Aelod anweithredol o'r Bwrdd

Ashley Machin

Bywgraffiad

Penodwyd Ashley Machin yn aelod o Bwyllgor Cynghori Digidol DWP ym mis Rhagfyr 2015. Ymunodd â’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg Adrannol ym mis Mehefin 2016 a chafodd ei benodi’n aelod o’r Bwrdd Adrannol ym mis Tachwedd 2017, ac mae wedi bod yn Brif Weithredwr yn Gyfarwyddwr Anweithredol Arweiniol, ar sail interim i ddechrau, ers mis Hydref 2022.

Treuliodd Ashley bron i 30 mlynedd ym Manc Lloyds a Lloyds Banking Group. Fel Cyfarwyddwr ac yn ddiweddarach Rheolwr Gyfarwyddwr busnes digidol Lloyds Banking Group, goruchwyliodd ddatblygiad a lansiad ystod eang o fentrau, gan gynnwys lansio bancio a thaliadau symudol. Yn 2014 gadawodd Lloyds, a daeth yn Brif Swyddog Digidol Banc TSB, lle, fel aelod o Bwyllgor Gwaith y Banc, roedd yn gyfrifol am arwain a datblygu gallu digidol y banc, cyn gadael ar ddiwedd 2015 i ganolbwyntio ar rolau Anweithredol. Dechreuodd y rhain yn 2012 pan ymunodd â’r Bwrdd Cynghori Digidol i Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar ôl ei ffurfio - rôl a ddaliodd tan 2015.

Roedd hefyd yn Aelod Anweithredol yn Swinton Insurance, ac yn Cyfarwyddwr Anweithredol annibynnol yn Masthaven o fis Hydref 2016, cyn pedair blynedd fel Cadeirydd y Banc tan fis Tachwedd 2023.

Aelod anweithredol o'r Bwrdd

Mae ein cyfarwyddwyr anweithredol yn uwch ffigurau o’r tu allan i’r adran sy’n dod â chymysgedd amrywiol o arbenigedd a sgiliau o bob rhan o’r sector cyhoeddus a phreifat. Maent i gyd yn:

  • rhoi arweiniad a chyngor i arweinwyr a gweinidogion DWP
  • cefnogi a herio rheolaeth ar gyfeiriad strategol yr adran
  • darparu cefnogaeth i fonitro ac adolygu cynnydd

Adran Gwaith a Phensiynau