Yn gweithio i DWP
- English
- Cymraeg
Gwybodaeth am wneud cais ar gyfer swyddi gyda a gweithio i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).
Mae DWP yn gweithredu ar raddfa sydd bron heb ei ail unrhyw le arall yn Ewrop ac mae’r rhan fwyaf o bobl ym Mhrydain yn cael cysylltiad â ni ar ryw bwynt yn eu bywydau. Rydym yn cynnig:
- ystod eang o yrfaoedd diddorol a gwobredig
- cyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl
- pecyn buddion gweithwyr ardderchog
Rydym yn arwain ar bolisïau’r llywodraeth ar gyfer lles, pensiynau a chynhaliaeth plant. Rydym yn helpu pobl i ddod o hyd i swyddi a chyflogwyr i lenwi swyddi gwag. Rydym yn gwneud taliadau i geiswyr gwaith, pensiynwyr, pobl anabl, rhieni a gofalwyr. Mae ein staff yn gwneud y newidiadau mwyaf i’r system les mewn cenhedlaeth, gan gynnwys cyflwyno Credyd Cynhwysol a’r Pensiwn y Wladwriaeth newydd.
Swyddi
Rydym yn hysbysebu pob swydd ar wefan Civil Service jobs. Mae ffyrdd eraill o ymuno â gwasanaeth sifil yn cynnwys:
Cydraddoldeb ac amrywioldeb
Mae DWP yn darparu gwasnaethau sy’n croesawu amrywioldeb ac sy’n hybu cydraddoldeb cyfleoedd.
Rydym yn cynnig cynllun cyfweliad gwarantedig i ymgeiswyr anabl sy’n cwrdd â’n isafswm meini prawf.
Ni fyddwn yn goddef gwahaniaethu ar sail rhyw, statws priodasol, cyfeiriadedd rhywiol, hil, lliw, cenedligrwydd, crefydd, oedran, anabledd, statws HIV, patrwm gwaith, cyfrifoldebau gofalu, gweithgaredd undeb llafur, credoau gwleidyddol neu ar sail unrhyw beth arall.
Beth gall DWP ei gynnig i chi
Cyflog
Rydym yn darparu:
- cyflog cystadleuol sy’n cael ei adolygu’n flynyddol
- cyfle i ennill gwobr perfformiad diwedd y flwyddyn
- pensiwn galwedigaethol pan fyddwch yn ymuno â DWP
Buddion a gwobrau i weithwyr
Mae buddion a gwobrau i weithwyr yn cynnwys:
- mynediad i gynllun disgownt gweithwyr DWP
- talebau gofal plant
- mynediad i raglen cymorth i weithwyr sy’n darparu cyngor, gwybodaeth a chwnsela cyfrinachol
- y dewis i ymuno ag undeb lafur
- cynllun gwobrwyo un-tro yn ystod y flwyddyn ar gyfer cyflawniadau eithriadol personol neu gan dîm
- cyfnod salwch ar gyflog llawn, wedi’i dilyn gan hanner cyflog, hyd at yr uchafswm a ganiateir gan y cynllun perthnasol
Hyblygrwydd
Mae hyblygrwyddiadau’n cynnwys:
- hyd at 30 diwrnod o wyliau a 9 diwrnod o wyliau cyhoeddus a breintiedig mewn blwyddyn (pro rata ar gyfer staff rhan amser)
- gwyliau mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu a bod yn rhiant o hyd at 26 wythnos gyda chyflog llawn wedi’i ddilyn gan gyflog statudol am 13 wythnos a 13 wythnos pellach heb gyflog
- amser i ffwrdd i ddelio ag argyfyngau, amgylchiadau annisgwyl ac amgylchiadau penodol arbennig eraill sydd heb eu cynllunio
- amser i ffwrdd wedi’i dalu ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, os ydych yn aelod o’r fyddin wrth gefn er enghraifft
- polisïau sy’n gyfeillgar i deuluoedd gan gynnwys patrymau gweithio’n hyblyg
- patrymau gweithio’n hyblyg, yn dibynnu ar anghenion y busnes
Cyfleoedd gyrfa a datblygu
Rydym yn cynnig:
