Stori newyddion

Saith o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yng ngorllewin Morgannwg

Mae ymdrechion saith o bobl o bob rhan o orllewin Morgannwg, gan gynnwys chwe chadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of West Glamorgan Awards: Copyright: RFCA for Wales

Mae’r Sarsiant Lliw y Cadetiaid, Madison Chaplin o Lu Cadetiaid y Fyddin Gwent a Phowys; Sarsiant Hedfan y Cadetiaid, Ioan Osbourne o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid y Llu Awyr; y Corporal Gadét, MacKenzie Bryan o Lu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; a’r Cadet Abl, Jessica Flynn o Gorfflu Cadetiaid Môr Abertawe, wedi cael eu penodi’n gadetiaid Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg ar gyfer 2023.

Roedd Arglwydd Raglaw Gorllewin Morgannwg, Mrs Louise Fleet YH, wedi penodi’r pedwar mewn seremoni wobrwyo yn John Chard VC House, Abertawe ddydd Iau 20 Ebrill.

Mae’r rôl yn para am flwyddyn ac yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw mewn dyletswyddau swyddogol fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Daeth oddeutu 80 o bobl i’r digwyddiad i nodi’r penodiadau newydd. Nawr, bydd gan y cadetiaid gyfrifoldeb i gynrychioli eu cyfoedion a’u sefydliadau mewn achlysuron lleol a chenedlaethol.

Ymunodd Madison, o Gastell-nedd, â’r cadetiaid cyn gynted ag y gallai – gan ddilyn ôl troed gweddill yr aelodau o’r teulu a ymunodd â Llu Cadetiaid y Fyddin. Fel yr aelod ieuengaf o’r teulu i ymuno â Llu Cadetiaid y Fyddin, bu’n cymryd rhan mewn gorymdaith yn Gurnos ac yn aelod o Fand a Drymiau’r sir.

Ymunodd Ioan, o Abertawe, â Sgwadron 360 (Llwchwr) yn 2019, ac mae wedi ymgymryd â llawer o ddyletswyddau yn y sgwadron a’r adain. Mae’n mwynhau pob agwedd ar fod yn gadét, boed hynny’n hyfforddi’r cadetiaid iau, bod yn gyfrifol am fand y sgwadron, neu hedfan.

Mae MacKenzie, o Gastell-nedd, yn gobeithio ymuno â’r Awyrlu Brenhinol a bod yn beilot. Mae’n un o nifer fach o gadetiaid a ddewiswyd i gynrychioli’r Llu Cadetiaid y Fyddin, ac i fod yn rhan o’r osgordd er anrhydedd yn ystod ymweliad Brenhinol y Brenin Charles 111 a’r Frenhines Gydweddog â Chastell Caerdydd ym mis Medi 2022.

Ymunodd Jessica, o Abertawe, â’r cadetiaid yn 12 oed. Mae’n cael ei disgrifio fel unigolyn brwdfrydig ym mhopeth y mae’n ei wneud, ac mae’n gobeithio bod yn aelod o staff pan fydd yn 18 oed.

Bydd y pedwar yn dilyn ôl troed y Prif Gadetiaid Harri Oglesby o Gorfflu Cadetiaid Môr Castell-nedd, a’r Swyddog Gwarant Cadetiaid Victoria Symes o Adain Gymreig Rhif 3 Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol – a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolwyr yn 2022.

Yn y seremoni, a oedd yn cydnabod y rheini sydd wedi cyflawni’n uchel ymysg y cadetiaid a’r lluoedd wrth gefn, cafodd un oedolyn - Sarsiant Caroline Fennessy o Gatrawd 157 (Cymreig) y Corfflu Logisteg Brenhinol - ei chydnabod am ei gwasanaeth rhagorol a’i hymroddiad i ddyletswydd, a dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw iddi.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers 100 mlynedd a mwy.

Cyhoeddwyd ar 28 April 2023