Cymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA)
RFCA Cymru yw’r llais galluogi ar gyfer y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru.
RFCA Cymru yw’r llais galluogi ar gyfer y lluoedd arfog wrth gefn a chadetiaid yng Nghymru. Mae’n cynnal yr ystad, yn darparu cefnogaeth i’r tri Gwasanaeth ac yn cysylltu’r weinyddiaeth amddiffyn â chymdeithas drwy ddarparu ‘rhwydwaith o rwydweithiau’ helaeth.
Y newyddion diweddaraf
Busnes Caerdydd yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog
Yn ei ddigwyddiad diweddaraf, llofnododd Clwb Busnes Caerdydd Gyfamod y Lluoedd Arfog ochr yn ochr â Bws Caerdydd. Y siaradwr oedd yr Uwchfrigadydd Duncan G Forbes, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi’r Llynges Frenhinol a Phennaeth Cynorthwyol Staff y Llynges.
Wedi ei noddi gan Gymdeithas Cadetiaid Lluoedd Wrth Gefn Cymru, mi wnaeth yr Uwchfrigadydd annerch y Clwb, gan gyfeirio at ei hen gapten a’i fentor, y Brigadydd Jock Fraser, wrth iddo ymddeol yr haf hwn, cyn tynnu sylw’n briodol at thema etifeddiaeth ei ddarlith.
Gan addo siarad heb agenda na sbin, ond gan ddefnyddio’r achlysur i adrodd straeon, meithrin cysylltiadau a gorffwys, dechreuodd yr Uwchfrigadydd drwy drafod cyd-destun strategol eang gwaith presennol y Llynges.
Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwynedd yn cydnabod 12 o bobl
Mae ymdrechion 12 o bobl o bob rhan o Wynedd, gan gynnwys dau gadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i saith o bobl gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Bailey Ysw CStJ FRAgS yn y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin yng Nghaernarfon ddydd Iau 25 Ebrill, 2024.
Y rhain oedd yr Is-swyddog Andrew Westall o Gorfflu Cadetiaid Môr Caergybi; y Capten Michael Evans a’r Is-swyddog Oedolion Sharon Garland, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; yr Uwchgapten Aled ‘Rhys’ Jones a’r Swyddog Gadét Nyah Lowe, ill dau o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru; yr Hyfforddwr Sifil Geoffrey (Geoff) Ward o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a’r Uwchgapten Bernie Pagent o Luoedd Wrth Gefn a Chymdeithas Cadetiaid Cymru.
Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwent yn cydnabod 14 o bobl
Mae ymdrechion 14 o bobl o bob rhan o Went, gan gynnwys naw cadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan y Brigadydd Robert Aitken CBE CStJ , yn y seremoni wobrwyo yn Chapman VC House, Cwmbrân, ddydd Iau 11 Ebrill.
Y rhain oedd y Prif Is-swyddog Robert Evans o HMS CAMBRIA; yr Uwch-Sarjant Catrodol Cadetiaid Staff Ehsan Iqbal o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; y Peilot-Swyddog Sarah Louise Beach a’r Swyddog Gwarant Joanna Holley, ill dwy o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, a’r Uwchgapten Stephen John, Swyddog Ymestyn Cyrhaeddiad y Cadetiaid mewn Ysgolion ar gyfer Cymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru.
Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi yn cydnabod deuddeg o bobl
Mae cynrychiolydd y Brenin dros Glwyd wedi cydnabod ymdrechion deuddeg o bobl o bob rhan o’r sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i chwech o bobl gan Henry George Fetherstonhaugh OBE FRAgS, yn y seremoni ym Marics Hightown, Wrecsam ar ddydd Iau 21 Mawrth.
