Stori newyddion

Dathlu cyflogwyr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025

Mae un deg saith o gyflogwyr mwyaf cyfeillgar i luoedd arfog Cymru wedi cael eu cydnabod â gwobr fawreddog.

ERS Silver Award winners 2025. Copyright: RFCA for Wales.

Ddoe, cyflwynwyd Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn (ERS) 2025 i un deg saith sefydliad o bob cwr o Gymru.

Cafodd cynrychiolwyr o’r sefydliadau eu gwobrwyo mewn digwyddiad arbennig a gynhaliwyd yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd, lle cawsant eu hanrhydeddu gan Salíwt 21 o Ynnau i ddathlu pen-blwydd Ei Mawrhydi y Frenhines.

Llongyfarchiadau Croesawyd y gwesteion gan Sian Lloyd, cyflwynydd y seremoni wobrwyo a rhoddwyd yr anerchiad agoriadol gan Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Rob Woods OBE. Traddodwyd yr araith gloi gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd RFCA dros Gymru.

Y derbynwyr oedd:

  • Active4Blood
  • Andy Swan Driver Services Ltd
  • Bulldogs Boxing and Community Activities
  • Cobra Life Martial Arts Ltd
  • Events Medical Team - Saltney Ltd
  • Henry Williams and Son (Roads) Ltd
  • Platts Group
  • Riverside Retreat Veterans Camp CIC
  • Shadow Response Security & Medical Ltd
  • The Royal Welch Fusiliers Museum Trust
  • Business in Focus Limited
  • IG Doors Limited
  • MPH Construction
  • Powys Teaching Health Board
  • R&M Williams Limited
  • V3 Group (UK) Ltd
  • Coleg Penybont

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd y 160ain Brigâd (Cymru), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru, y Comodor Tristram Kirkwood OBE ADC, Cadlywydd Rhanbarthol Llynges Cymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel a’r Comodor Awyr Rob Woods OBE.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn, mae’r Wobr Arian ERS yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

Er mwyn cyflawni’r wobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddyn nhw hefyd sicrhau bod eu gweithlu yn ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol mewn perthynas â materion pobl Amddiffyn sy’n berthnasol i Filwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Oedolion sy’n Wirfoddolwyr gyda Llu’r Cadetiaid a phriod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Cafodd y cyflogwyr eu cydnabod am y gefnogaeth maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog yn y digwyddiad ddydd Iau 17 Gorffennaf.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr y Prosiect Cyn-filwyr, Bulldogs Boxing and Community Activities:

Mae Bulldogs BCA yn hynod falch ac mae’n anrhydedd fawr derbyn y Wobr Arian fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd.

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymdrechion i ddarparu cyfleoedd, dealltwriaeth a chymorth ymarferol wedi cael eu cydnabod ar lefel mor fawreddog. Mae’r wobr hon nid yn unig yn tynnu sylw at y gwerthoedd sydd wrth wraidd Bulldogs BCA ond hefyd yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i hyrwyddo’r rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad a pharch.

Dywedodd Mr Craig Middle, DRM y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru:

Mae ennill gwobr Arian ERS wedi bod yn daith i’n holl enillwyr haeddiannol. Mae’r daith hon wedi cynnwys archwilio’r hyn y gall pob agwedd ar y gymuned Amddiffyn ei wneud i’w timau. Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr eleni, edrychwn ymlaen at ddathlu gyda nhw yn y cnawd fis nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Gorffennaf 2025