Aelod anweithredol o'r Bwrdd

Arabel Bailey

Bywgraffiad

Ymunodd Arabel â’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) fel Aelod Anweithredol ym mis Medi 2021, ac fe’i penodwyd yn gadeirydd parhaol y Pwyllgor Cynghori ar Drawsnewid yno ym mis Chwefror 2024. Mae’r pwyllgor hwn yn darparu arbenigedd, mewnwelediad a chyngor ynghylch trawsnewid gwasanaethau’r Adran gan ddefnyddio technolegau digidol.

Mae Arabel yn dod â dros 30 mlynedd o brofiad o drawsnewid sy’n cael ei yrru gan dechnoleg, ar draws ystod eang o ddiwydiannau. Mae hi’n arweinydd busnes profiadol ac mae hi wedi dal swyddi gweithredol uwch yn sbarduno twf ym meysydd Technoleg, Trawsnewid Digidol ac Arloesedd. Ochr yn ochr â’i rôl DWP, mae hi hefyd yn Gyfarwyddwr Anweithredol yn Ysbytai Prifysgol Bryste ac Ymddiriedolaeth Sefydliad GIG Weston. Mae Arabel wedi bod yn hyrwyddwr Amrywiaeth a Chynhwysiant ers amser maith, ac am yr angen i ddod â gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau i’r diwydiant Technoleg. Mae hi’n cael ei chydnabod fel model rôl yn y maes hwn ac mae hi wedi cael cydnabyddiaeth y diwydiant am ei rolau arweinioln. Mae ganddi radd mewn Mathemateg a Gwyddoniaeth Rheolaeth o Brifysgol Manceinion a bu’n gweithio i Accenture yn y DU am 29 mlynedd.

Aelod anweithredol o'r Bwrdd

Mae ein cyfarwyddwyr anweithredol yn uwch ffigurau o’r tu allan i’r adran sy’n dod â chymysgedd amrywiol o arbenigedd a sgiliau o bob rhan o’r sector cyhoeddus a phreifat. Maent i gyd yn:

  • rhoi arweiniad a chyngor i arweinwyr a gweinidogion DWP
  • cefnogi a herio rheolaeth ar gyfeiriad strategol yr adran
  • darparu cefnogaeth i fonitro ac adolygu cynnydd

Adran Gwaith a Phensiynau