Y rhain oedd Graham Oliver, Is-gomander o HMS Eaglet; Gary Johnston, Swyddog Gwarant 2 o HMS Eaglet; Edward Ditchfield, Llongwr Abl 2 o HMS Eaglet; Paul Burrows, Prif Hyfforddwr Catrodol o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; Charmaine Lloyd, Uwch Gapten o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; a Stephen Davies, Sarjant Hyfforddwr Staff o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.
Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed
Mae ymdrechion deg o bobl o bob cwr o Ddyfed, gan gynnwys dau gadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Miss Sara Edwards, yn y seremoni yng Ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin, ddydd Iau 7 Mawrth.
Y pump oedd Colin Sharp a Hilary Anderson, ill dau o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberdaugleddau; Is-lefftenant (SCC) Lucy Killick RNR o Gorfflu Cadetiaid Môr Llanelli; Hyfforddwr Rhingyll Staff Colleen Chinnery a Hyfforddwr Rhingyll Staff Kirsty Richards o Lu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg
Yn ystod y noson, cyflwynwyd tair gwobr am wasanaeth hir a gwasanaeth gwirfoddol i aelodau’r Corfflu Cadetiaid Môr hefyd.
Cydnabyddiaeth frenhinol i wyth o bobl
Gwobrau Arglwydd Raglaw De Morgannwg. Hawlfraint: RFCA dros Gymru.
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i wyth o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith.
Dyma’r wyth a gafodd eu cydnabod: Prif Is-swyddog Paul Jones o HMS CAMBRIA; Is-swyddog Alan Lewis o Gorfflu Cadetiaid Môr Casnewydd; Capten Chris Cooper a’r Uwch-ringyll Hyfforddwr Staff Richard Cooper, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Capten Jayne Simpson o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Awyr-Lefftenant Jeffrey Thomas a’r Uwch-ringyll Hedfan Stuart Ansell, ill dau o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; a Rick Hallet o Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.
Cyflwynwyd eu gwobr iddynt i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Arglwydd Raglaw, a gynhaliwyd gan HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd ddydd Iau 22 Chwefror 2024.
Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol yn cydnabod gwasanaeth rhagorol ac ymroddiad i ddyletswydd
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol, Yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ.
Yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Arglwydd Raglaw yng Nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin ym Mhontypridd ddydd Iau 8 Chwefror 2024, cafodd Awyr-Lefftenant Matthew Hackett a’r Parchedig Bernard Jones, ill dau o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd.
Pymtheg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gorllewin Morgannwg
Mae ymdrechion 15 o bobl, gan gynnwys pedwar cadét ifanc, o bob rhan o Orllewin Morgannwg wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.
I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i un ar ddeg o bobl gan Mrs Louise Fleet YH, yn y seremoni yn John Chard VC House, Abertawe ddydd Iau 25 Ionawr.
Pedwar o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Mhowys
Mae ymdrechion pedwar o bobl o bob rhan o Bowys wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin yn y sir.
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau berson gan Mrs Tia Jones i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd yn y seremoni yng Ngwesty’r Elephant and Castle yn y Drenewydd ddydd Iau, 11 Ionawr.
Cafodd cyflawniadau dau gadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan tua 50 o bobl.
Pencampwyr Cadetiaid
Rydym yn cefnogi dros 4,400 o gadetiaid a dros 1,200 o oedolion sy’n gwirfoddoli mewn lluoedd cadetiaid yng Nghymru. Fel pencampwyr y mudiad cadetiaid, rydym yn hyrwyddo manteision profiad y cadetiaid i fywyd pobl ifanc.
Hawlfraint: Trwydded Llywodraeth Agored
Ydych chi erioed wedi ystyried bod yn gadét yn un o unedau cadetiaid Cymru? Mae John Challenger, 17 oed, yn esbonio pam ei fod yn meddwl ei bod mor bwysig helpu i gadw’r cysylltiad rhwng y 2,300 o gadetiaid môr ar draws gogledd Cymru a gogledd-orllewin Lloegr.
