Stori newyddion

Anrhydeddu pobl ifanc gan Arglwydd Raglaw Dyfed

Mae pedwar o bobl ifanc o Ddyfed wedi'u penodi’n Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023 mewn seremoni wobrwyo yng Nghaerfyrddin.

Lord-Lieutenant of Dyfed Awards. Copyright: RFCA for Wales

Cyflwynwyd bathodyn eu penodiad, a fydd yn para am flwyddyn, i’r Prif Gadét Annis Henton o Gorfflu Cadetiaid Môr Abergwaun, y Prif Gadét Ben Power o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberdaugleddau, yr Is-swyddog Cadét Luke Coburn o Gorfflu Cadetiaid Môr Dinbych-y-pysgod a’r Swyddog Gwarant Cadét Staff Charlie Edwards o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr y Llu Awyr Brenhinol.

Cawsant eu penodi gan Miss Sara Edwards, Arglwydd Raglaw Dyfed, mewn seremoni wobrwyo ym Marics Picton ddydd Iau 16 Mawrth.

Daeth bron i 100 o bobl i’r digwyddiad i ddathlu’r penodiadau newydd ac i gydnabod aelodau’r cymunedau milwyr wrth gefn a chadetiaid sydd wedi cyflawni cymaint.

Cafodd y pedwar eu dewis ar gyfer rôl uchel ei bri cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu cyflwyno i’w henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru

Mae Annis, o Hwlffordd, yn gadét eithriadol sydd bob amser yn gosod esiampl wych i’r cadetiaid iau, ac yn gobeithio ymuno â’r Llynges Frenhinol fel swyddog comisiwn. Un o uchafbwyntiau ei gyrfa fel cadét oedd cymryd rhan yn nigwyddiad baton Gemau’r Gymanwlad yn Abergwaun.

Mae Ben yn cael ei ddisgrifio fel person sydd wrth ei fodd yn y dŵr. Y llynedd, roedd wedi rasio ar bob lefel o regatas cadetiaid Môr, lle’r oedd yn llwyddiannus ar lefelau lleol ac ardal. Yn ogystal â’i lwyddiannau ym maes cychod, mae Ben - sy’n mynychu Ysgol Aberdaugleddau - wedi dysgu sut i roi cyflwyniadau, i arwain tîm ac i weithio mewn tîm. Mae’n anelu at ymuno â’r Llynges Frenhinol.

Mae Luke yn ddisgybl yn Ysgol Greenhill, Dinbych-y-pysgod. Mae’n mwynhau gweithgareddau ar y dŵr ac yn yr awyr, ac mae’n ymddiddori mewn cychod modur a rhwyfo. Ennill ei adenydd Bronze Aviation yw ei lwyddiant mwyaf - y cadét môr cyntaf erioed o Ddinbych-y-pysgod i gyflawni hyn. Mae Luke yn gobeithio ymuno â’r Llynges Frenhinol neu’r RAF fel swyddog peilot. Ysgwyddodd Charlie, 19, sy’n astudio troseddeg a seicoleg droseddol ym Mhrifysgol Aberystwyth, gyfrifoldebau Cadét yr Arglwydd Raglaw pan roddodd ymgeisydd 2022 y gorau i’r rôl ar fyr rybudd fis Mehefin diwethaf ac mae wedi’i phenodi am y 12 mis nesaf, fel un o’r pedwar ymgeisydd ar gyfer 2023/24. Mae hedfan ar ei phen ei hun ar ôl ennill lle ar gwrs Cynllun Peilot Cadetiaid Awyr o fri wedi bod yn uchafbwynt yn ei gyrfa fel cadet.

Byddan nhw’n dilyn ôl troed y canlynol: Cadét Is-swyddog, Adam Hughes o Gorfflu Cadetiaid Môr Dinbych-y-pysgod; Cadét Arweiniol, Maisie Millichip o Gorfflu Cadetiaid Môr Abergwaun; Rhingyll Cadét, Martha Ashcroft o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 3; a Swyddog Gwarant Cadetiaid, Charlie Edwards o Gadetiaid Awyr RAF Rhif 3. Mae’r rhain wedi cael Tystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am eu rôl fel cynrychiolwyr yn 2022.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gydag Arglwydd Raglaw Dyfed, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn nifer o ddigwyddiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Cafodd dau oedolyn a oedd yn gwirfoddoli eu cydnabod hefyd am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, sef Arglwydd Raglaw (SCC), Christopher Harvey-Jones o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberdaugleddau a Phrif Is-swyddog, Christopher Palmer o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberystwyth. Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddyn nhw.

Mae Christopher Harvey-Jones o Ddinbych-y-pysgod yn llysgennad ar gyfer saethu a delio ag arfau’n ddiogel gyda’r Cadetiaid Môr. Mae’n dangos arweinyddiaeth ac ymrwymiad gwych i ddatblygu’r adrannau iau cadetiaid môr.

Mae Christopher Palmer, o Aberystwyth, wedi bod yn gwirfoddoli ers 2010. Mae’n un da am saethu ac mae’n annog cadetiaid i gymryd rhan mewn cystadlaethau a gweithgareddau mewnol cadetiaid.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 28 March 2023