Trefn gwyno
- English
- Cymraeg
Sut i gwyno am y gwasanaeth a gewch gan yr Adran Gwaith a Phensiynau neu gan sefydliad sy'n darparu ei gwasanaethau.
Mae’r drefn gwyno yn berthnasol i:
- Canolfan Byd Gwaith
- Y Gwasanaeth Pensiwn
- Gwasanaeth Anabledd a Gofalwyr
- Rheoli Dyled yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae Cwynion Cynhaliaeth Plant yn dilyn gweithdrefn wahanol.
Gallwch gysylltu â ni am unrhyw agwedd or gwasanaeth rydych wedi’i gael, gan gynnwys:
- camgymeriadau a wnaed
- oedi afresymol
- sut rydych chi wedi cael eich trin
- ddim yn derbyn y wybodaeth ddiweddaraf
Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad a wnaethom, darllenwch Mae cwynion ac apeliadau yn wahanol isod.
Sut i gwyno
Os ydych yn credu ein bod wedi gwneud rhywbeth o’i le, gadewch y swyddfa rydych wedi bod yn delio â hwy wybod cyn gynted ag y bo modd. Byddwn yn gwneud ein gorau i wneud pethau’n iawn.
Gallwch gysylltu â ni dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu’n ysgrifenedig. Pan fyddwch yn cysylltu â ni, dywedwch wrthym:
- eich rhif Yswiriant Gwladol - oni bai eich bod yn gyflogwr
- eich enw llawn, cyfeiriad a rhifau cyswllt
- beth ddigwyddodd, pryd y digwyddodd a sut mae’n effeithio arnoch
- yr hyn rydych am ei weld yn digwydd i unioni pethau
Gallwch hefyd wneud cwyn ar-lein am Lwfans Ceisio Gwaith a Chredyd Cynhwysol.
Pwy i gysylltu â
Defnyddiwch y manylion cyswllt ar frig unrhyw lythyrau rydym wedi anfon atoch neu defnyddiwch y manylion Pwy i gysylltu â isod.
Beth sy’n digwydd nesaf
Os byddwn wedi gwneud camgymeriad, byddwn yn ei gywiro cyn gynted â phosibl ac yn ymddiheuro ar unwaith. Os ydych chi wedi profi triniaeth anheg neu wedi dioddef yn ariannol, efallai y byddwn yn ystyried gwneud taliad arbennig i chi.
Os nad ydych yn fodlon ar ein hymateb cychwynnol, neu mae angen i ni ymchwilio ymhellach, gallwch ofyn i’ch cwyn fynd i Reolwr Datrys Cwyn.
Byddant yn cysylltu â chi, fel arfer dros y ffôn, i siarad am eich cwyn a chytuno sut i ymchwilio iddo. Byddant yn cysylltu â chi eto o fewn 15 diwrnod gwaith i ddweud y canlyniad wrthych neu pryd y gallwch ddisgwyl ymateb, os bydd yn cymryd mwy o amser.
Os nad yw’r Rheolwr Datrys Cwyn yn datrys eich cwyn
Os nad yw’r Rheolwr Datrys Cwyn yn datrys eich cwyn, byddwn yn gofyn i chi os ydych am i’ch cwyn fynd i uwch reolwr. Os byddwch yn cytuno, bydd yr uwch reolwr yn gofyn am adolygiad mewnol annibynnol o’ch cwyn. Byddant yn cysylltu â chi eto o fewn 15 diwrnod gwaith i ddweud y canlyniad wrthych neu pryd y gallwch ddisgwyl ymateb, os bydd yn cymryd mwy o amser.
Os nad ydych yn fodlon
Os ydych wedi bod drwy ein holl gamau cwynion, ac wedi derbyn ein ymateb terfynol ac yn dal yn anfodlon, gallwch ofyn i’r Archwilydd Achosion Annibynnol i edrych ar eich cwyn. Mae’n rhaid i chi gysylltu â hwy o fewn 6 mis o gael ein hymateb terfynol ac anfon copi ohono iddynt.
Ni all yr Archwilydd Achosion Annibynnol edrych ar faterion cyfreithiol na pholisiau’r llywodraeth. Ni fyddant yn edrych ar benderfyniadau budd-dal neu gynhaliaeth, er enghraifft, oherwydd gallwch apelio yn erbyn y rhain.
Os ydynt yn derbyn eich cwyn, byddant yn edrych ar yr hyn a ddigwyddodd a beth a wnaethom am y peth. Os ydynt yn credu y dylem fod wedi gwneud mwy, byddant yn gofyn i ni unioni pethau. Byddant yn gweithredu fel canolwr diduedd ac ni fyddwch yn gorfod talu am eu gwasanaeth.
Os na fyddwch yn cytuno gyda’r ymateb gan yr Archwilydd Achosion Annibynnol, gallwch ofyn i’ch AS (neu unrhyw AS arall) i anfon eich cwyn at yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Safonau gwasanaeth
Darllenwch ein safonau gwasanaeth a siarter cwsmer.
