Defnydd o'r cyfryngau cymdeithasol

Canllaw a gwybodaeth gymedroldeb ar gyfer sianeli cyfryngau cymdeithasol DWP, gan gynnwys canllawiau penodol ar gyfer Twitter, YouTube a Facebook.


Polisi cymedroldeb cyfryngau cymdeithasol

Rydym yn annog a chroesawu trafodaeth agored a bywiog sydd yn gwrtais a pherthnasol. Ni fyddwn yn atal trafodaeth gyfreithlon o faterion perthnasol.

Rydym hefyd am sicrhau diogelwch pobl ar-lein, felly rydym wedi darparu’r canllawiau canlynol.

Dylech:

  • parchu sylwadau ac unigolion eraill – ni ddylai sylwadau fod o natur faleisus neu sarhaus, ac ni ddylent fod yn ymosodiad personol ar gymeriad person
  • bod yn eithaf cryno, a pheidio â sbamio’r sianel
  • defnyddio’r Gymraeg neu Saesneg, yn anffodus ni allwn gymedroli sylwadau mewn ieithoedd eraill
  • cadwch at y pwnc

Ni ddylech:

  • datgelu manylion personol, fel rhifau Yswiriant Gwladol, cyfeiriadau personol, rhifau ffôn, cyfeiriadau e-bost neu unrhyw fanylion cyswllt ar-lein eraill
  • defnyddio’r sianeli hyn i drafod neu roi sylwadau ar ymholiadau budd-dal unigol
  • torri’r gyfraith (mae hyn yn cynnwys enllibio), cefnogi gweithgaredd anghyfreithlon neu dorri hawlfraint
  • rhegi, gwneud sylwadau maleisus neu sarhaus
  • annog casineb ar sail hil, crefydd, rhyw, cenedligrwydd, rhywioldeb neu nodweddion personol eraill
  • hysbysebu cynhyrchion a gwasanaethau masnachol, gallwch sôn am gynhyrchion perthnasol cyhyd â’u bod yn cefnogi eich sylwadau
  • dynwared neu honni eich bod yn cynrychioli person neu sefydliad
  • postio negeseuon nad ydynt yn berthnasol i’r pwnc gwreiddiol a bostiwyd
  • gwneud sylwadau sydd o natur pleidiol wleidyddol

Rydym yn cadw’r hawl i ddileu unrhyw sylwadau ar unrhyw adeg ar gyfer unrhyw rai o’r uchod.

Rydym yn cadw’r hawl i atal defnyddwyr rhag postio sylwadau pellach os ydynt yn torri’r polisi cymedroldeb yn gyson neu’n ddifrifol.

Ni allwn dderbyn unrhyw negeseuon trwy’r sianelu hyn fel hysbysiad o unrhyw newid mewn amgylchiadau a allai effeithio ar gais am fudd-dal.

Ni allwn drafod unrhyw faterion pleidiol wleidyddol.

Os byddwn yn rhannu gwybodaeth o wefannau a ffynnonellau eraill, nid yw’n awgrymu unrhyw fath o gymeradwyaeth.

Cyfrifon swyddogol Twitter DWP

Rydym wedi cyhoeddi rhestr o gyfrifon Twitter swyddogol DWP.

@DWPgovuk

Mae cyfrif Twitter @DWPgovuk yn cael ei reoli gan Dîm Cyfathrebu Digidol DWP.

Os dilynwch @DWPgovuk, gallwch ddisgwyl negeseuon rheolaidd a fydd yn cwmpasu:

  • straeon newyddion, datganiadau i’r wasg a ffeithiau a ffigurau defnyddiol
  • ymgynghoriadau a chyhoeddiadau eraill
  • areithiau, ymweliadau, cyfweliadau â’r cyfryngau a datganiadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau a’n gweinidogion
  • negeseuon ymgyrchu
  • aildrydariadau o gyhoeddiadau nodedig gan adrannau llywodraeth y DU, sefydliadau eraill sy’n berthnasol i’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a straeon, sylwadau neu farn ddiddorol a fydd, yn ein barn ni, o ddiddordeb i’n dilynwyr

Os dilynwch @DWPgovuk ni fyddwn yn eich dilyn yn ôl yn awtomatig.

