i’w gofrestru fel perchennog, a bod cais i wneud hynny yn aros i’w brosesu yng Nghofrestrfa Tir EF (rheol 92(2)(d) a (5) o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

Yn ymarferol, wrth gwrs, bydd llawer o geisiadau o’r fath yn dod gyda chais i gofrestru’r unigolyn o dan sylw fel perchennog, a bydd y gofynion hyn yn cael eu cyflawni ohonynt eu hunain.

Os byddwch yn gwneud cais ar y sail fod gennych fudd digonol mewn cofnodi, yna rhaid i chi argyhoeddi’r cofrestrydd mai felly y mae. Rhaid i chi roi manylion eich budd. Efallai y bydd arnom angen i chi gyflwyno tystiolaeth ychwanegol o’ch hawl (rheolau 92(2)(e), 92(3) a 92(4) o Reolau Cofrestru Tir).

Os byddwch yn gwneud cais ar y sail fod gennych fudd digonol mewn cofnodi, ac nad oes gennych gydsyniad y perchnogion cofrestredig (neu bwy bynnag sydd â hawl i’w gofrestru fel perchennog), yna bydd y cyfyngiad yn un hysbysadwy, ac ni fyddwn yn gallu cwblhau’r cais nes byddwn wedi cyflwyno rhybudd i’r perchnogion cofrestredig (adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Bydd y rhybudd yn rhoi 15 diwrnod gwaith i’r perchnogion wrthwynebu (rheol 92(9) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

3.3 Crynodeb

Yn ymarferol, bydd y rhan fwyaf o geisiadau sy’n berthnasol i’r cyfarwyddyd hwn mewn un o dri dosbarth.

  • ceisiadau ymddiriedolwyr am ffurf safonol o gyfyngiad cysylltiedig â throsglwyddiad i’r ymddiriedolwyr
    • mae modd gwneud y cais naill ai ym mhanel darpariaethau ychwanegol y trosglwyddiad, ar ffurflen JO, neu ar ffurflen RX1
    • ni fydd angen tystiolaeth ychwanegol
  • ceisiadau ar ffurflen RX1 gan ymddiriedolwyr sydd, neu sy’n gwneud cais i ddod, yn berchnogion cofrestredig
    • ni fydd angen cydsyniadau na thystiolaeth o hawl ychwanegol
  • ceisiadau buddiolwyr am ffurf safonol o gyfyngiadau yn un o’r achosion a bennwyd yn rheol 93 o Reolau Cofrestru Tir 2003
    • fel arfer, ni fydd angen tystiolaeth ychwanegol, ond bydd y cyfyngiad yn un hysbysadwy, a bydd rhybudd o’r cais yn cael ei gyflwyno i’r perchnogion cofrestredig, oni bai eu bod wedi cydsynio iddo

Mae cyfarwyddyd ymarfer 19: rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr yn cynnwys rhagor o wybodaeth am wneud cais am gyfyngiadau.

4. Ceisiadau i gofrestru ymddiriedolwyr

4.1 Nifer mwyaf o ymddiriedolwyr

Ni all ymddiried preifat tir fod â mwy na phedwar ymddiriedolwr. Os bydd ymgais i freinio’r ystad gyfreithiol mewn mwy na phedwar o bobl, bydd yn breinio yn y pedwar cyntaf i’w henwi sy’n barod i weithredu ac yn gallu gwneud hynny (adran 34 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925). Felly, dylai trosglwyddiad neu warediad arall o blaid ymddiriedolwyr ymddiried preifat fod i ddim mwy na phedwar o bobl. Os yw i fwy na phedwar rhaid i chi gadarnhau, wrth wneud cais i’w gofrestru, bod y pedwar cyntaf i’w henwi yn gallu gweithredu ac yn barod i wneud hynny.

4.2 Yr ymddiriedolwyr yn cyflawni’r gwarediad

Fel arfer, ni fyddwn yn dychwelyd gweithred i’r gwaredeion ei chyflawni. Chi sydd i sicrhau bod yr ymddiriedolwyr wedi cyflawni’r ddogfen os bydd angen.

4.3 Enw a chyfeiriad yr ymddiriedolwyr

Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen FR1 neu ffurflen AP1, fel y bo’n briodol, gydag enw llawn pob un o’r ymddiriedolwyr, a chyfeiriad neu gyfeiriadau ar gyfer gohebu i bob un ohonynt. Rhaid i bob ymddiriedolwr roi cyfeiriad ar gyfer gohebu sydd yn gyfeiriad post, naill ai yn y Deyrnas Unedig neu dramor. Gall pob un ohonynt roi hyd at ddau gyfeiriad ychwanegol, all fod yn gyfeiriad post, yn rhif blwch mewn cyfnewidfa ddogfennau yn y Deyrnas Unedig neu yn gyfeiriad ebost (rheol 198 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, lle bo amryw ymddiriedolwyr gallwch, os bydd yn well gennych, fod â chyfeiriad unigol o dan ofal ar gyfer gohebu, fel un trawsgludwyr yr ymddiried.

Weithiau, mae cais i gofrestru ymddiriedolwyr yn berchnogion yr ystad gofrestredig yn cynnwys disgrifiad cyffredinol o’r ymddiriedolwyr trwy gyfeirio at yr ymddiried datganedig ar yr hwn mae’r ystad gyfreithiol yn cael ei ddal, megis ‘ymddiriedolwyr Cronfa Bensiwn Alpha Cyfyngedig’.

Os felly, gallwn gyfeirio at y disgrifiad hwnnw yn y gofrestr perchnogaeth, er gwybodaeth yn unig, i gynorthwyo cwsmeriaid i nodi ym mha rinwedd mae’r perchnogion yn dal yr ystad gofrestredig. Nid yw’n ofynnol i Gofrestrfa Tir EF gofnodi unrhyw ddisgrifiad o’r fath, ac ni ddylid ei hystyried fel rhoi rhybudd o unrhyw ymddiried y delir ystad arno, gan y byddai hynny’n groes i’r egwyddorion y cedwir y gofrestr arnynt (adran 78 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Ni fyddwn yn cofnodi unrhyw ddisgrifiad o’r fath os yw’n ymddangos nad yw’r ymddiried y cyfeirir ato yn ymddiried datganedig sengl yr ystad gyfreithiol gofrestredig, neu os ydym yn ystyried y gallai gwneud hynny fod yn amhriodol fel arall. Mae hyn yn golygu, er enghraifft, na fyddwn yn cofnodi disgrifiad sy’n cyfeirio at fwy nag un ymddiried neu at ymddiried sy’n ymddangos fel is-ymddiried yn unig neu ymddiried o fudd llesiannol.

Mewn rhai achosion, arfer Cofrestrfa Tir EF fyddai cofrestru ymddiriedolwyr o dan enw cyfunol o’r math hwn, yn hytrach nag o dan eu henwau unigol. Rhoddwyd gorau i’r arfer hwn amryw flynyddoedd yn ôl ac, erbyn hyn, bydd enwau’r ymddiriedolwyr unigol bob amser yn cael eu cofnodi yn y gofrestr.

4.4 Datganiad ymddiried

Mae’r holl ffurflenni trosglwyddo a chydsynio penodedig, a’r prydlesi cymalau penodedig yn cynnwys panel ‘datganiad ymddiried’ i’w ddefnyddio lle bo’r gwarediad o blaid cydberchnogion. Er enghraifft:

“Datganiad o ymddiried. Mae’r trosglwyddai yn fwy nag un person ac maent i ddal yr eiddo ar ymddiried iddynt hwy fel cyd-denantiaid maent i ddal yr eiddo ar ymddiried iddynt hwy fel tenantiaid cyffredin mewn cyfraddau cyfartal maent i ddal yr eiddo ar ymddiried:”

O ran cofrestriadau cyntaf, mae panel tebyg ar ffurflen FR1. Dylai’r trawsgludiad neu drosglwyddiad i’r ceiswyr gynnwys datganiad priodol hefyd.

