Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol yn cydnabod gwasanaeth rhagorol ac ymroddiad i ddyletswydd

Dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i ddau o bobl gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi ar gyfer Morgannwg Ganol, Yr Athro Peter Vaughan QPM CStJ.

Lord-Lieutenant of Mid Glam Awards. Copyright: RFCA for Wales.

Yn seremoni wobrwyo flynyddol yr Arglwydd Raglaw yng Nghanolfan Wrth Gefn y Fyddin ym Mhontypridd ddydd Iau 8 Chwefror 2024, cafodd Awyr-Lefftenant Matthew Hackett a’r Parchedig Bernard Jones, ill dau o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd.

Yn ogystal â’i ddyletswyddau fel pennaeth sgwadron yn Sgwadron 2077 Pontyclun, mae’r Awyr-Lefftenant Matthew Hackett yn aelod o dîm cyfryngau ehangach yr Adain, sydd wedi elwa’n fawr o’i sgiliau golygu teledu proffesiynol ar gyfer marchnata’r sefydliad.

Daeth y Parchedig Bernard Jones yn Gaplan Adain yn fuan ar ôl cael ei benodi’n offeiriad i Sgwadron 254 Aberdâr yn 2016. Ei uchelgais o’r cychwyn cyntaf oedd sicrhau bod y 22 uned yn Adain Gymreig Rhif 1 yn cael offeiriad – uchelgais y mae bron â’i chyflawni erbyn hyn.

Cafodd llwyddiannau pedwar cadét yr Arglwydd Raglaw hefyd eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y noson wobrwyo.

Roedd Prif Gadét Brandon Jones o Gorfflu Cadetiaid Môr y Rhondda; Prif Gadét Anna-Maria Petter o Gorfflu Cadetiaid Môr Porthcawl, Swyddog Gwarant Cadetiaid Scott Jones o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol; Swyddog Gwarant Cadetiaid Emily Richards o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid y Llu Awyr Brenhinol, wedi rhoi amlinelliad i’r gynulleidfa o’u cyfnod yn y cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf.

Dewiswyd y pedwar ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw, sy’n para tan fis Medi, yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin. Mae’r digwyddiadau hyn yn cynnwys digwyddiadau Cofio, gorymdeithiau ac ymweliadau Brenhinol.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sy’n sifiliaid, a rheini’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Roedd tua 60 o bobl yn bresennol yn y seremoni wobrwyo a gafodd ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers 100 mlynedd a mwy.

Cyhoeddwyd ar 9 February 2024