Neil Couling CB CBE
Bywgraffiad
Penodwyd Neil yn Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid a Gwydnwch ym mis Ebrill 2019 yn ogystal â chadw atebolrwydd i’r Senedd fel Uwch Berchennog Cyfrifol (SRO) ar gyfer Credyd Cynhwysol.
Dechreuodd gyrfa Neil mewn swyddfa budd-daliadau leol yn gweinyddu ceisiadau am Gymhorthdal Incwm. Mae ei rolau dilynol wedi cynnwys:
- gweithio mewn polisi
- Prif Ysgrifennydd Preifat i’r Ysgrifennydd Gwladol
- sawl rôl weithredol o fewn y Ganolfan Byd Gwaith a’i rhagflaenwyr
- Cyfarwyddwr Cyffredinol y Rhaglen Credyd Cynhwysol ers mis Hydref 2014
Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid a Gwydnwch ac Uwch-berchennog Cyfrifol Credyd Cynhwysol
Yn ei rôl fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Newid a Gwydnwch mae Neil yn atebol i Ysgrifennydd Parhaol yr Adran Gwaith a Phensiynau am:
- arweinyddiaeth Portffolio Newid Mawr yr Adran Gwaith a Phensiynau
- cyflawni amcanion cyffredinol y Portffolio Newid Mawr
- y gyllideb Portffolio Newid Mawr a gytunwyd
- arwain Uwch Berchnogion Cyfrifol (SROs) a Chyfarwyddwyr Rhaglenni yn unol â’r strwythur corfforaethol
Fel SRO ar gyfer Credyd Cynhwysol, mae’n atebol i’r Senedd am weithredu prif raglen diwygio lles y llywodraeth. Mae hyn yn cynnwys:
- bod yn berchen ar a chyfleu gweledigaeth y rhaglen
- sicrhau bod gweithrediad Credyd Cynhwysol yn cael ei gwblhau’n ddiogel
- rhoi arweiniad clir i dîm y rhaglen