O ran meddiant gwrthgefn tir cofrestredig, ceir panel tebyg ar ffurflen ADV1.

O ran prydles newydd o dir cofrestredig, nid yw’r ffurflen gais (AP1) yn cynnwys unrhyw banel i bennu’r ymddiriedau. Felly, mae’n hanfodol bod prydles o blaid cydberchnogion yn cynnwys cymal priodol yn eu datgan, neu os yw’r brydles yn cynnwys y cymalau ar sail Atodlen 1A i Reolau Cofrestru Tir 2003, bod cymal LR14 wedi ei gwblhau.

Bydd peidio â chwblhau’r panel perthnasol mewn trosglwyddiad, cydsyniad, ffurflen FR1 neu ffurflen ADV1 neu gymal LR14 yn golygu y bydd y cofrestrydd yn cofnodi cyfyngiad Ffurf A yn ddiofyn, oni bai bod ffurflen JO wedi ei llenwi’n cael ei hanfon gyda’r cais.

Crëwyd ffurflen JO fel ffurflen wirfoddol a bennwyd gan y cofrestrydd o dan y pŵer yn adran 100(4) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Mae wedi ei llunio fel dewis arall i gydberchnogion ddatgan ymddiriedau ar adeg caffael ac i ymdrin â’r anawsterau ymarferol y gall trawsgludwyr eu hwynebu wrth sicrhau cyflawniad y trosglwyddiad gan bob trosglwyddai o fewn amserlen ddwys trafodiad trawsgludo arferol.

Os llenwir ffurflen JO, rhaid ei hanfon gyda chais am gofrestriad y gwarediad (ar ffurflen TP1, TP2, TR1, TR2, TR5, AS1 neu AS3) y mae’n berthnasol iddo. Byddwn hefyd yn derbyn ffurflen JO fel dewis arall yn lle cwblhau panel 9 yn ffurflen FR1 neu ffurflen DX1 neu gymal LR14 mewn prydles cymalau penodedig.

Os cwblheir panel 5 ffurflen JO, rhaid i bob cydberchennog ei arwyddo hefyd, neu os cwblheir panel 6, rhaid i drawsgludwr ei lofnodi hefyd.

Nid diben gwneud datganiad o ran natur yr ymddiried yw rhoi rhybudd o’r ymddiriedau sy’n dal y tir i’r cofrestrydd, ond er mwyn i ni allu penderfynu a oes angen i ni gofnodi cyfyngiad Ffurf A (gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth).

Bydd hefyd yn gweithredu fel memorandwm o’r ymddiriedau sy’n dal yr eiddo. Mae copi swyddogol i’w gael o unrhyw brydles neu drosglwyddiad gwreiddiol neu gopi ohonynt, ac unrhyw un o’r dogfennau eraill yn ymwneud â’r cais i gofrestru’r gwarediad, sydd yn nwylo’r cofrestrydd (yn amodol ar reolau 131-140 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Gweler cyfarwyddyd ymarfer 11: Archwiliad a cheisiadau am gopïau swyddogol a chyfarwyddyd ymarfer 57: eithrio dogfennau o’r hawl gyffredinol i archwilio a chopïo.

Lle defnyddiwch y trydydd blwch, rhaid i chi ei gwblhau i ddangos ym mha rinwedd mae’r ymddiriedolwyr yn dal y tir. Er enghraifft:

Ar ymddiried drostynt eu hunain fel tenantiaid cydradd yn y cyfrannau canlynol (nodwch y cyfrannau)

Dylid manylu’r cyfrannau. Os caiff yr ymadrodd ‘fel tenantiaid cydradd’ ei ddefnyddio heb wybodaeth ychwanegol, ni fydd yn eglur os yw incwm a derbynion cyfalaf i gael eu rhannu’n gyfartal, ar sail y wireb ‘cydraddoldeb yw cyfiawnder’, neu yn y fath gyfrannau ag y gall yr ymddiriedolwyr eu pennu. Os ydych yn bwriadu’r olaf, dylid cyflawni datganiad ymddiried ar wahân yn cynnwys cyfarwyddiadau priodol ar ba sail mae’r rhannu i’w wneud.

Ar ymddiried i aelodau (cymdeithasiad anghorfforedig) i ddelio ag ef yn unol â’i reolau

Mae’r geiriad hwn yn creu ymddiried noeth i aelodau cymdeithasiad anghorfforedig, ond yn amodol ar unrhyw gontract rhwng yr aelodau a grëwyd gan ei reolau. Oni bai bod amcanion y cymdeithasiad yn elusennol yn unig, bydd ymddiried at ddibenion y cymdeithasiad yn annilys a dylid ei osgoi.

Ar ymddiriedau gweithred ymddiried (neu yn ôl fel y bo’n digwydd) ddyddiedig (ac ati)

Mae’r geiriad hwn yn addas pan fo’r ymddiriedau yn cael eu henwi mewn gweithred ymddiried, gweithred bartneriaeth, ewyllys neu ddogfen arall. Dylech wneud hyn os yw telerau’r ymddiried yn gymhleth neu os dymunwch iddynt aros yn gyfrinachol. Caiff unrhyw un wneud cais i archwilio, neu ofyn am gopi swyddogol o, ddogfen sy’n cael ei dal gan y cofrestrydd ac a dderbyniwyd gan y cofrestrydd ar ôl 13 Hydref 2003, oni bai iddi gael ei dynodi’n ddogfen eithriedig. Yn gyffredinol, os gwnaed dogfen yn ddogfen eithriedig, dim ond fersiwn golygedig o’r ddogfen, yn gadael allan y wybodaeth sensitif, fydd yn agored i archwiliad neu gopïo. Gall ddal i fod yn bosibl i rywun archwilio neu ofyn am gopi llawn o ddogfen eithriedig yn ôl darpariaethau Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. Os nad oes agwedd arall ar y trosglwyddiad yn gyfrinachol, bydd yn symlach mynegi telerau’r ymddiried mewn gweithred ar wahân nag i wneud cais am eithriad. Nid oes angen cyflwyno’r weithred (neu ddogfen arall yn creu’r ymddiried) gyda’r cais.

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

4.5 Ceisiadau am gyfyngiadau

Mewn rhai achosion bydd angen i chi wneud cais am gyfyngiad, naill ai yn y trosglwyddiad, prydles neu gydsyniad i’r ymddiriedolwyr neu ar ffurflen RX1. Gweler Ffurfiau safonol o gyfyngiadau a Sut i wneud cais am gyfyngiadau.

5. Gwarediadau gan ymddiriedolwyr a chynrychiolwyr personol

5.1 Cydymffurfio â chyfyngiadau yn y gofrestr

Rhaid cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiad yn y gofrestr cyn gallu cofrestru gwarediad.

Cyfyngiad Ffurf A

Os yw unig berchennog neu’r unig berchennog i oroesi wedi ei gofrestru gyda chyfyngiad Ffurf A, ac arian cyfalaf yn deillio o dan y gwarediad, bydd angen i chi benodi un neu fwy o ymddiriedolwyr newydd i ymuno yn y gwarediad. Gweler Penodi a diswyddo ymddiriedolwyr.

Fodd bynnag, os daeth y perchennog hwnnw yn unig berchennog llesiannol, gallech wneud cais i ddileu’r cyfyngiad yn lle hynny. Gweler Ceisiadau i ddileu cyfyngiadau.

Os yw’r gwarediad yn un lle nad oes arian cyfalaf yn deillio, er enghraifft prydles am grogrent, yna ni fydd cyfyngiad Ffurf A yn atal cofrestru.

5.1.2 Cyfyngiadau Ffurf B a Ffurf C

Bydd cyfyngiad ar Ffurf B neu Ffurf C yn cael ei fodloni trwy ddarparu’r dystysgrif briodol neu ddatganiad statudol.

