Ein llywodraethiant

Y prif gyrff gwneud penderfyniadau, gweithredol a rheoli yn Adran Gwaith a Phensiynau (DWP).


Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am bob un o’n byrddau a’n pwyllgorau, a gweld cynrychiolaeth weledol o’n strwythur bwrdd, ar dudalennau 132 i 139 o adroddiad blynyddol a chyfrifon DWP 2022 i 2023

Aelodau’r Bwrdd Adrannol 

Cadeirir y Bwrdd Adrannol gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac mae’n ffurfio arweinyddiaeth strategol a gweithredol yr adran. Mae’n dwyn ynghyd arweinwyr y gweinidogol a’r gwasanaeth sifil ag uwch swyddogion anweithredol o’r tu allan i’r llywodraeth. 

Mae’r bwrdd yn: 

  • cefnogi ac yn cynghori gweinidogion a’r adran ar faterion strategol sy’n gysylltiedig â datblygu a gweithredu amcanion y llywodraeth 

  • edrych i’r dyfodol am faterion sy’n datblygu 

  • monitro perfformiad 

  • goruchwylio rheoli risgiau 

  • gosod y cyfeiriad strategol cyffredinol ar gyfer yr adran 

Aelodau’r Bwrdd Adrannol 

Mae gan y Bwrdd Adrannol 4 is-bwyllgor sy’n cael eu cadeirio gan aelodau anweithredol o’r bwrdd. 

Pwyllgor Adrannol dros Archwilio a Sicrwydd Risg 

Mae’r Pwyllgor Adrannol dros Archwilio a Sicrwydd Risg yn darparu adolygiad annibynnol o briodoldeb, digonolrwydd, uniondeb a gwerth am arian prosesau llywodraethu, rheoli risg a rheolaeth yr adran. Mae prif ffocws y pwyllgor yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, 5 maes penodol: 

  • llywodraethu corfforaethol 

  • rheoli risg 

  • archwilio 

  • cyfrifo ac adrodd 

  • diogelu 

Aelodau’r Pwyllgor Adrannol dros Archwilio a Sicrwydd Risg 

  • Charlie Steel, aelod anweithredol o’r bwrdd 

  • Sally Cheshire CBE, aelod anweithredol 

  • Ian Wilson, aelod anweithredol 

  • Catherine Vaughan, Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid 

  • Cyfarwyddwr Taliadau, System a Rheolaeth Ariannol 

  • Prif Swyddog Gweithredol, Grwp Digidol 

  • Prif Swyddog Risg, DWP 

  • Prif Swyddog Diogelwch, DWP 

  • Cyfarwyddwr, Cynllunio Gwasanaeth ac Optimeiddio  

  • Cyfarwyddwr, Gallu, Dysgu a Thalent  .

  • Cyfarwyddwr, Pensiynau Preifat a Chyrff Hyd Braich

  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Rheolaeth Ariannol a Pholisi  

  • Cyfarwyddwr, Archwilio Mewnol DWP (GIAA)  

  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Archwilio Mewnol DWP (GIAA)  

  • Cynrychiolwyr y Swyddfa Archwilio Genedlaethol  

  • Dirprwy Gyfarwyddwr, Llywodraethu a Deddfwriaeth 

Cyfarwyddwyr Anweithredol – Bwrdd y Tîm Gweithredol (NED-ET

Cadeirir Bwrdd y NED-ET gan y cyfarwyddwr anweithredol arweiniol ac mae’n dwyn ynghyd swyddogion adrannol a swyddogion anweithredol. Mae’n darparu safbwyntiau, arbenigedd a her allanol ar draws agenda DWP i sicrhau cyflawni amcanion yr adran. 

Ei rôl yw: 

  • cefnogi cynllunio strategol, busnes, ac ariannol 

  • cefnogi’r adolygiad gweithredol o berfformiad cyflenwi adrannol 

  • herio a chyfrannu at ffrydiau gwaith â blaenoriaeth uchel 

  • adolygu cynnydd ar gyflawni prosiectau mawr a ffyrdd strategol o weithio 

Pwyllgor Enwebiadau 

Mae’r Pwyllgor Enwebiadau’n darparu cyngor ar: 

  • nodi a datblygu arweinyddiaeth a chydweithwyr sydd â photensial uchel 

  • cynllun cymhelliant yr adran 

  • cynllunio olyniaeth 

Pwyllgor Cynghori ar Drawsnewid 

Mae’r Pwyllgor Cynghori ar Drawsnewid yn darparu cyngor arbenigol annibynnol. Mae’n galluogi DWP a’i gyrff hyd braich i archwilio’r potensial i drawsnewid darpariaeth gwasanaeth trwy ddigideiddio a thrwy fabwysiadu strategaeth fusnes a model gweithredu targed yr adran. 

