Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid

Catherine Vaughan

Bywgraffiad

Penodwyd Catherine Vaughan yn Gyfarwyddwr Cyllid Cyffredinol i Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fis Hydref 2022.

Cyn ymuno â DWP, Catherine oedd Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Gweithredu Adran Masnach Ryngwladol (DIT).

Dechreuodd Catherine ei gyrfa â PricewaterhouseCoopers (PwC) ym maes archwilio sector cyhoeddus. Mae hi’n gyfrifydd cymwysedig gyda’r Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA). Mae ei rolau dilynol wedi cynnwys:

  • Cyfarwyddwr Cyllid ac Adnoddau Cyngor Dinas Brighton a Hove
  • Prif Swyddog Cyllid Awdurdod Parc Cenedlaethol South Downs
  • Cyfarwyddwr Cyllid a Gwasanaethau Busnes Cofrestrfa Tir EF

Mae Catherine yn aelod o Grŵp Arwain Swyddogaeth Cyllid y Llywodraeth ac yn gyd-gadeirio ei Bwyllgor Pobl. Mae hi hefyd wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol ar Fwrdd Pêl-rwyd Lloegr.

Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cyllid

Mae’r Cyfarwyddwr Cyllid Cyffredinol yn gyfrifol am:

  • arwain timau sy’n goruchwylio strategaeth fusnes a chynllunio adrannol DWP
  • dyrannu adnoddau
  • rheolaeth ariannol
  • caffael masnachol a rheoli contractau
  • diogelwch

Adran Gwaith a Phensiynau

Rolau blaenorol yn y llywodraeth

  • Director General and Chief Operating Officer
  • Director of Finance and Business Services