Amdanom ni
- English
- Cymraeg
Mae'r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gyfrifol am bolisi lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Fel yr adran wasanaeth cyhoeddus mwyaf y DU mae’n gweinyddu Pensiwn y Wladwriaeth ac ystod o fudd-daliadau oedran gweithio, anabledd a salwch i dros 22 miliwn o hawlwyr a chwsmeriaid.
Cyfrifoldebau
Rydym yn gyfrifol am:
- deall a delio ag achosion tlodi yn hytrach na ei symptomau
- annog pobl i weithio a gwneud i waith dalu
- annog pobl anabl a’r rhai gydag iechyd gwael i weithio ac i fod yn annibynnol
- darparu incwm gweddus i bobl o oed pensiwn a hyrwyddo cynilo ar gyfer ymddeol
- darparu gwerth am arian a lleihau lefelau o dwyll a chamgymeriadau
- lleihau marwolaethau sy’n gysylltiedig â gwaith ac anafiadau difrifol mewn gweithleoedd trwy’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
Blaenoriaethau
Ein blaenoriaethau yw:
- rhedeg system lles effeithiol sy’n galluogi pobl i gyflawni annibyniaeth ariannol drwy ddarparu cymorth ac arweiniad i gyflogaeth
- cynyddu cynilo ar gyfer, a diogelwch, yn hwyrach mewn bywyd
- creu system les deg a fforddiadwy sy’n gwella cyfleoedd bywyd plant
- darparu gwasanaethau rhagorol i’n cwsmeriaid a hawlwyr
- Cyflwyno’n Effeithlon: Trawsnewid y ffordd rydym yn darparu ein gwasanaethau i leihau costau a chynyddu effeithlonrwydd
Darllenwch ein Cynllun Adrannol Sengl i gael gwybod mwy am sut rydym yn perfformio yn erbyn ein hamcanion.
Pwy ydym ni
Rydym yn darparu ein gwasanaethau mewn nifer o ffyrdd, er enghraifft trwy’r Ganolfan Byd Gwaith, y Gwasanaeth Pensiwn, y Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant a sefydliadau partner.
Darllenwch am ein safonau gwasanaeth.
Budd-daliadau gofalwyr ac anabledd
Rydym yn delio â budd-daliadau gofalwyr ac anabledd, gan gynnwys:
Canolfan Byd Gwaith
Mae’r Ganolfan Byd Gwaith yn helpu pobl i symud o fudd-daliadau i mewn i waith ac yn helpu cyflogwyr i hysbysebu swyddi. Mae hefyd yn delio â budd-daliadau ar gyfer pobl sy’n ddi-waith neu’n methu gweithio oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd.
Y Gwasanaeth Pensiwn
Mae’r Gwasanaeth Pensiwn yn darparu pensiynau, budd-daliadau a gwybodaeth ymddeol ar gyfer pensiynwyr cyfredol a phensiynwyr y dyfodol yn y DU a thramor. Mae hyn yn cynnwys:
Asiantaeth Cynnal Plant ar Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant
Mae cynhaliaeth plant yn gymorth ariannol sy’n helpu tuag at gostau byw bob dydd plentyn pan fydd y rhieni wedi gwahanu. Ar gyfer pobl na allant wneud cytundeb teuluol eu hunain, mae’r Asiantaeth Cynnal Plant a’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant yn:
- cyfrifo faint o gynhaliaeth a ddylai’r rhiant sy’n talu cynhaliaeth ei dalu i’r rhiant sy’n cael cynhaliaeth
- casglu’r taliadau cynhaliaeth, os bydd angen
Opsiynau Cynhaliaeth Plant
Mae ein gwasanaeth Opsiynau Cynhaliaeth Plant yn darparu gwybodaeth a chefnogaeth di-duedd i helpu’r ddau riant i wneud dewisiadau gwybodus am gynhaliaeth plant. Gall hefyd eu helpu i sefydlu eu trefniadau yn seiliedig ar deulu eu hunain.
Gwybodaeth gorfforaethol
Cael gweld ein gwybodaeth
- Ein defnydd o egni
- Ymholiadau'r cyfryngau
- Ymchwil yn DWP
- Ystadegau yn DWP
- Cydraddoldeb ac amrywiaeth
- Trefn gwyno
- Adroddiadau corfforaethol
- Data tryloywder
Swyddi a chontractau
Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydym yn eu cyhoeddi'n rheolaidd yn ein Cynllun cyhoeddi. Dysgwch am ein hymrwymiad i Cynllun iaith Gymraeg. Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol yn egluro sut rydym yn trin eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Defnydd o gyfryngau cymdeithasol