Stori newyddion

Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Gwynedd

Mae tri pherson ifanc yn eu harddegau o Wynedd wedi cael eu penodi’n Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023 mewn seremoni wobrwyo yng Ngogledd Cymru.

Lord-Lieutenant of Gwynedd Awards: Copyright: RFCA for Wales.

Cyflwynwyd bathodyn y penodiad, a fydd yn para blwyddyn, i’r Rhingyll Cadét Joshua Bracegirdle a’r Is-gorporal Cadét Elinor McGregor, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd, ynghyd â’r Rhingyll Cadét Luke Rees o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF.

Fe’u penodwyd gan Arglwydd Raglaw Gwynedd, Edmund Seymour Bailey Ysw CStJ FRAgS mewn seremoni yng Nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin, Caernarfon, ddydd Iau 4 Mai 2023.

Daeth bron i 80 o bobl i’r digwyddiad i ddathlu’r penodiadau newydd ac i gydnabod aelodau’r cymunedau milwyr wrth gefn a chadetiaid sydd wedi cyflawni cymaint.

Dewiswyd y tri ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Byddant yn dilyn ôl troed y Rhingyll Cadét Hedfan, Ysanne Duncan, o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolydd 2022.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Mae’r Rhingyll Cadét Joshua Bracegirdle, o Gaernarfon, y mae ei dad yn hyfforddwr oedolion, yn mynychu pob penwythnos hyfforddi a llawer o ddigwyddiadau sirol. Ei hoff weithgaredd yw saethu ac ef a enillodd am yr ergyd orau o 25 metr yng ngwersyll yr haf.

Daw’r Is-gorporal Cadét Elinor McGregor o deulu milwrol, gyda’i hen daid yn hedfan bomwyr Lancaster yn ystod y rhyfel. Mae’r ferch 17 oed, sy’n mwynhau cymorth cyntaf fel ei hoff weithgaredd yn y cadetiaid, yn gobeithio dod yn feddyg yn y Llynges Frenhinol.

Enillodd y Rhingyll Cadét Luke Rees, o Ynys Môn, ei adenydd Gleidio Arian ar ôl hedfan ar ei ben ei hun ym mis Medi 2022. Yn ogystal â’i frwdfrydedd dros hedfan, mae Luke yn mwynhau dysgu cyd-gadetiaid. Mae’n gobeithio dilyn gyrfa ym maes awyrennau a dod yn beilot cwmni awyrennau masnachol.

Cafodd pum oedolyn sy’n gwirfoddoli – Rhingyll y Faner Rhys Owen o 3ydd Bataliwn y Cymry Brenhinol; y Rhingyll Hyfforddwr Staff Kelly Murray-Jones o Lu Cadetiaid Clwyd a Gwynedd; yr Is-gapten Barry Chant, yr Is-swyddog Eleanor Maguire a’r Is-swyddog Mark Walton, i gyd o Gorfflu Cadetiaid Môr Caergybi – eu cydnabod hefyd am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd a dyfarnwyd iddynt Dystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.

Mae Rhys, o Ynys Môn, yn cael ei ddisgrifio fel ‘esiampl’ o Filwr Wrth Gefn, wedi neilltuo llawer iawn o’i amser rhydd dros bron i dri degawd i’r Fyddin Wrth Gefn – yn mentora ac yn hyfforddi milwyr di-ri sydd wedi pasio drwy gwmni D.

Dechreuodd Kelly, o Ynys Môn, fel gwirfoddolwr di-iwnifform cyn ymgymryd â rôl iwnifform a dod yn wirfoddolwr oedolion gwerthfawr iawn. Ar hyn o bryd mae hi’n rhedeg tair adran.

Mae Barry, o Ynys Môn, wedi bod yn rhan o deulu’r Cadetiaid Môr ers 20 mlynedd ac wedi cynnal ac adfywio Cadetiaid Môr Caergybi ar ôl cymryd yr awenau.

Disgrifir Eleanor, sef swyddog adrannol yr aelodau iau, fel person penderfynol, dibynadwy, gwybodus a phroffesiynol – rhywun sy’n gallu addasu i sefyllfaoedd cyfnewidiol ac sydd â synnwyr digrifwch gwych. Ymunodd â’r Cadetiaid Môr pan oedd yn 10 oed ac, fel oedolyn, daeth yn wirfoddolwr er mwyn trosglwyddo ei gwybodaeth i’r cadetiaid a’i dilynodd.

Bu Mark, a ymunodd â Chadetiaid Môr Caergybi ar ôl symud i Ynys Môn saith mlynedd yn ôl, yn gwasanaethu yn y Llynges Frenhinol lle bu’n Brif Is-swyddog yn y Gwasanaeth Llongau Tanfor, gan weithio fel arbenigwr trydanol ar longau tanfor. Ers ymuno â’r Cadetiaid Môr, mae Mark wedi dysgu peirianneg fecanyddol. Mae’n addysgu eraill yn y pwnc a bob amser yn barod i helpu gyda’r hyn sydd ei angen.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 9 May 2023