5.1.3 Lle bo anhawster cydymffurfio â chyfyngiad

Os yw’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried yn galw am gydsyniad plentyn o dan oed, yn lle hynny dylai’r ymddiriedolwyr gael cydsyniad rhiant sydd â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn o dan oed (o fewn ystyr Deddf Plant 1989) neu warcheidwad (adran 10(3)(b) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996).

Os yw’r gwarediad sy’n creu’r ymddiried yn gofyn am gydsyniad mwy na dau o bobl i warediad ac nad oes modd cael cydsyniad pob un ohonynt, ond bod modd darparu dau o’r cydsyniadau gofynnol, mae hyn yn ddigonol o blaid prynwr (adran 10(1) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996).

Mewn rhai achosion o anhawster, gall fod yn briodol gwneud cais i’r cofrestrydd am orchymyn o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002, yn datgymhwyso neu’n addasu’r cyfyngiad o ran gwarediad arbennig neu fath o warediad. Rhaid i chi wneud cais ar ffurflen RX2. Bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • datgan a ydych yn gwneud cais i ddatgymhwyso neu addasu’r cyfyngiad ac, os yr olaf, rhoi manylion o’r addasiad sydd ei angen
  • esbonio pam fod gan y ceisydd fudd digonol yn y cyfyngiad i wneud y cais
  • rhoi manylion o’r gwarediad neu fath o warediad fydd o dan sylw
  • datgan pam y dylai’r cofrestrydd orchymyn (rheol 96 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Byddwn yn rhoi rhybudd o’r cais i unrhyw bobl eraill sy’n ymddangos i fod â budd yn y cyfyngiad. Os bydd y cofrestrydd yn gorchymyn, byddwn yn cofnodi ei delerau yn y gofrestr.

5.2 Atwrneiaethau a roddwyd gan ymddiriedolwyr

Mae amryw ddarpariaethau statudol yn galluogi i ymddiriedolwyr ddirprwyo eu swyddogaethau, yn unigol neu ar y cyd. I gael manylion y rhain a gofynion cysylltiedig Cofrestrfa Tir EF, gweler cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig.

Mae’n werth pwysleisio un peth yma. O dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, gall yr ymddiriedolwyr, yn gweithredu ar y cyd, ddirprwyo eu swyddogaethau i fuddiolwr neu fuddiolwyr trwy gyfrwng atwrneiaeth. Ond ni all yr atwrneiod roi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, hyd yn oed os oes dau neu fwy ohonynt (Adran 9(7) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996). Os bydd arian cyfalaf yn deillio ar warediad, bydd yr ymddiriedolwyr (neu eu hatwrneiod unigol a benodwyd o dan adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr) yn gorfod ei gyflawni i roi’r dderbynneb. Fel arfer, felly, ni fydd o fawr werth i’r atwrnai ei gyflawni’n ogystal. Fodd bynnag, o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr gall atwrnai gyflawni gwarediad lle nad oes arian cyfalaf yn deillio, fel prydles am grogrent.

6. Dileu a thynnu cyfyngiadau’n ôl

6.1 Dileu cyfyngiadau ohonynt eu hunain

O dan rai amgylchiadau, byddwn yn dileu cyfyngiad ymddiried ohono’i hun wrth gofrestru trosglwyddiad (o dan reol 99 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Ymhob achos arall, bydd y cyfyngiad yn aros oni bai bod cais penodol yn cael ei wneud i’w ddileu (gweler Ceisiadau i ddileu cyfyngiadau). Ni fydd cyfyngiadau gwirfoddol, fel y rhai sydd angen cydsyniad rhywun a enwir, fyth yn cael eu dileu ohonynt eu hunain.

Bydd cyfyngiad Ffurf A yn cael ei ddileu ohono’i hun wrth gofrestru naill ai:

  • trosglwyddiad trwy werthu gan ddau neu fwy o berchnogion neu gorfforaeth ymddiried (heblaw lle bo’r trosglwyddiad i un, neu fwy, o’r perchnogion presennol)
  • trosglwyddiad gan arwystlai cofrestredig o dan ei bŵer gwerthu

Bydd cyfyngiad Ffurf B yn cael ei ddileu ohono’i hun wrth gofrestru naill ai:

  • trosglwyddiad trwy werthu gan y perchennog neu berchnogion, pan roddwyd tystysgrif neu ddatganiad statudol yn unol â thelerau’r cyfyngiad
  • trosglwyddiad gan arwystlai cofrestredig o dan ei bŵer gwerthu

Bydd cyfyngiad Ffurf C yn cael ei ddileu ohono’i hun wrth gofrestru naill ai:

  • cydsyniad gan gynrychiolydd personol ar ffurflen AS1 neu ffurflen AS3
  • trosglwyddiad trwy werthu gan gynrychiolydd personol, pan roddwyd tystysgrif neu ddatganiad statudol yn unol â thelerau’r cyfyngiad
  • trosglwyddiad gan arwystlai cofrestredig o dan ei bŵer gwerthu

6.2 Ceisiadau i ddileu cyfyngiadau

Pan nad oes angen cyfyngiad mwyach, gallwch wneud cais i’w ddileu o dan reol 97 o Reolau Cofrestru Tir 2003. Rhaid gwneud y cais ar ffurflen RX3, a rhaid iddo ddod gyda thystiolaeth i fodloni’r cofrestrydd nad oes angen y cyfyngiad mwyach. Os caiff y cofrestrydd ei fodloni felly, rhaid dileu’r cyfyngiad.

Mae’r amgylchiadau pryd y gellid gwneud cais o’r fath yn cynnwys:

Pan fydd cyfyngiad Ffurf A yn cael ei gofrestru, ond bod unig berchennog neu’r unig berchennog i oroesi wedi dod yn unig berchennog llesiannol. Dylai tystiolaeth o’r teitl ecwitïol, trwy gyfrwng datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan ddefnyddio ffurflen ST5 (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: Datganiadau o wirionedd), gael ei chynnwys gyda’r cais. Dylai hyn egluro natur y budd a warchodir gan y cyfyngiad, sut mae’r budd hwnnw wedi dod i ben neu wedi ei ddatganoli i’r perchennog cofrestredig, ac nad oes gan unrhyw un arall fudd llesiannol yn y tir ac nad oes unrhyw fudd llesiannol yn y tir wedi ei forgeisio neu wedi ei arwystlo ar wahân, ac nad oes ac na fu unrhyw berchennog llesiannol yn ddarostyngedig i orchymyn arwystlo neu achosion methdaliad (nid yw morgais cofrestredig yn cyfrif). Yn lle datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, byddwn yn derbyn tystysgrif i’r perwyl hwn gan y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran y perchennog sy’n goroesi os gall siarad o wybodaeth bersonol am y ffeithiau. Fel arall, gellir cyflwyno gorchymyn llys yn gofyn i’r cofrestrydd ddileu’r cyfyngiad.

Pan fydd cyfyngiad Ffurf A yn cael ei gofrestru ond, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, bod y perchnogion cofrestredig wedi cael hawl fel cyd-denantiaid llesiannol. Eto, bydd gofyn cael tystiolaeth o’r teitl ecwitïol.

Pan fydd cyfyngiad Ffurf B neu C yn cael ei gofrestru ond, o ganlyniad i newid yn yr ymddiriedau, nad yw pwerau’r ymddiriedolwyr yn gyfyngedig mwyach o dan adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996. Bydd tystiolaeth o amrywio’r ymddiriedau – gweithred neu orchymyn llys fel rheol – yn ofynnol.

Pan gaiff cyfyngiad Ffurf B ei gofrestru ond nid yw’r ymddiried a arweiniodd at y cyfyngiad yn effeithio ar yr ystad gofrestredig mwyach. Bydd tystiolaeth o hynny, megis datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd, neu dystysgrif gan drawsgludwr, yn ofynnol.

Gall adran 6(1) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, fod wedi disodli yn gyfan gwbl neu’n rhannol gyfyngiadau arbennig a gofrestrwyd cyn 1997 sy’n rhoi holl bwerau perchennog llwyr i ymddiriedolwyr tir, at ddiben arfer eu swyddogaethau.