Dywedodd John: “Rwy’n credu bod llawer o bobl ifanc wedi cael trafferth gydag iechyd meddwl, gan deimlo nad ydyn nhw’n gallu taro cydbwysedd rhwng gwaith ysgol, y cadetiaid a chadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau. Ond roedd y Cadetiaid Môr wedi gweithio’n galed i leihau’r anawsterau hyn i staff a chadetiaid drwy adeiladu rhwydweithiau cymorth sy’n ymestyn ledled y wlad, gyda’r nod o’n helpu ni i gyd drwy’r cyfnod heriol hwn.”
Darllenwch stori John: John Challenger yn trafod pwysigrwydd chwarae ei ran i helpu cadetiaid eraill Cafodd John Challenger, cadét môr, Fedal yr Ymerodraeth Brydeinig am wasanaethau i bobl ifanc yn ystod Covid-19.
Rhagor o wybodaeth am fod yn gadét.
Hyrwyddo’r Lluoedd Arfog Wrth Gefn
Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Unedau Wrth Gefn (y Llynges Frenhinol, Byddin Prydain a’r Awyrlu Brenhinol) yng Nghymru i gefnogi’r gwaith recriwtio ac i hyrwyddo eu rôl yn darparu galluogrwydd Amddiffyn y DU.
Hawlfraint: Hawlfraint y Goron y Weinyddiaeth Amddiffyn
Yn ôl Tracy Llewellyn, chwaraewr trombôn ym Mand y Cymry Brenhinol, ni fyddai’n gallu dymuno cael gwell swydd ran-amser ar y cyd â gweithio ar fferm y teulu ger y Fenni.
Ymunodd Tracy â Band Llu Cadetiaid Powys pan oedd yn 13 oed ac yna aeth ymlaen i wasanaethu yn y Fyddin am 12 mlynedd fel rhan o Gorfflu Cerddoriaeth y Fyddin cyn gadael i ddechrau teulu.
Dywedodd Tracy: “I mi, mae’n golygu fy mod yn gallu gwneud y tri pheth pwysicaf yn fy mywyd, sef gweithio ar y fferm, bod yn fam, a bod yn gerddor milwrol.
Darllenwch stori lawn Tracy: Tracy Llewellyn, sy’n Filwr Wrth Gefn, yn llwyddo i gyfuno bod yn gerddor milwrol, yn fam ac yn ffermwraig.
Rhagor o wybodaeth am fod yn filwr wrth gefn.
Ymgysylltu â’r gymuned leol a chyflogwyr ar ran y weinyddiaeth amddiffyn
Rydym yn gweithio gyda chyflogwyr lleol i annog cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog a chydnabyddiaeth o’r set sgiliau gwerthfawr mae aelodau o gymuned y Lluoedd Arfog yn eu cyfrannu yn y gweithle. Mae ein perthynas barhaus â chymunedau lleol yn parhau i annog cefnogaeth ar gyfer milwyr wrth gefn, cadetiaid a’r teulu milwrol ehangach ledled Cymru.
Enillodd Alun Griffiths (Contractors) Ltd Wobr Aur Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn yn 2020. Wedi’u sefydlu yn 1968, maen nhw’n un o’r prif gontractwyr peirianneg sifil a rheilffyrdd sy’n gweithio ledled Cymru. Yn y fideo hwn, mae Richard Bruten (Cyfarwyddwr Prosiectau Mawr a Chyn-filwr y Fyddin) ac Amanda Holmes (Cynghorydd Adnoddau Dynol a Chyn-filwr) yn siarad am y diwylliant cefnogol i’r lluoedd arfog yn Griffiths yn ogystal ag eiriolaeth barhaus y sefydliad dros gymuned y lluoedd arfog.
Darparu’r mannau gorau i weithio a hyfforddi ynddynt
Rydym yn rheoli ac yn cynnal a chadw y 400 a mwy o adeiladau sy’n gartref i unedau cadetiaid a milwyr wrth gefn lleol, yn ogystal â darparu addasiadau i gartrefi cyn-filwyr sydd wedi’u hanafu ac sy’n byw yng Nghymru.
