Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Gwynedd yn cydnabod 12 o bobl

Mae ymdrechion 12 o bobl o bob rhan o Wynedd, gan gynnwys dau gadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Gwynedd Awards. Copyright: RFCA for Wales.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i saith o bobl gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Bailey Ysw CStJ FRAgS yn y seremoni wobrwyo yng Nghanolfan Lluoedd Wrth Gefn y Fyddin yng Nghaernarfon ddydd Iau 25 Ebrill, 2024.

Y rhain oedd yr Is-swyddog Andrew Westall o Gorfflu Cadetiaid Môr Caergybi; y Capten Michael Evans a’r Is-swyddog Oedolion Sharon Garland, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; yr Uwchgapten Aled ‘Rhys’ Jones a’r Swyddog Gadét Nyah Lowe, ill dau o Gorfflu Hyfforddi Swyddogion Prifysgolion Cymru; yr Hyfforddwr Sifil Geoffrey (Geoff) Ward o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a’r Uwchgapten Bernie Pagent o Luoedd Wrth Gefn a Chymdeithas Cadetiaid Cymru.

Cafodd llwyddiannau dau o gadetiaid yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd tua 80 o bobl yn bresennol. Bu’r Corporal Gadét Elinor McGregor o Gadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd a’r cyn Sarjant Gadét Luke Rees o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, sydd bellach yn Hyfforddwr Sifil.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Dewiswyd y ddau ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Hefyd yn ystod y noson, cyflwynwyd tair gwobr am wasanaeth hir a un  dystysgrif am weithredu clodwiw i aelodau o Lu Cadetiaid y Fyddin.

Dyfarnwyd Medal y Lluoedd Cadetiaid am 12 mlynedd o wasanaeth i’r Capten Michael Evans a’r Sarjant Hyfforddwr Staff John Owen, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Cyflwynwyd clasb cyntaf Medal y Lluoedd Cadetiaid i’r Capten Eli Eames, hefyd o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Cyflwynwyd tystysgrifau am weithredu clodwiw i’r Sarjant Hyfforddwr Carys Jones o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifilaidd, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 29 April 2024