I ddileu’r cyfyngiad, bydd angen i chi fodloni’r cofrestrydd nad oes unrhyw gyfyngiad ar bwerau’r ymddiriedolwyr yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, ac na fydd unrhyw warediad yn torri darpariaethau adran 6(6) neu 6(8) y Ddeddf honno. Mewn rhai achosion, gall fod modd dileu’r cyfyngiad os bydd yr ymddiriedolwyr yn gwneud cais i’w ddisodli gyda chyfyngiad Ffurf B. Mewn achosion eraill, gall fod yn fwy priodol gwneud cais i’w addasu o dan adran 41(2) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

6.3 Ceisiadau i dynnu cyfyngiadau’n ôl

Mae modd tynnu cyfyngiad yn ôl, o dan reol 98 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gyda chydsyniad pawb sydd â budd ynddo oni bai bod y cyfyngiad yn un sy’n dod o fewn rheol 98(3) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Daw cyfyngiad Ffurf A, B neu C yn aml o fewn rheol 98(3)(b) neu (c) ac felly fel rheol ni fydd modd eu tynnu’n ôl. Fodd bynnag, gellir gwneud cais i ddileu’r cyfyngiadau hyn, ar y sail nad oes eu hangen mwyach. Gweler Ceisiadau i ddileu cyfyngiadau.

Gellir tynnu cyfyngiad gwirfoddol sy’n gysylltiedig ag ymddiried yn ôl, er enghraifft un y mae angen cydsyniad buddiolwr a enwir ar ei gyfer. Yn yr achos hwnnw, byddai angen cydsyniad y buddiolwr o dan sylw.

I gael rhagor o wybodaeth am ddileu a thynnu cyfyngiadau’n ôl, gweler cyfarwyddyd ymarfer 19: Rhybuddion, cyfyngiadau a gwarchod buddion trydydd parti yn y gofrestr.

7. Newid ymddiriedolwyr

7.1 Cadw enwau a chyfeiriadau’n gyfoes

Mae’n bwysig i ymddiriedolwyr gadw eu henwau a’u cyfeiriadau ar gyfer gohebu yn y gofrestr yn gyfoes. Os na wnânt, efallai na fyddant yn derbyn rhybuddion Cofrestrfa Tir EF neu eraill. Gall canlyniadau hyn fod yn ddifrifol. Er enghraifft, gall ganiatáu i sgwatiwr gaffael teitl o dan Atodlen 6 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

7.2 Penodi a diswyddo ymddiriedolwyr

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

7.2.1 Defnyddio trosglwyddiad

Dyma’r ffordd symlaf i gofrestru ymddiriedolwyr newydd, ond mae angen cydweithrediad pob un sy’n ymadael. Gellir defnyddio ffurflen TR1 neu ffurflen TR5 yn lle gweithred benodi ymddiriedolwr newydd neu drawsgludiad neu aseiniad traddodiadol a wneir o ganlyniad i benodi ymddiriedolwr newydd tir digofrestredig a fydd yn arwain at gofrestriad cyntaf gorfodol o dan y digwyddiad ymddiriedolwr newydd (adran 4(1)(aa)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Gweler Yr achos ymddiriedolwr newydd am wybodaeth bellach a chyfarwyddyd ymarfer 21: defnyddio ffurflenni trosglwyddo ar gyfer trafodion cymhlethach.

Dylai’r ymddiriedolwyr neu berchnogion cofrestredig presennol gyflawni trosglwyddiad, gan ddefnyddio ffurflen TR1 neu ffurflen TR5, i’r ymddiriedolwyr sy’n aros a’r rhai newydd. Nid oes angen Tystysgrif Ffurflen Trafodiad Tir neu hunan dystysgrif ar drosglwyddiad a ddefnyddir dim ond i weithredu penodiad ymddiriedolwyr newydd neu ychwanegol. Ni ddylid cwblhau un o’r datganiadau yn y panel cydnabyddiaeth. Dylai panel darpariaethau ychwanegol y trosglwyddiad ddatgan: ‘Mae’r trosglwyddiad hwn yn cael ei wneud at ddiben gweithredu penodiad ymddiriedolwyr newydd.’

Gallwch ddefnyddio trosglwyddiad naill ai yn lle, neu’n ogystal â, gweithred benodi neu ddiswyddo ar wahân. Os ydych wedi defnyddio gweithred ar wahân, gall eich datganiad ym mhanel darpariaethau ychwanegol y trosglwyddiad fod mewn geiriau fel: ‘Mae’r trosglwyddiad hwn yn cael ei wneud yn unol â gweithred benodi ymddiriedolwyr newydd ddyddiedig heddiw.’ Fel arfer ni fydd angen i ni weld y weithred benodi.

Rhaid i’r trosglwyddiad fod oddi wrth yr holl berchnogion sy’n ymadael i’r holl berchnogion sy’n aros a’r rhai newydd. Bwriwch, er enghraifft, mai A, B ac C yw’r ymddiriedolwyr presennol, a bod C yn ymddeol a D yn dod yn ei le, fydd yn ymddiriedolwr ar y cyd ag A a B. Rhaid dangos A, B ac C fel y trosglwyddwyr ac A, B a D fel y trosglwyddeion. Rhaid i A, B ac C i gyd ei gyflawni.

Mae modd anwybyddu cyfyngiadau Ffurf A, am nad yw arian cyfalaf yn deillio, ond efallai y bydd angen cydymffurfio â chyfyngiadau eraill yn erbyn cofrestru gwarediadau neu drosglwyddiadau.

Ar gyfer y ffi sy’n daladwy, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru – Trafodion o dan Raddfa 2.

7.2.2 Defnyddio gweithred benodi

O dan adran 40 o Ddeddf Ymddiriedolwyr, mae gweithred benodi neu ymddeol, sy’n ateb rhai amodau, ohoni’i hun yn breinio eiddo’r ymddiried yn yr ymddiriedolwyr newydd a’r rhai sy’n aros. Os yw’r tir yn ddigofrestredig, mae’r weithred benodi, os yw wedi ei dyddio ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009, yn peri cofrestriad cyntaf (adran 4(1)(aa)(i) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os yw eiddo’r ymddiried yn ystad gofrestredig neu’n arwystl cofrestredig rhaid cwblhau’r trosglwyddiad hwn trwy weithrediad y gyfraith trwy gofrestru (adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

Os nad yw’r eiddo’n gofrestredig, rhaid i chi wneud cais ar ffurflen FR1:

  • gan amgáu’r weithred wreiddiol
  • gan ddangos teitl gwreiddyn da
  • gan amgáu tystiolaeth i fodloni’r cofrestrydd fod gan bwy bynnag sy’n gwneud y penodiad neu’n peri’r ymddeoliad hawl i wneud hynny

Mae gan drawsgludwyr y dewis o gyflwyno ceisiadau am gofrestriad cyntaf yn cynnwys copïau yn unig o weithredoedd a dogfennau ardystiedig. Am wybodaeth am hyn, gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf – Ceisiadau a gyflwynir gan drawsgludwyr – derbyn copïau ardystiedig o weithredoedd.

Os yw’r eiddo’n gofrestredig, rhaid i chi wneud cais ar ffurflen AP1, gan amgáu:

  • copi ardystiedig o’r weithred wreiddiol
  • tystiolaeth i fodloni’r cofrestrydd bod gan bwy bynnag sy’n gwneud y penodiad neu’n peri’r ymddeoliad hawl i wneud hynny. Bydd tystysgrif i’r perwyl hwnnw oddi wrth drawsgludwr yn gweithredu ar eu rhan yn dderbyniol fel tystiolaeth (rheol 161(3) a 203 o Reolau Cofrestru Tir 2003)

Os nad yw’n glir o’r weithred benodi bod y teitl yn rhan o’r tir sy’n cael ei ddal o dan yr ymddiried, rhaid ichi ddarparu tystiolaeth i ddangos bod hyn yn wir. Gall hyn fod ar ffurf tystysgrif gan drawsgludwr neu ddatganiad o wirionedd datganiad statudol gan y ceisydd.

