Cydnabyddiaeth frenhinol i ddau berson ifanc
Mae dau berson ifanc yn eu harddegau wedi cael eu penodi’n gadetiaid Arglwydd Raglaw De Morgannwg ar gyfer 2023.
Mae’r rôl sy’n para am flwyddyn yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda Mrs Meredith. Mae Mrs Meredith yn gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.
Oherwydd ei ddawn gerddorol, cafodd Kevin, sy’n mynychu Ysgol Gyfun Radyr yng Nghaerdydd, ei ddewis i berfformio yn nathliadau Pen-blwydd Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol yn 80 oed. Mae’n cael ei ddisgrifio fel cadét eithriadol ac mae’n gobeithio astudio cyfrifiadureg a seiber yn y brifysgol.
Mae Sean, o Lanilltud Fawr, yn dilyn ôl traed ei deulu, gyda’i fam, ei frawd, ei daid, ei hen daid, a’i ddau ewythr i gyd wedi bod yn aelodau o gadetiaid y môr yn y gorffennol. Bu ei frawd Josh hefyd yn Gadét Arglwydd Raglaw yn 2020. Yn dilyn ei gyfnod fel cadét, mae Sean wedi dysgu am beirianneg, llywio, a meteoroleg, ynghyd â chaiacio, cychod modur, rhwyfo a hwylio.
Bydd Sean a Kevin yn dilyn yn ôl traed y Cadét Arweiniol Crystal Neil o Gorfflu Cadetiaid Môr Penarth a’r Cadet Arweiniol Christopher Robinson o Lu Cadetiaid Cyfunol Fitzalan y dyfarnwyd Tystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw iddynt am fod yn gynrychiolwyr 2022.
Cafodd un person –Yr Uwchgapten Kelly Kitching o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg – ei chydnabod am ei gwasanaeth rhagorol a’i hymroddiad i ddyletswydd, a chafodd Dystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.
Ymunodd Kelly, o Sain Tathan, â Llu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg yn 2018, gan drosglwyddo o Gernyw a chafodd ei phenodi’n ddirprwy brif swyddog cwmni y flwyddyn ganlynol. Mae’n cael ei disgrifio fel unigolyn sydd ag ‘ymrwymiad anhunanol a brwdfrydedd diddiwedd.’ Mae wrth ei bodd yn gweld cadetiaid ifanc yn datblygu i fod ddinasyddion huawdl, synhwyrol a chadarnhaol.
Mae bron i 5,000 o Gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol ac elusennau ac yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.
Roedd bron i 80 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.