- gwaith gwobrwyol a heriol i’ch helpu i ddatblygu a chyrraedd eich potensial
- ystod cynhwysfawr o gyfleoedd dysgu a datblygu er mwyn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad
Beth rydym yn ei ddisgwyl gennych chi
Rydym yn credu bod DWP yn cynnig cyfleoedd ardderchog a gwobrau hael. Yn gyfnewid, mae gennych gyfrifoldeb i:
- cyfrannu at agenda’r adran, cymryd cyfrifoldeb personol am y cyfraniad hwnnw a dangos ymrywmiad ac ymdrech yn y gwaith rydych yn ei wneud
- ymrywmo i wella eich perfformiad trwy gydol eich gyrfa yn DWP
- sicrhau eich bod yn deall, derbyn a chydymffurfio â pholisïau a gweithdrefnau’r Adran
- cydymffurfio â chod y Gwasanaeth Sifil
- bod yn hyblyg – er engrhaifft drwy newid eich patrwm gwaith os oes angen hynny ar y busnes
- trin cydweithwyr a chwsmeriaid gyda pharch ac fel yr hoffech gael eich trin
- mynychu gwaith ar amser a chadw mewn cysylltiad os nad ydych yn gallu gweithio
- cadw i fyny gyda datblygiadau, newidiadau a gwybodaeth
- bod yn ymrywmedig i wella gwasanaeth cwsmeriaid
- parchu natur cyfrinachol y wybodaeth rydych yn ei gael fel rhan o’ch swydd
Sut rydym yn recriwtio
Bydd proses arferol o wneud cais yn cynnwys y camau canlynol.
1. Cwblhau ffurflen gais ar-lein
Mae ein proses dethol yn seiliedig ar allouedd. Mae rhain yn sgiliau a phrofiadau gallech fod wedi eu hennill mewn unrhyw ran o’ch bywyd, fel yn y gwaith, cartref, ysgol, gweithgareddau hamdden neu waith gwirfoddol. Bydd y rhan fwyaf o geisiadau yn gofyn i chi roi enghreifftiau o sut rydych yn teimlo eich bod wedi cwrdd ag ac arddangos y galluoedd hyn. Byddwn yn rhoi gwybod i chi beth yw’r galluoedd hyn fel y gallwch ddeall sut i’w cymhwyso a beth y maent yn eu golygu. Gallwch ddarllen mwy am ysgrifennu datganiadau galluoedd ar gyfer gwneud cais am swydd yn ein canllawiau.
Guidance on writing competency statements for a job application
PDF, 42.3KB, 8 pages
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol Gwneud cais am fformat gwahanol.
I ofyn am y ddogfen hon mewn fformat arall, fel braille, sain neu fath arall o ffeil anfonwch e-bost at accessible.formats@dwp.gsi.gov.uk gan roi eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a theitl y cyhoeddiad ("Guidance on writing competency statements for a job application").
2. Cwblhau prawf ar-lein
Os ydym wedi penderfynu i ddefnyddio ein prawf ar-lein yn yr ymarfer, byddwn yn eich gwahodd i wneud y prawf unwaith rydym yn cael eich ffurflen gais. Bydd yr hysbyseb swydd yn dweud wrthych am ba mor hir bydd y prawf ar gael. Gallwch gymryd y prawf ar unrhyw adeg o unrhyw ddyfais rhyngrwyd-alluog rhwng y dyddiadau yr amlinellir yn yr hysbyseb.
Yn ystod y prawf byddwch yn adolygu ystod o sefyllfaoedd a chwestiynau gydag atebion aml-ddewis. Byddwch yn dewis beth rydych yn credu yw’r ateb gorau ar gyfer bob sefyllfa. Nid oes unrhyw atebion anghywir ond mae rhai yn fwy addas na rhai eraill. Bydd cyfle gennych i weld cwestiynau engrheifftiol cyn dechrau’r prawf. Unwaith y byddwch wedi dechrau’r prawf, rhaid ei gwblhau mewn un tro.