Mae achosion lle byddai hyn y ffordd orau ymlaen yn cynnwys y canlynol. Ymhob achos, mae modd cyflwyno tystysgrif y trawsgludwr sy’n gweithredu ar ran pwy bynnag sy’n gwneud y penodiad, neu’n peri’r ymddeoliad, yn lle’r dystiolaeth y cyfeirir ati naill ai:

  • lle bo pŵer penodi ymddiriedolwyr newydd wedi ei freinio yn rhywun heblaw’r ymddiriedolwyr presennol (er enghraifft, yn y setlwr). Bydd angen i chi gyflwyno copi ardystiedig o’r offeryn ymddiried sy’n cynnwys y pŵer hwn
  • lle cafodd ymddiriedolwr ei ddiswyddo neu ei ddisodli o dan bŵer yn yr offeryn ymddiried. Bydd angen i chi gyflwyno copi ardystiedig o’r offeryn ymddiried sy’n cynnwys y pŵer hwn
  • lle cafodd ymddiriedolwr ei ddisodli o dan adran 36(1) o Ddeddf Ymddiriedolwyr, ar sail ei fod wedi bod o’r Deyrnas Unedig am fwy na 12 mis, yn gwrthod, neu’n anghymwys i weithredu yn yr ymddiried, neu yn analluog i wneud hynny (ni all corfforaeth a ddiddymwyd weithredu yn yr ymddiried: adran 36(3) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925), neu yn faban. Bydd angen i chi gyflwyno datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd yn profi’r ffeithiau perthnasol (yr amgylchiadau y gwneir y penodiad) ac, yn achos analluogrwydd meddyliol, datgan a oes gan yr ymddiriedolwr nad oes ganddo allu meddyliol fudd llesiannol ym meddiant yn yr eiddo ai peidio. (Os gwneir y penodiad o dan adran 36(1)(b) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925, mae’n bosibl y bydd gorchymyn o’r Llys Gwarchod yn ofynnol – gweler yn ogystal, Methdaliad a Galluedd meddyliol.)

Fel arfer, rhaid i benodiad neu ddiswyddiad sy’n cynnwys datganiad breinio datganedig neu oblygedig fod trwy weithred ond, yn achlysurol, bydd offeryn ysgrifenedig yn gwneud y tro (gweler, er enghraifft, adran 13(2) o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992). Fel arfer, nid oes rhaid ei gyflawni gan ymddiriedolwyr sy’n cael eu diswyddo yn groes i’w hewyllys (Gweler Parthed Stoneham Settlement Trusts, [1953] Pennod 59). Fodd bynnag, byddwn yn gyffredinol yn cyflwyno rhybudd i unrhyw berchennog cofrestredig presennol nad yw’n barti yn y ddogfen, cyn i ni gwblhau’r cais (o dan reol 17 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Lle bo tir yn cael ei ddal o dan brydles sy’n cynnwys darpariaeth yn erbyn aralliad heb gydsyniad, ni fydd gweithred benodi neu ymddeoliad yn gweithredu i freinio’r tir yn yr ymddiriedolwyr os na chafwyd y cydsyniad gofynnol (Adran 40(4)(b) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925). Dylai fod copi ardystiedig o’r cydsyniad gyda’r cais.

Mae modd anwybyddu cyfyngiadau Ffurf A am nad yw arian cyfalaf yn deillio, ond efallai y bydd angen cydymffurfio â chyfyngiadau eraill yn y gofrestr yn erbyn cofrestru gwarediadau.

Ar gyfer y ffi sy’n daladwy, gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru – Trafodion o dan Raddfa 2.

7.2.3 Gorchmynion breinio gan y llys

Mae adran 41 o Ddeddf Ymddiriedolwyr, yn galluogi’r llys i benodi ymddiriedolwyr newydd. Yn achos tir cofrestredig, rhaid cofrestru gorchymyn o’r fath (adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Dylech wneud cais ar ffurflen AP1, gan amgáu copi swyddfa o’r gorchymyn llys (rheol 161(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Yn achos tir digofrestredig, bydd gorchymyn breinio o dan adran 44 o Ddeddf Ymddiriedolwyr a wnaed ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009 sy’n ôl-ddilynol ar benodiad ymddiriedolwr newydd (p’un ai y gwnaed y penodiad ar orchymyn o dan adran 41 o Ddeddf Ymddiriedolwyr ai peidio) yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol a rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf (rheol 203 o Reolau Cofrestru Tir 2003). Am wybodaeth bellach gweler cyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

7.2.4 Penodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr trwy benderfyniad yr ymddiriedolwyr

Mewn rhai achosion, lle mae modd penodi neu ddiswyddo ymddiriedolwyr trwy benderfyniad cyfarfod o’r ymddiriedolwyr neu bobl eraill, mae datganiad breinio yn oblygedig trwy statud yn y memorandwm neu gofnod ysgrifenedig o’r penderfyniad (gweler, er enghraifft, adrannau 13 a 129 o Ddeddf (Cydgrynhoi) Undebau Llafur a Chysylltiadau Cyflogaeth 1992).

Os yw eiddo’r ymddiried yn ystad gofrestredig neu’n arwystl cofrestredig, rhaid cwblhau’r datganiad hwn trwy gofrestru (adran 27(5) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Mewn llawer achos y ffordd hawsaf fydd trefnu i’r perchnogion cofrestredig presennol gyflawni trosglwyddiad i’r ymddiriedolwyr newydd neu’r rhai sy’n aros. Fel arall, gallwch wneud cais i gofrestru’r datganiad breinio goblygedig yn uniongyrchol. Rhaid i chi wneud cais ar ffurflen AP1, gan amgáu copi ardystiedig o’r memorandwm neu benderfyniad a thystiolaeth o’r ddarpariaeth y mae’n gweithredu dani i freinio’r tir yn yr ymddiriedolwyr (Rheol 161(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Os yw’r tir yn ddigofrestredig, bydd memorandwm a gyflawnwyd fel gweithred ar neu ar ôl 6 Ebrill 2009 yn rhoi tystiolaeth o benodiad ymddiriedolwr newydd trwy benderfyniad i’r hwn y mae adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys yn peri cofrestriad cyntaf gorfodol a rhaid gwneud cais am gofrestriad cyntaf (mae adran 334 o Ddeddf Elusennau 2011 yn gymwys nid yn unig i elusennau ond i unrhyw sefydliad i’r hwn y mae Deddf Sefydliadau Llenyddol a Gwyddonol1954 yn gymwys, p’un ai y mae’r sefydliad yn elusen ai peidio. Gweler adran 334(6) o Ddeddf Elusennau 2011.). Am wybodaeth bellach gweler Yr achos ymddiriedolwr newydd a chyfarwyddyd ymarfer 1: cofrestriadau cyntaf.

7.2.5 Marwolaeth ymddiriedolwr

Pan fo ymddiriedolwr wedi marw, dylid cynnwys tystiolaeth o’i farwolaeth gyda chais i ddileu ei enw o’r gofrestr, neu i gofrestru trosglwyddiad i, neu freinio mewn, ymddiriedolwyr newydd (rheol 164 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

8. Rhai sefyllfaoedd arbennig

Gweler Cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau o ran cadw dogfennau a gyflwynir gyda cheisiadau.

8.1 Ceisiadau buddiolwyr i warchod eu budd

Gweler yr adrannau canlynol:

8.2 Methdaliad

Os bydd un o ddau gyd-denant llesiannol yn mynd yn fethdalwr, mae’r gorchymyn methdaliad yn torri’r cyd-denantiaeth. Dylai’r perchnogion cofrestredig wneud cais am gyfyngiad Ffurf A, a gall yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud hynny hefyd (fel rhywun â budd yn yr ymddiried). Ni fydd y cofrestrydd yn cofnodi un ohono’i hun. Gall yr ymddiriedolwr mewn methdaliad wneud cais hefyd am gyfyngiad Ffurf J. Bydd hyn yn sicrhau bod yr ymddiriedolwr mewn methdaliad yn derbyn rhybudd o unrhyw warediad gan yr ymddiriedolwyr.