Wedi’i disgrifio fel ‘trysor’ yn yr Ystad Amddiffyn, cafodd HMS Cambria ei chyflawni ar amser ac o fewn y gyllideb gan y Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru, mewn partneriaeth â’r Llynges Frenhinol ac Associated British Ports.
Mae’r prosiect hynod lwyddiannus hwn wedi galluogi HMS Cambria, unig uned y Llynges Frenhinol Wrth Gefn yng Nghymru, i ddychwelyd i’w chartref morol gwreiddiol yng Nghaerdydd, a mwynhau presenoldeb ger canolfan Lywodraethu Cymru.
Darllen y stori lawn: HMS Cambria newydd Caerdydd gwerth £11 miliwn
Newyddion archif
2023
- Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer yr Ystad Wirfoddol i’w darparu gan gontractau Ystad Adeiledig y weinyddiaeth amddiffyn
- Deg sefydliad o Gymru yn cipio Gwobrau Aur yng Nghastell Hensol
- RFCA dros Gymru yn croesawu 130 o westeion i’r Briff Blynyddol
- Diolch i gyflogwyr am gefnogi milwyr wrth gefn mewn noson wobrwyo arbennig yng Nghaerdydd
- Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Gwynedd
- Saith o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng ngorllewin Morgannwg
- Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi
- Anrhydeddu pobl ifanc gan Arglwydd Raglaw Dyfed
- Cydnabyddiaeth frenhinol i ddau berson ifanc
- Pymtheg person ifanc yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng Ngwent
- Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ym Morgannwg Ganol yn anrhydeddu deuddeg o bobl
- Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Powys 2023
Rhagor o straeon newyddion gan yr RFCA
Gwybodaeth gyswllt
RFCA for Wales,
Maindy Barracks,
Cardiff,
CF14 3YE
Ffôn: 02920375735
E-bost: wa-info@rfca.mod.uk
Dilynwch ni ar:
Facebook: @rfcawales
Twitter: @RFCAforWales
LinkedIn: RFCAforWales
Instagram: rfca.wales
Youtube: RFCAforWales
Gwybodaeth gysylltiedig
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 May 2024 + show all updates
-
Added latest news story. Updated 'Contact information'.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Updated 'Latest news' Welsh translation.
-
Added 'Archive news' section and updated 'Latest news' section.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added the latest news story.
-
Added latest news story.
-
Added latest news story.
-
Edited image.
-
Added news story: Fifteen people recognised by His Majesty’s Lord- Lieutenant of Gwent.
-
Added latest news story.
-
Latest news section updated. Added: 'Teenagers honoured by Lord-Lieutenant of Powys: January 2023'.
-
Added latest news story.
-
'RFCA for Wales welcome 130 guests to Annual Briefing' and 'Employers thanked for supporting reservists 'to keep on marching' at a special awards evening in Cardiff' added.
-
Updated content under 'Latest news' heading.
-
Added news item: Lord-Lieutenant of Gwynedd celebrates high achievers from the Armed Forces community.
-
Added new article under 'latest news' heading.
-
Added new news story under 'Latest news' heading.
-
Added: article under 'Latest news' heading.
-
Added new article under 'Latest news' heading.
-
Added new news article under heading 'Latest news'.
-
Updated 'Latest news' heading with article: 'Lord-Lieutenant of West Glamorgan pays tribute to reserves and cadets in the county'.
-
Added new news article under heading 'Latest news'.
-
Added a new article under 'Latest News' heading.
-
Added 2 articles under 'Latest News' heading.
-
Addition of: RFCA for Wales welcome 130 guests to Annual Briefing news story.
-
Added image of Lt Cdr Ruth Fleming to latest news.
-
Added updated social links to channels and a new video under the 'Engage...' heading with full transcript.
-
First published.