Cydnabyddiaeth Frenhinol
Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bedwar o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer De Morgannwg, Mrs Morfudd Meredith.
The Lord-Lieutenant of South Glamorgan Awards 2026. Copyright: RFCA for Wales
Y pedwar oedd Lefftenant Rhys Thomas o HMS CAMBRIA; Mr Fraser Ingram o Gadetiaid Môr Caerdydd; Mrs Abigail Gibbins o Gadetiaid Môr Caerdydd ac Arweinydd Sgwadron Rhys-Thomas, Challenger 3, Adain Gymreig Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol.
Yn seremoni wobrwyo yr Arglwydd Raglaw, a gynhaliwyd gan HMS CAMBRIA ym Mae Caerdydd ddydd Iau 19 Chwefror 2026, cyflwynwyd eu gwobr iddynt i gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd.
Cafodd llwyddiannau tri chadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y noson wobrwyo.
Dewiswyd Cadét Is-swyddog Nathan o Gorfflu Cadetiaid Môr Penarth, y Prif Gadét Dylan o Gorfflu Cadetiaid Môr Caerdydd a Swyddog Gwarant y Cadetiaid Naina Luchman o Sgwadron 1344 (Caerdydd), Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.
Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw, sy’n para tan fis Medi, yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.
Maen nhw wedi dilyn ôl troed cadetiaid y llynedd, gan gynnwys Ashton Marchant, cyn Swyddog Gwarant y Cadetiaid sydd bellach yn oedolyn sy’n gwirfoddoli gydag Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol. Amlinellodd Rhingyll Marchant ei daith yn y cadetiaid i’r gynulleidfa.
Mae bron i 4,500 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Roedd dros 80 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers 100 mlynedd a mwy.