Er bod eiddo methdalwr yn gyffredinol yn breinio yn eu hymddiriedolwr mewn methdaliad, nid yw hyn yn berthnasol i eiddo y mae’r methdalwr yn ei ddal mewn ymddiried ar ran rhywun arall (adran 283(3) o Ddeddf Ansolfedd 1986). O ganlyniad, pan fydd cydberchennog yn cael ei gyhoeddi’n fethdalwr, bydd eu budd llesiannol (os oes un) yn breinio yn yr ymddiriedolwr mewn methdaliad, ond ni fydd eu hystad gyfreithiol. Rhaid i’r methdalwr a’r ymddiriedolwyr eraill gyflawni unrhyw warediad o’r ystad gyfreithiol ac, os oes arian cyfalaf yn deillio, rhaid iddynt hwy roi’r dderbynneb amdano, ac nid yr ymddiriedolwr mewn methdaliad (os na chaiff ei dalu i’r ymddiriedolwyr ni fydd y buddion llesiannol wedi eu gorgyrraedd – adrannau 2 a 27 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Fodd bynnag, gall methdaliad fod yn rheswm dros ddisodli’r methdalwr fel ymddiriedolwr (o dan adran 36(1) o Ddeddf Ymddiriedolwyr. Gweler Parthed Barker’s Trusts (1875) 1 Ch D 43, Parthed Adam’s Trust (1879) 12 Ch D 634).

8.3 Ymddiriedau noeth

Mae ymddiriedolwr noeth neu ymddiriedolwr gwarchod yn gorfod gweithredu ar gyfarwyddiadau’r buddiolwr yn unig. Mae’n ymddangos bod y cyfyngiad hwn yn un o reolau ecwiti a rhaid peidio ag arfer pwerau ddaw o dan adran 6 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr, yn groes iddo (adran 6(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996). Dylid gwarchod hawliau’r buddiolwr trwy wneud cais am gyfyngiad Ffurf A – os yw’r cais am gofrestriad yn cael ei wneud gan yr ymddiriedolwr, mae rheol 94(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003, yn gorfodi iddo wneud cais am hyn. Gallwch hefyd wneud cais am gyfyngiad Ffurf N (yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003), sy’n atal cofrestru gwarediadau heb gydsyniad y buddiolwr.

8.4 Ymddiriedau deongliadol

Ymddiried tir yw ymddiried goblygedig, deongliadol neu ganlyniadol. Os bydd un yn dod i fodolaeth, rhaid i’r perchennog cofrestredig wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (rheol 94(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Yn ymarferol, efallai nad yw’r perchennog yn ymwybodol fod ymddiried wedi dod i fodolaeth neu, os ydynt, gallant anghytuno â’r ffaith. Gall y buddiolwr hefyd wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (o dan reol 93(a) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Oni bai ei fod yn gwneud cais gyda chydsyniad y perchennog, bydd angen i’r buddiolwr fodloni’r cofrestrydd fod yna ymddiried. Yn ymarferol, bydd hyn yn golygu cwblhau panel 12 neu 13 ffurflen RX1 gyda digon o wybodaeth i wneud hynny. Bydd hyn yn gofyn am fwy na honiad noeth bod ymddiried wedi dod i fodolaeth. Bydd angen i chi esbonio’r amgylchiadau a’i hachosodd.

Oni bai bod y perchennog cofrestredig yn cydsynio, bydd y cyfyngiad yn un hysbysadwy, a byddwn yn anfon rhybudd i’r perchennog cofrestredig, yn rhoi cyfle iddynt wrthwynebu (adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2003). Gweler Pwy sy’n gallu gwneud cais am gyfyngiad? Bydd yn rhaid delio ag unrhyw anghydfod ddaw o ganlyniad o dan adran 73 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

8.5 Galluedd meddyliol

Mae modd disodli ymddiriedolwr nad oes ganddo allu meddyliol yn ôl darpariaethau Deddf Ymddiriedolwyr a Deddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996 (adran 36(1) o Ddeddf Ymddiriedolwyr ac adrannau 20 a 21 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996). Ond os oes ganddo fudd llesiannol mewn meddiant yn eiddo’r ymddiried, nid oes modd eu disodli o dan adran 36(1)(b) o Ddeddf Ymddiriedolwyr, heb ganiatâd y Llys Gwarchod (gweler adran 36(9) o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925). Gweler hefyd Penodi a diswyddo ymddiriedolwyr.

Efallai na fydd angen disodli ymddiriedolwr nad oes ganddo allu meddyliol os yw wedi cyflawni atwrneiaeth parhaus neu atwrneiaeth arhosol wedi’i chofrestru o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005, ar yr amod bod ganddynt fudd llesiannol yn eiddo’r ymddiried. Yn y fath achos, gall yr atwrnai gyflawni eu swyddogaethau fel ymddiriedolwr (ar yr amod bod yr atwrneiaeth yn ddyddiedig ar neu ar ôl 1 Mawrth 2000. Gweler adran 1 o Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999. O dan amgylchiadau cyfyngedig, gall atwrneiaethau dyddiedig yn gynharach gymhwyso – gweler adran 4 o Ddeddf Dirprwyo gan Ymddiriedolwyr 1999. Ond byddai’n ymddangos na allai’r atwrnai ymuno mewn dirprwyo swyddogaethau i fuddiolwr â meddiant o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr. I gael rhagor o gyfarwyddyd, gweler cyfarwyddyd ymarfer 9: Atwrneiaethau a thir cofrestredig. Ni fydd unrhyw fath arall o atwrneiaeth arall yn effeithiol i’r diben hwn. Mae atwrneiaethau eraill, hyd yn oed os ydynt yn berthnasol i swyddogaethau sydd gan y rhoddwr fel ymddiriedolwr, yn cael eu dirymu os yw’r rhoddwr yn colli ei allu meddyliol.

Pan fo eiddo ym mherchnogaeth unigolyn nad oes ganddo allu meddyliol yn unig, gall y dirprwy a benodir gan y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (Deddf 2005) wneud cais am gyfyngiad sy’n atal gwarediad y tir neu arwystl cofrestredig ac eithrio o dan orchymyn y llys. Dylai’r cyfyngiad y gwneir cais amdano fod ar ffurf safonol RR (gweler Gallu Meddyliol plant o dan oed) a dylid cynnwys tystiolaeth o bŵer y dirprwy i wneud cais i gofnodi’r cyfyngiad. Pan fo gorchymyn o dan Ddeddf 2005 yn rhoi pŵer cyffredinol i’r dirprwy, bydd hyn yn rhoi hawl iddo wneud cais am y cyfyngiad hwn hefyd.

Os yw’r person nad oes ganddo allu meddyliol (P) yn gyd-berchennog/ymddiriedolwr, dylid ei ryddhau neu benodi ymddiriedolwr newydd. Ond os oes ganddo hawl i fudd llesiannol mewn meddiant, ni all unrhyw ddirprwy nac unrhyw gyd-berchennog/ymddiriedolwr ddisodli P fel ymddiriedolwr a rhaid i’r Llys Gwarchod roi caniatâd i wneud y penodiad yn unol ag adran 36(9) o Ddeddf Ymddiriedolwr 1925. Os penodir ymddiriedolwr newydd i gymryd lle P, gall yr ymddiriedolwr wneud cais am gyfyngiad safonol ffurf SS (gweler Gallu Meddyliol plant o dan oed) sy’n atal gwarediad yn ystod oes P heb ganiatâd y Llys Gwarchod.