Mae cwynion ac apeliadau yn wahanol
Ni allwn drin cwyn fel apêl yn erbyn penderfyniad budd-dal, penderfyniad gordalu, asesiad cynhaliaeth plant na sancsiwn.
Os credwch fod y penderfyniad yn anghywir, gallwch ofyn i ni ei esbonio i chi. Byddwn yn anfon datganiad ysgrifenedig i chi o resymau, os ydych yn gofyn am un. Os byddwch yn deall y penderfyniad ond dal ddim yn cytuno ag ef, gallwch ofyn i ni edrych arno eto - gelwir hyn yn ‘ailystyriaeth gorfodol’. Mae’n rhaid i chi egluro pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir a cynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych i gefnogi hyn.
Ar gyfer rhai penderfyniadau, efallai y byddwch yn gallu apelio i dribiwnlys annibynnol, sy’n gallu newid y penderfyniad os yw’n cytuno ei fod yn anghywir.
Mae terfynau amser ar gyfer gofyn i ni edrych ar benderfyniad eto ac ar gyfer apelio.
Ceir rhagor o wybodaeth am apeliadau a therfynau amser yn ein canllaw apêl.
Cwyno am sefydliad sy’n darparu gwasanaeth ar gyfer yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae sefydliadau eraill weithiau’n darparu gwasanaethau i’r Adran Gwaith a Phensiynau, er enghraifft darparwyr Rhaglen Waith. Os nad ydych yn fodlon ar y gwasanaeth a gawsoch gan sefydliad fel hwn, gallwch gwyno wrthynt yn gyntaf a rhoi cyfle iddynt unioni’r mater. Os nad ydych yn cytuno â’u hymateb, mae’n rhaid iddynt ddweud wrthych sut y gallwch fynd â’ch cwyn ymhellach.
Os ydych yn dal yn anfodlon gyda’u hymateb terfynol i’ch cwyn, gallwch ofyn i’r Archwilydd Achosion Annibynnol i ymchwilio.
Pwy i gysylltu â
Defnyddiwch y manylion cyswllt ar frig unrhyw lythyrau rydym wedi anfon i chi neu’r manylion isod.
Mae ein gwasanaethau ar gael o ddydd Llun i Gwener, 8am i 6pm, oni nodir yn wahanol.
Cael gwybod am gostau galwadau.
| Canolfan Byd Gwaith | Ffôn | Ffôn testun | Saesneg |
|---|---|---|---|
| Dod o hyd i’ch swyddfa Canolfan Byd Gwaith agosaf | 0345 604 4248 | 0345 608 8551 | 0345 604 3719 |
| Y Gwasanaeth Pensiwn | Ffôn | Ffôn testun | Saesneg |
|---|---|---|---|
| Dod o hyd i’ch Canolfan Pensiwn Lleol. Os ydych dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Ryngwladol |
0345 606 0275 | 0345 606 0295 | 0345 606 0265 |
| Budd-dal | Ffôn | Ffôn testun | Saesneg |
|---|---|---|---|
| Lwfans Ceisio Gwaith, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth |
0345 600 3018 | 0345 608 8551 | 0345 608 8545 |
| Lwfans Mamolaeth | 0345 608 8674 | 0345 608 8553 | 0345 608 8610 |
| Profedigaeth | 0345 608 8772 | 0345 608 8551 | 0345 608 8601 |
| Y Gronfa Gymdeithasol | 0345 608 8756 | 0345 608 8553 | 0345 603 6967 |
| Lwfans Byw i’r Anabl | 0345 606 0265 | 0345 722 4433 | 0345 712 3456 |
| Taliad Annibyniaeth Personol | 0345 600 0723 | 0345 601 6677 | 0345 850 3322 |
| Credyd Cynhwysol | 0345 600 3018 | 0345 600 0743 | 0345 600 0723 |
| Pensiwn y Wladwriaeth Os ydych chi dramor, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Ryngwladol |
0345 606 0275 | 0345 722 4433 | 0345 606 0265 |
| Lwfans Gofalwr Dydd Llun i ddydd Iau 8.30am i 5pm a dydd Gwener, 8.30 i 4.30pm |
0345 604 5312 | 0345 608 4321 | |
| Lwfans Gweini | 0345 604 5312 | 0345 605 6055 | |
| Taliadau Niwed drwy Frechiad | 01772 899 944 |
| Rheoli Dyled | Ffôn | Ffôn testun | Saesneg |
|---|---|---|---|
| Gwasanaethau Rheoli Dyled | 0345 604 6697 | 0345 850 0293 |
Cwynion Mynediad at Waith
Rhif ffôn: 0345 26 88489
Ffôn testun: 0345 608 8753
Cwynion Cynhaliaeth plant
Cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynhaliaeth Plant neu’r Asiantaeth Cynnal Plant.
Cwynion am yr adran
Os oes gennych gŵyn am yr Adran Gwaith a Phensiynau ei hun, ysgrifennwch at:
Department for Work and Pensions
PO Box 50101
London
SW1P 2WU