3. Mynychu cyfweliad
Os ydych yn llwyddiannus yn y cam prawf, byddwn yn asesu a gwerthuso eich ffurflen gais i benderfynu os ydym am eich gwahodd am gyfweliad.
Gallech gael mwy o wybodaeth am baratoi am y cyfweliad yn ein canllawiau.
Preparation for interview for external applicants
PDF, 44.4KB, 2 pages
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol Gwneud cais am fformat gwahanol.
I ofyn am y ddogfen hon mewn fformat arall, fel braille, sain neu fath arall o ffeil anfonwch e-bost at accessible.formats@dwp.gsi.gov.uk gan roi eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a theitl y cyhoeddiad ("Preparation for interview for external applicants").
Rhaid i ni aros i bob ymgeisydd fynd trwy’r proses lawn cyn cynnig unrhyw swyddi. Rydym yn anelu at gwblhau’r ymarferion recriwtio o fewn 12 wythnos i’r hysbyseb swydd.
4. Gwriadau cyn penodi
Os ydych yn llwyddiannus gyda’ch cais, byddwn yn ymgymryd â gwiriadau penodol cyn y gallwch ddechrau gweithio. Fel pob cyflogwr, mae DWP yn gorfod sicrhau bod eu gweithwyr yn addas i weithio yn ein sefydliad a bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig.
Mae’n rhaid i ni wirio eich hunaniaeth, oedran, cenedligrwydd, cofnod gweithio, cymeriad a’ch hawl i weithio. Byddwn yn gofyn am ddogfennau penodol er mwyn ein helpu i wneud hyn.
Byddwn yn ysgrifennu atoch a gofyn i chi gwblhau ‘ffurflen datganiad cymeriad a chofnod troseddol’ er mwyn ein helpu i wneud y gwiriadau hyn. Bydd angen i chi arbed y ffurflen hon ar eich cyfrifiadur cyn i chi ddechrau ei chwblhau.
Character and criminal record declaration form
RTF, 283KB
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol Gwneud cais am fformat gwahanol.
I ofyn am y ddogfen hon mewn fformat arall, fel braille, sain neu fath arall o ffeil anfonwch e-bost at accessible.formats@dwp.gsi.gov.uk gan roi eich cyfeiriad, eich rhif ffôn a theitl y cyhoeddiad ("Character and criminal record declaration form").
Efallai y byddwn hefyd yn gwirio’r wybodaeth a roddwd gennych gyda gwybodaeth sydd ar ein systemau. Er mwyn ein galluogi i wneud hyn efallai byddwn yn gofyn i chi gwblhau ffurflen caniatâd.
Gall gymryd hyd at 20 diwrnod i gwblhau’r gwiriadau hyn.
Cyfnod prawf
Os ydych yn ymuno â DWP ar benodiad parhaol neu amser penodol, byddwch angen cyflawni cyfnod prawf o 6 mis y gallwn ei estynnu am 3 mis ychwanegol.
Rydym fel arfer yn disgwyl i weithwyr newydd ar gyfer swydd parhaol i aros yn y swydd honno am 2 flynedd cyn gwneud cais am swydd arall ar ddyrchafiad neu drosglwyddiad i swydd ar yr un gradd.
Cwynion
Mae ein proses recriwtio yn dilyn yr egwyddor o ddetholiad wedi ei seilio ar deilyngdod yn seiliedig ar gystadleuaeth agored fel yr amlinellir yn Egwyddorion Recriwtio Comisiwn y Gwasanaeth Sifil.
Os ydych yn teimlo nad yw eich cais wedi ei drin yn unol â’r egwyddorion hyn ac eisiau cwyno, yn gyntaf dylech gysylltu â’r person sy’n gyfrifol am yr ymarfer recriwtio o fewn DWP.
Os nad ydych yn fodlon gyda’r ymateb a gewch gan DWP, gallwch gysylltu â’r Comisiwn Gwasanaeth Sifil.