8.6 Galluedd meddyliol plant o dan oed

Ni all plentyn o dan oed gymryd trosglwyddiad ystad gyfreithiol mewn tir (adran 1(6) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925). Byddai trosglwyddiad o’r fath yn gweithredu fel datganiad o ymddiried ar gyfer y plentyn o dan oed (adran 1(1), Atodlen 1 i Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr). Os yw’r plentyn o dan 16, bydd yn rhaid i ddirprwy a benodwyd o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2004 (D), wneud cais i’r llys am orchymyn i awdurdodi D i gaffael yr eiddo ar gyfer y plentyn o dan oed. Os yw’r plentyn rhwng 16 a 18, gall D brynu eiddo gan ddefnyddio’r pwerau cyffredinol yn adran 16 o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 (yn absenoldeb unrhyw gyfyngiad yn y gorchymyn dirprwyaeth). Yn y naill achos, gall D gaffael yr ystad gyfreithiol ond bydd yn ei dal ar ymddiried ar gyfer y plentyn o dan oed a dylai wneud cais i gofnodi cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr.

Ar ôl i’r plentyn gyrraedd 18, gellir trosglwyddo’r eiddo i’w enw ond yn ddarostyngedig i gofnodi cyfyngiad safonol Ffurf RR:

“CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad yn ystod oes [enw’r person nad oes ganddo allu meddyliol] o’r ystad gofrestredig [neu o’r arwystl cofrestredig dyddiedig…] i’w gwblhau trwy gofrestriad oni bai y gwneir hynny trwy orchymyn y llys o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.”

Fel arall, gellir trosglwyddo’r eiddo i un neu ragor o ymddiriedolwyr mewn oed a chanddynt allu meddyliol llawn, ar ymddiried ar gyfer y plentyn o dan oed sydd wedi cyrraedd 18. Dylid cyflwyno’r trosglwyddiad am gofrestriad gyda datganiad o ymddiried (a fydd, o bosibl, yn y trawsgludiad neu drosglwyddiad, neu gan weithred ar wahân, neu ar ffurflen JO) a chais am gyfyngiad Ffurf A. Dylid gwneud cais am gyfyngiad safonol Ffurf SS hefyd.

“CYFYNGIAD: Nid oes gwarediad o’r [ystad gofrestredig] [arwystl cofrestredig dyddiedig [dyddiad]] a wnaed yn ystod oes [enw’r person nad oes ganddo allu meddyliol] i’w gwblhau trwy gofrestriad heb ganiatâd y Llys Gwarchod”.

8.7 Cymdeithasiadau anghorfforedig anelusennol

Gall amrywiaeth o gyrff anghorfforedig fod yn y categori hwn, fel clybiau, cymdeithasau (gan gynnwys cymdeithasau llesiant anghorfforedig) ac undebau llafur. Yn gyffredinol mae eu heiddo yn breinio mewn ymddiriedolwyr, neu gorfforaeth ymddiried, mewn ymddiried ar ran aelodau’r cymdeithasiad. Gan y bydd yr ymddiriedolwr neu oroeswr yr ymddiriedolwyr, heblaw corfforaeth ymddiried, yn methu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf, bydd gofyn cael cyfyngiad Ffurf A a dylid gwneud cais am un os bydd angen. Gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth. Weithiau bydd rheolau’r cymdeithasiad yn datgan sut mae’r eiddo i gael ei drin. Yn yr achos hwn dylai’r datganiad yn y panel datganiad ymddiried ar y ffurflen drosglwyddo neu ffurflen FR1 gyfeirio at y rheolau. Mae geiriad addas yn Datganiad ymddiried. Gallwch hefyd fod eisiau gwneud cais am gyfyngiad Ffurf R (yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir s 2003). Geiriad y cyfyngiad hwn yw:

“Nid oes gwarediad [neu rhowch fanylion] o’r ystad gofrestredig [(ac eithrio arwystl)] gan berchennog yr ystad gofrestredig [neu gan berchennog unrhyw arwystl cofrestredig] i’w gofrestru oni bai yr awdurdodir hynny gan reolau [enw’r clwb] o [cyfeiriad] fel y tystiwyd [trwy benderfyniad ei aelodau neu trwy dystysgrif wedi ei llofnodi gan ei ysgrifennydd neu drawsgludwr [neu rhowch fanylion priodol]].”

Wrth wneud cais am gyfyngiad Ffurf R, mae angen i chi nodi sut y bydd y cofrestrydd yn gwybod y cydymffurfiwyd â rheolau’r cymdeithasiad. Fel arfer, tystysgrif i’r perwyl hwnnw wedi ei llofnodi gan ysgrifennydd y clwb neu ei drawsgludwr, neu benderfyniad aelodau’r clwb, fydd y dull hawsaf.

Mae angen i chi ystyried a oes unrhyw gyfyngiad ar bwerau’r ymddiriedolwyr yn rhinwedd adran 8 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr. At ddibenion yr adran honno, mae rheolau’r cymdeithasiad yn debygol o gael eu gweld fel y gwarediad sy’n creu’r ymddiried. Os ydynt yn cynnwys cyfyngiad o’r fath, rhaid i chi wneud cais am gyfyngiad Ffurf B, fel yr eglurwyd yn Y cyfyngiad Ffurf B: lle bo pwerau ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol yn gyfyngedig.

Nid oes angen i chi anfon copi o reolau’r cymdeithasiad atom.

8.8 Eiddo partneriaeth

Mewn rhai achosion, lle bo ystad gofrestredig yn eiddo partneriaeth, gallwch wneud cais am gyfyngiad yn atal cofrestru gwarediad ar ôl marwolaeth unrhyw un o’r perchnogion heb gydsyniad cynrychiolwyr personol yr ymadawedig. Y cyfyngiad priodol yw Ffurf Q (yn Atodlen 4 i Reolau Cofrestru Tir 2003). Bydd angen cyfyngiad Ffurf A hefyd.

Fodd bynnag, os yw cytundeb y bartneriaeth yn benodol yn gofyn cael cydsyniad o’r fath, rhaid i’r ymddiriedolwyr wneud cais am gyfyngiad Ffurf B (Adran 8(2) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr a rheol 94(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

8.9 Cronfeydd pensiwn

Yn aml, bydd portffolios cronfeydd pensiwn yn cynnwys ystadau cofrestredig. Byddant yn gyffredinol yn breinio yn yr ymddiriedolwyr rheoli, neu mewn ymddiriedolwr gwarchod (weithiau gydag eraill) ar ymddiried i’r ymddiriedolwyr rheoli. Weithiau bydd ymddiriedolwr corfforaethol yn chwarae rhan yr ymddiriedolwyr rheoli. Dylid cynnwys cais am gyfyngiad Ffurf B, os oes angen un, gydag unrhyw gais i gofrestru’r ymddiriedolwyr fel perchnogion ystad gofrestredig. Bydd angen cyfyngiad Ffurf A hefyd ac, os yw’n angenrheidiol, dylid gwneud cais am un – gweler Ffurf A: y cyfyngiad cydberchnogaeth. Fodd bynnag, os yw’r cynllun pensiwn yn ymddiried cyhoeddus, yn hytrach na phreifat, dylech ddweud hynny yn y cais. Yn yr achos hwnnw, rhaid i chi ddarparu copi o’r weithred ymddiried (rheol 182(1) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Os yw pwerau’r ymddiriedolwyr yn gyfyngedig, dylech wneud cais am gyfyngiad priodol, er enghraifft, Ffurf B.

8.10 Torri cyd-denantiaeth ecwitïol

Os torrwyd cyd-denantiaeth ecwitïol, rhaid i berchennog wneud cais ar ffurflen RX1 am gyfyngiad Ffurf A (rheol 94(1)(b) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Ar gyfer ceisiadau syml o hollti trwy gytundeb neu rybudd, mae’n symlach i ddefnyddio ffurflen SEV.