Mae’r pwyllgor yn darparu cyngor a chefnogaeth i swyddogaethau Rhagoriaeth Digidol a Gwasanaeth DWP i gefnogi ei nodau trawsnewid strategol i: 

  • optimeiddio profiad y dinesydd ar draws sawl sianel i wneud gwasanaethau’n fwy hygyrch ac effeithlon 

  • gwella galluoedd asiantau i gynnig gwell gwasanaeth i gwsmeriaid 

  • defnyddio data i leihau twyll a chamgymeriad, symleiddio rhyngweithiadau dinasyddion, a lleihau cost prosesu 

Tîm Gweithredol 

Y Tîm Gweithredol yw’r uwch gorff gwneud penderfyniadau ac mae’n darparu arweinyddiaeth gorfforaethol i’r adran. Mae’r Tîm Gweithredol: 

  • yn diffinio, hyrwyddo, a chyfleu gwerthoedd cyffredin yr adran 

  • yn cynghori gweinidogion ar y weledigaeth gyffredinol, strategaeth adrannol a strategaethau ategol ar gyfer cyflawni amcanion gweinidogol 

  • yn ystyried goblygiadau strategol datblygiadau polisi mawr ac yn cytuno ar bolisïau corfforaethol sylweddol 

  • yn cymryd penderfyniadau corfforaethol allweddol wrth gynllunio a buddsoddi i gefnogi cyflawni amcanion adrannol 

  • yn rheoli perfformiad corfforaethol yn erbyn targedau strategol yr adran 

  • yn sicrhau bod risgiau strategol yn cael eu rheoli’n effeithiol 

  • yn cyfleu nodau, amcanion, a pherfformiad yr adran, y tu mewn a’r tu allan i’r adran 

  • yn hyrwyddo cydweithio â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol y tu mewn a’r tu allan i’r llywodraeth 

  • yn cynllunio ac yn sicrhau fframwaith llywodraethu cadarn a system reoli fewnol gyffredinol y cydymffurfir â hi 

  • nodi a datblygu arweinyddiaeth yr adran yn y dyfodol trwy reoli talent a chynllunio olyniaeth a chytuno ar strategaethau amrywiaeth 

Aelodau’r Tîm Gweithredol 

Mae gan y Tîm Gweithredol nifer o is-bwyllgorau ffurfiol. 

Pwyllgor Buddsoddi 

Cadeirir y Pwyllgor Buddsoddi gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid ac mae’n darparu ail linell sicrwydd ar fuddsoddiadau ar raddfa fawr yr adran. Mae’n: 

  • gwneud penderfyniadau ar flaenoriaethu a dechrau gweithgareddau newydd 

  • helpu i sicrhau bod prosiectau a rhaglenni yn cyflawni amcanion polisi’r adran a’r llywodraeth ac yn darparu gwerth am arian 

  • goruchwylio ac yn rheoli sefyllfa ariannol yn ystod blwyddyn yr adran ac yn craffu ar ei chynlluniau aml-flwyddyn 

Bwrdd Capasiti 

Cadeirir y Bwrdd Capasiti gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Pobl a Gallu. Mae’n darparu llywodraethu ar gyfer: 

  • penderfyniadau adnoddau pobl 

  • rhoi gwaith ar gontract allanol ac ymgysylltu â fforddiadwyedd a rheolaeth cyflenwad a galw adrannol 

  • rhagweld y gweithlu 

  • gallu adrannol a’r Rhaglen Trawsnewid Gweithle 

Bwrdd Portffolio Newid 

Cadeirir Bwrdd Portffolio Newid gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Newid a Gwydnwch ac mae’n darparu fforwm i reoli prosiectau newid mawr yr adran. Mae’r bwrdd yn goruchwylio’r holl weithgaredd newid o fewn DWP trwy ‘Golwg Sengl ar Newid’ yr adran ac yn helpu’r adran i flaenoriaethu gweithgaredd newid mawr.  

Bwrdd Sicrwydd Risg 

Mae’r Prif Swyddog Risg yn cadeirio’r Bwrdd Sicrwydd Risg. Mae’r Bwrdd: 

  • yn datblygu ac yn adolygu prif risgiau’r adran 

  • yn archwilio cyfanswm sefyllfa risg yr adran 

  • yn monitro effeithiolrwydd cynlluniau rheoli risg 

  • yn helpu i nodi risgiau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg 

Mae’r bwrdd yn rhoi sicrwydd i’r Tîm Gweithredol a Phwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg yr Adran bod risgiau’n  cael eu rheoli’n effeithiol. 

Bwrdd Goruchwylio Arfer Gweinyddol a Hawl Gyfreithiol (LEAP). 

Mae ymarfer LEAP yn dilyn camgymeriad ar ran adran o’r llywodraeth, a gallai’r camgymeriad fod wedi amddifadu unigolion o’u hawliau cyfreithiol. Mae Bwrdd Goruchwylio LEAP yn cael ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid. Mae’n goruchwylio’r holl weithgareddau LEAP a chywiro o fewn yr Adran. Mae’r bwrdd yn rhoi cyngor a sicrwydd i’r Tîm Gweithredol ynghylch cryfhau’r gallu i gyflawni her LEAP gyffredinol yr adran, yn ogystal â phennu’r cyfeiriad strategol. Mae ganddo gysylltiadau agos â’r Bwrdd Gallu ac mae’n cefnogi eitemau allweddol ar yr agenda ar argaeledd adnoddau a gallu yn rheolaidd.