Os byddwn yn dilyn cyfrif Twitter neu’n cyfeirio at hashnodau presennol nid yw’n awgrymu unrhyw fath o gymeradwyaeth.

Rydym yn adolygu @negeseuon yn ystod oriau swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus) ond yn gyffredinol nid ydym yn ymateb iddynt.

Efallai y byddwn yn trydar yn achlysurol y tu allan i oriau swyddfa. Byddwn yn ceisio sicrhau bod yr adborth a gawn gennych yn cyrraedd y bobl briodol yn DWP.

Os ydych yn aelod o’r cyfryngau a bod gennych ymholiad, cysylltwch â Swyddfa’r Wasg DWP ar 0115 965 8781. Peidiwch â defnyddio Twitter i gysylltu â ni.

Cyfrifon Canolfan Gwaith

Mae’r ystod o gyfrifon Canolfan Gwaith (@JCPin) yn cael eu rheoli gan gydweithwyr Canolfan Gwaith yn y rhanbarthau. Mae’r enw defnyddiwr @JCPin wedi’i ddilyn gan enw’r lleoliad y mae’r cyfrif yn ei gwmpasu.

Rydym yn rheoli’r cyfrifon hyn rhwng 9 a 5 o ddydd Llun i ddydd Gwener (nid gwyliau cyhoeddus).

Os ydych yn dilyn cyfrifon @JCPin, gallwch ddisgwyl trydaru rheolaidd yn cwmpasu:

  • swyddi gwag
  • gwybodaeth am brentisiaethau, hyfforddiant a chyfleoedd eraill sy’n gysylltiedig â swyddi
  • cynnwys nodweddiadol o ddiddordeb i’n cynulleidfa

Os byddwn yn dilyn cyfrif Twitter, nid yw’n golygu unrhyw fath o gymeradwyaeth.

Polisi cymedroli Facebook

Mae tudalen Facebook DWP yn cael ei chymedroli’n adweitheddol. Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw sylwadau. Byddwn yn rheoli’r cyfrif hwn yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus).

Polisi cymedroli YouTube

Rydym yn cymedroli o flaen llaw unrhyw sylwadau a gyflwynir i sianel YouTube DWP. Mae hyn yn golygu na fydd sylwadau yn cael eu cyhoeddi’n syth – bydd cymedrolwyr DWP yn eu gwirio’n gyntaf. Bydd cymedrolwyr yn monitro’r safle yn ystod oriau swyddfa, dydd Llun i ddydd Gwener, ac yn anelu at brosesu sylwadau o fewn 2 ddiwrnod gwaith.

Bwriad cymedroli yw osgoi pobl gyhoeddi gwybodaeth breifat neu bersonol gall cael ei ddefnyddio am resymau twyll.

Bydd cymedrolwyr yn dileu unrhyw sylwadau y maent yn eu hystyried sy’n anaddas ac sy’n torri’r rheolau hyn neu sydd ddim yn unol â Chanllawiau Cymunedol YouTube.

Polisi cymedroli Instagram

Rydym yn rheoli’r Cyfrif Instagram ystod oriau’r swyddfa, o ddydd Llun i ddydd Gwener (heb gynnwys gwyliau cyhoeddus). Mae’r dudalen wedi’i chymedroli’n adweithiol ac ni allwn gymryd cyfrifoldeb am gynnwys unrhyw sylwadau.

Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth

Rydym yn croesawu ceisiadau a wnaed o dan Rhyddid Gwybodaeth. Darllenwch Sut i wneud cais rhyddid gwybodaeth (FOI).

Y ffordd orau o gyflwyno eich cais yw ei anfon ar e-bost i freedom-of-information-request@dwp.gov.uk