Lle bo’r cais yn cael ei wneud gan, neu gyda chydsyniad, yr holl berchnogion, nid oes unrhyw anhawster. Lle bo modd, dylech geisio cael cydsyniad yr holl berchnogion. Fodd bynnag, mewn llawer achos caiff y gyd-denantiaeth ei thorri trwy rybudd fel gweithred unochrog un o’r perchnogion, fydd yn gwneud y cais ar ei ben ei hun, heb gydsyniad y lleill. O dan yr amgylchiadau hyn, byddwn yn ei drin fel wedi ei wneud o dan adran 43(1)(c) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Dylid cwblhau panel 12 neu 13 ffurflen RX1 gyda manylion y toriad. Dylid anfon un o’r canlynol gyda chais wedi ei gyflwyno gan drawsgludwr:

  • tystysgrif yn nodi bod ganddynt y gwreiddiol neu gopi ardystiedig o rybudd y toriad, wedi ei lofnodi gan y perchnogion eraill i gydnabod ei dderbyn (mae’r dystysgrif hon yn ymddangos ym mhanel 7 ffurflen SEV)
  • tystysgrif yn nodi bod ganddynt y gwreiddiol neu gopi ardystiedig a’i fod wedi ei anfon at y perchennog/perchnogion cofrestredig yn unol ag adrannau 36(2) ac 196 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 (mae’r dystysgrif hon yn ymddangos ym mhanel 7 ffurflen SEV)

Bydd y cais yn un y bydd y ceisydd yn gorfod ei wneud o dan reol 94 o Reolau Cofrestru Tir 2003. O ganlyniad, ni fydd yn hysbysadwy o fewn ystyr adran 45 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002. Os yw mewn trefn, byddwn yn ei gwblhau heb anfon rhybudd i’r perchnogion eraill yn rhoi cyfle iddynt wrthwynebu. Fodd bynnag, byddwn yn anfon hysbysiad iddynt ar ôl cwblhau’r cais, yn dweud wrthynt am y newid i’r gofrestr. Bydd gan berchennog sy’n ystyried na fu toriad dilys a bod y gofrestr yn anghywir, felly, hawl i wneud cais i newid y gofrestr i gywiro’r camgymeriad (o dan baragraff 5(a) Atodlen 4 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002).

8.11 Trosglwyddo cyfran

Nid oes modd cofrestru gwarediad sy’n berthynol i fudd llesiannol yn unig ac nad yw’n newid perchnogion yr ystad gyfreithiol. Yn aml, fodd bynnag, bydd perchnogion yr ystad gyfreithiol yn cael eu newid ar yr un pryd.

Enghraifft gyffredin yw lle bydd un o ddau gydberchennog yn prynu cyfran y llall. Yn fanwl gywir, mae modd gweld hyn fel dau drafodiad. Yn y cyntaf, mae perchennog A yn gwerthu eu budd llesiannol i berchennog B. Yn yr ail, bydd A a B, fel ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol, yn trosglwyddo’r ystad gyfreithiol i B sydd, erbyn hyn, â budd cyfan gwbl a llesiannol ynddi. Gallwch wneud hyn trwy offerynnau ar wahân os dymunwch, a dim ond yr olaf fydd angen ei gofrestru.

Fodd bynnag, bydd yn haws defnyddio dogfen unigol fel arfer ar gyfer dwy agwedd y trafodiad. Dylech ddefnyddio ffurflen TR1 (neu ffurflen TR5 neu ffurflen TP1, os yw’n briodol). Rhaid dangos A a B fel trosglwyddwyr, a B fel trosglwyddai, gan mai trosglwyddo’r ystad gyfreithiol sy’n rhaid ei gofrestru. Yn y panel cydnabyddiaeth, gallwch ddefnyddio’r ail ddewis i gofnodi derbynneb addas, er enghraifft: “Derbyniodd yr ail drosglwyddwr oddi wrth y trosglwyddai am eu hanner cyfran yn yr eiddo £X”. Ar y ffurflen AP1 gysylltiedig, dylech ddisgrifio’r trafodiad fel ‘Trosglwyddo cyfran’.

Os oes cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr, ac nad oes ei angen mwyach, rhaid i chi gofio gwneud cais i’w ddileu gan ddefnyddio ffurflen RX3. Ni fydd yn cael ei ddileu ohono’i hun. Gweler Dileu a thynnu cyfyngiadau’n ôl.

8.12 Corfforaethau ymddiried

Pan fydd corfforaeth ymddiried yn gwneud cais i’w chofrestru fel unig berchennog ystad, sy’n cael ei dal ganddi ar ymddiried, rhaid iddi wneud cais am gyfyngiad Ffurf A (nid yw rheol 94(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003 yn eithrio corfforaethau ymddiried). Er y bydd yn gallu rhoi derbynneb ddilys am arian cyfalaf sy’n deillio ar warediad, mae angen y cyfyngiad rhag ofn bod y perchennog yn peidio â bod yn gorfforaeth ymddiried ar unrhyw adeg, neu yn cael ei ddisodli gan ymddiriedolwr arall.

Lle bo corfforaeth ymddiried, a gofrestrwyd fel unig berchennog gyda chyfyngiad Ffurf A, yn mynd i warediad lle bydd arian cyfalaf yn deillio, efallai bydd yn rhaid bodloni’r cofrestrydd ei bod yn gorfforaeth ymddiried. Yn y fath achos, dylai fod llythyr gyda’r cais oddi wrth ei thrawsgludwr yn cadarnhau ei bod yn gorfforaeth ymddiried.

9. Pethau i’w cofio

Gwnewch yn siwr:

  • eich bod wedi cwblhau’r panel datganiad ymddiried yn y trosglwyddiad neu gydsyniad, neu wedi llenwi ffurflen JO
  • os ydych yn gwneud cais am gofrestriad cyntaf, eich bod wedi cwblhau’r panel datganiad ymddiried ar ffurflen FR1, neu wedi llenwi ffurflen JO
  • os ydych yn gwneud cais am feddiant gwrthgefn tir cofrestredig a cheir cydberchnogion, eich bod wedi cwblhau’r panel datganiad o ymddiried ar ffurflen ADV1 neu wedi llenwi ffurflen JO
  • os ydych yn gwneud cais i gofrestru prydles allan o ystad gofrestredig, eich bod wedi cwblhau’r datganiad ymddiried yng nghymal LR14 y cymalau penodedig yn y brydles, neu wedi cynnwys datganiad ymddiried yn y brydles os nad yw’n cynnwys y cymalau penodedig, neu wedi llenwi ffurflen JO
  • os oes angen i chi wneud cais am gyfyngiad Ffurf A, eich bod wedi gwneud cais amdano naill ai yn y trosglwyddiad, yng nghymal LR13 y cymalau penodedig yn y brydles, yn y cydsyniad neu ar ffurflen RX1
  • nad oes unrhyw gyfyngiadau ar bwerau’r ymddiriedolwyr sydd angen eu hadlewyrchu gan gyfyngiad (os oes, gwnewch yn siwr eich bod gwneud cais am y cyfyngiad)
  • eich bod yn gwneud cais am gyfyngiad safonol Ffurf RR neu SS, os yw’n briodol
  • eich bod wedi gwneud cais am unrhyw gyfyngiadau eraill sydd eu hangen arnoch
  • eich bod wedi cydymffurfio ag unrhyw gyfyngiadau presennol yn y gofrestr
  • eich bod wedi edrych i weld a oes angen gwneud cais i ddileu cyfyngiad (os felly, gwnewch yn siwr eich bod wedi llenwi ffurflen RX3 ac wedi amgáu’r dystiolaeth angenrheidiol)
  • eich bod wedi darparu cyfeiriad gohebu ar gyfer y perchnogion newydd i’w gofnodi yn y gofrestr
  • bod enwau a chyfeiriadau’r ymddiriedolwyr yn gyfoes
  • os ydych yn cofrestru ymddiriedolwyr newydd, eich bod wedi cwblhau unrhyw drosglwyddiad yn gywir, ac ydych chi wedi gwneud cais i gofrestru’r holl ymddiriedolwyr newydd a’r rhai sy’n aros

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.