Ymchwil yn DWP
- English
- Cymraeg
Mae ein gweithgarwch ymchwil a dadansoddi yn cefnogi ein polisïau a'n gwasanaethau.
Rydym yn casglu ac yn dehongli gwybodaeth ar y wybodaeth, ymddygiad, barn a chanfyddiadau sefydliadau partner a defnyddwyr gwasanaeth. Rydym hefyd yn dadansoddi data i ddeall tueddiadau a chynhyrchu rhagolygon gwariant budd-daliadau a llwythi achosion. Rydym yn defnyddio arbenigedd mewnol ac ymchwil a gomisiynwyd i gwrdd ag anghenion yr adran.
Cyhoeddiadau ymchwil a dadansoddi
Mae ein holl gyhoeddiadau ymchwil a dadansoddi o 2010 ar gael o fewn Cyhoeddiadau: Ymchwil a dadansoddi. Gallwch ychwanegu allweddeiriau a hidlwyr eraill i fireinio’r canlyniadau chwilio.
Mae ein cyhoeddiadau ymchwil hefyd yn cael eu rhestru yn y casgliadau hyn:
Rydym hefyd yn cyhoeddi ymchwil i gyfathrebu a dealltwriaeth cwsmeriaid.
Cyhoeddiadau ymchwil hŷn
Gallwch ddod o hyd i gyhoeddiadau ymchwil hŷn ar wefan The National Archives
Ymchwil sydd ar y gweill
Byddwn yn cyhoeddi manylion o waith ymchwil sydd ar y gweill yma.
Ar ddiwrnod y cyhoeddi, ewch i’r dudalen canlyniadau cyhoeddiadau ymchwil a dadansoddiad DWP am ddolenni i’r dogfennau hyn.
Cysylltiadau
| Ymholiadau | Cyswllt |
|---|---|
| Rhagolygu, tueddiadau a rhagamcaniadau | expenditure.tables@dwp.gsi.gov.uk |
| Tim ymchwil cymdeithasol | socialresearch@dwp.gsi.gov.uk |
Canllaw arddull adroddiadau ymchwil DWP
Dylai awduron sy’n cynhyrchu adroddiadau ymchwil ar gyfer yr adran ddarllen ein canllaw arddull adroddiadau ymchwil DWP.
Contractau ymchwil
Gallwch ddod o hyd i restr o unrhyw gontractau ymchwil presennol ar Contracts finder.
Rydym yn comisiynu ymchwil cymdeithasol ac economaidd o fframwaith o gyflenwyr cymeradwy. Mae fframwaith yn gytundeb gyda grŵp o gyflenwyr, sy’n gosod y telerau a’r amodau y gall pryniannau penodol gael eu gwneud. Mae pob cyflenwr ar y fframwaith wedi cael eu cymeradwyo i gyflenwi i DWP. Nid oes unrhyw ymrwymiad gan DWP ar faint o waith a fydd yn cael ei roi i gyflenwyr. Rydym yn hysbysebu yn y wasg genedlaethol a chyhoeddiadau masnach ar gyfer unrhyw ofynion sydd heb eu bodloni gan y fframwaith.
Am fwy o wybodaeth a chyngor am y fframwaith contract, e-bostiwch serviceops.research@ccs.gsi.gov.uk
Ein strategaeth ymchwil a dadansoddi
Mae ein strategaeth ymchwil a dadansoddi yn cwmpasu’r maesydd canlynol.
Datblygu polisi
Rydym yn darparu ymchwil a gwybodaeth i weinidogion ac uwch reolwyr i gefnogi gwaith yr adran.
Monitro a dadansoddi
Rydym yn monitro ac yn dadansoddi datblygiadau perthnasol mewn cymdeithas i asesu eu heffaith ar ein polisïau.
Rydym yn cynhyrchu rhagolygon gwariant budd-daliadau a llwyth achosion gan gymryd i ystyriaeth ffactorau demograffig, economaidd, cymdeithasol a pholisi.
Ymchwil strategol
Mae enghreifftiau o ymchwil strategol yn cynnwys ein astudiaethau hydredol. Mae astudiaeth hydredol yn cynnwys arsylwadau dro ar ôl tro o’r un newidynnau dros gyfnodau hir o amser - yn aml ers degawdau. Mae’r astudiaeth hydredol teuluoedd a phlant yn cwmpasu teuluoedd o oedran gweithio gyda phlant. Mae’r astudiaeth hydredol Saesneg o heneiddio yn darparu data ar oblygiadau o hanes y farchnad lafur ar gyfer amgylchiadau iechyd ac ariannol yn ddiweddarach mewn bywyd. Rydym hefyd yn cyfrannu at arolwg British Social Attitudes, General Household Survey ac hefyd yr Millennium Cohort Study.
Gwerthuso
Rydym yn gwerthuso rhaglenni a pholisïau – er enghraifft rhaglenni cyflogaeth a’r rhaglen Cronfa Gymdeithasol Ewropeaidd.
Cyngor arbenigol
Gallwn ddarparu cyngor arbenigol gan ein staff ein hunain neu gan arbenigwyr cenedlaethol a ariennir gan y gyllideb ymchwil.
Adolygiadau o dystiolaeth
Rydym yn darparu adolygiadau o dystiolaeth - adroddiadau manwl sy’n rhoi tystiolaeth i gefnogi polisïau, gwneud penderfyniadau a gwasanaethau.
Canllaw arfer da
Mae ein canllawiau arfer da gwaith ymchwil ar gyfer staff yn ein busnesau ac ar gyfer ein partneriaid.
Cysylltiadau gyda’r gymuned ymchwil
Mae’r adran yn cadw mewn cysylltiad ag ymchwilwyr eraill sy’n gweithio ar bensiynau, anabledd a chyflogaeth. Mae hefyd yn cynnal cysylltiadau agos â chyrff ariannu eraill, gan gynnwys y Joseph Rowntree Foundation a’r Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol sydd y ddau brif gyllidwyr eraill o ymchwil nawdd cymdeithasol.
Mae gan yr adran cysylltiadau gweithio da gyda’r sefydliadau ymchwil annibynnol pwysig a’r gymuned ymchwil academaidd. Mae ymchwilwyr DWP yn rhan o’r Gwasanaeth Ymchwil Gymdeithasol y Llywodraeth.
Ystadegau DWP
Rydym hefyd yn cyhoeddi ystadegau. Darllenwch fwy am Ystadegau yn DWP.