Skip to main content
Canllawiau

Cofrestriadau cyntaf (CY1)

Cyfarwyddyd i drawsgludwyr ar sut i gofrestru ystadau mewn tir digofrestredig am y tro cyntaf (cyfarwyddyd ymarfer 1).

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Manylion

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn trafod y drefn i’w dilyn wrth wneud cais am gofrestriad cyntaf ystadau mewn tir digofrestredig. Nid yw’n delio ag effeithiau cofrestru na nodweddion amrywiol ddosbarthiadau teitl sydd ar gael ar gyfer cofrestru tir.

Ni all trawsgludwyr bellach gyflwyno copïau ardystiedig o weithredoedd a dogfennau yn lle’r rhai gwreiddiol. Gweler adran 4.4.4.1 am fanylion llawn.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.

Dychwelyd dogfennau a gweithredoedd gwreiddiol

Mae Cofrestrfa Tir EF yn sganio dogfennau a gweithredoedd gwreiddiol pan fo hyn yn bosibl. Lle cânt eu sganio, byddwn yn eu dychwelyd cyn inni gwblhau’r cais. Mewn rhai achosion prin, efallai byddwn yn gofyn ichi anfon y gweithredoedd a dogfennau gwreiddiol yn ôl atom at ddibenion sicrhau ansawdd.

​Pan fyddwn yn cwblhau’r cais, byddwn yn anfon copi swyddogol o’r cynllun teitl a’r gofrestr trwy’r porthol lle bynnag y bo modd. Os nad ydych yn defnyddio’r porthol, cewch y cynllun teitl a’r gofrestr trwy’r post.

Adborth ar gyfer dychwelyd dogfennau gwreiddiol

Llenwch ein ffurflen adborth i roi eich barn inni ar ddychwelyd dogfennau a gweithredoedd gwreiddiol a gyflwynir gyda cheisiadau am gofrestriad cyntaf.

Gweminarau

Gallwch ymuno â’n gweminarau di-dâl i gael cyngor ar ystod o bynciau cofrestru tir a sut i baratoi ceisiadau o safon.

Argraffu'r dudalen hon