Stori newyddion

Dathlu wrth i 17 o enillwyr Gwobr Arian ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn gael eu cyhoeddi heddiw yng Nghymru

Llongyfarchiadau i’r 17 sefydliad yng Nghymru – ymhlith mwy na 300 yn genedlaethol – sydd wedi ennill Gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr (ERS) y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer 2025.

Mae cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog trwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle yn cael eu cydnabod heddiw gyda Gwobr Arian fawreddog ERS y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Bydd yr 17 enillydd o Gymru yn cael eu gwahodd i dderbyn eu gwobr mewn seremoni arbennig yn Adeilad y Pierhead ym Mae Caerdydd ar 17 Gorffennaf, lle byddant yn cael eu hanrhydeddu gyda Salíwt Ynnau Frenhinol.

Llongyfarchiadau i:

  • Active4Blood
  • Andy Swan Driver Services Ltd
  • Bulldogs Boxing and Community Activities
  • Cobra Life Martial Arts Ltd
  • Tîm Meddygol Digwyddiadau - Saltney Ltd
  • Henry Williams and Son (Roads) Ltd
  • Platts Group
  • Riverside Retreat Veterans Camp CIC
  • Shadow Response Security & Medical Ltd
  • Ymddiriedolaeth Amgueddfa Ffiwsilwyr Brenhinol Cymru
  • Business in Focus Limited
  • IG Doors Limited
  • MPH Construction
  • Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
  • R&M Williams Limited
  • V3 Group (UK) Ltd
  • Coleg Penybont

Dywedodd yr Uwchfrigadydd Jamie Gordon, Prif Weithredwr Cyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid:

Mae’r enillwyr Gwobr Arian hyn yn gynghreiriaid dibynadwy i Amddiffyn. Nid dim ond siarad gwag yw eu cefnogaeth - maen nhw’n dangos eu cefnogaeth, bob dydd, trwy bolisïau hyblyg, eiriolaeth weladwy, ac ymrwymiad hirdymor i’r rhai sy’n gwasanaethu. Mae hyn yn golygu mwy na bwriadau da; mae’n golygu cefnogaeth ymarferol a pharhaus sy’n cryfhau ein gwytnwch cenedlaethol.  Mae’n braf iawn eu bod wedi cael eu cydnabod am bopeth maen nhw’n ei wneud i’n Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr a Chadetiaid.

Dywedodd Gareth Jones, Rheolwr Prosiect Cyn-filwyr, Bulldogs Boxing and Community Activities:

Mae Bulldogs BCA yn falch dros ben ac yn teimlo ei bod hi’n anrhydedd fawr cael y Wobr Arian fel rhan o Gynllun Cydnabod Cyflogwyr Cyfamod y Lluoedd Arfog. Mae’r gydnabyddiaeth hon yn adlewyrchu ein hymrwymiad diwyro i gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, gan gynnwys cyn-filwyr, milwyr wrth gefn, a’u teuluoedd.

Rydyn ni wrth ein bodd bod ein hymdrechion i ddarparu cyfleoedd, dealltwriaeth a chefnogaeth ymarferol wedi cael eu cydnabod ar lefel mor fawreddog. Mae’r wobr hon nid yn unig yn tynnu sylw at y gwerthoedd sydd wrth wraidd Bulldogs BCA ond hefyd yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i hyrwyddo’r rhai sydd wedi gwasanaethu ein gwlad gydag ymroddiad a pharch.

Er mwyn ennill Gwobr Arian, rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o’u polisïau recriwtio. Rhaid iddynt hefyd sicrhau bod eu gweithlu yn ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl Amddiffyn ar gyfer Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Oedolion sy’n Wirfoddolwyr gyda Lluoedd Cadetiaid a phriod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

O dan y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, mae cyflogwyr yn cefnogi personél Amddiffyn ac yn annog eraill i wneud yr un peth. Mae gan y cynllun dair lefel, Efydd, Arian ac Aur ar gyfer sefydliadau sy’n addo, arddangos ac eirioli cefnogaeth i bersonél Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Mr Craig Middle, DRM y Weinyddiaeth Amddiffyn ar gyfer De Cymru:

Mae ennill gwobr Arian ERS wedi bod yn daith i’n holl enillwyr haeddiannol. Mae’r daith hon wedi cynnwys archwilio’r hyn y gall pob agwedd ar y gymuned Amddiffyn ei wneud i’w timau. Llongyfarchiadau mawr i holl enillwyr eleni, edrychwn ymlaen at ddathlu gyda nhw yn bersonol fis nesaf.

Ddarganfod mwy am y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr a sut gall eich busnes elwa ar gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog:

Cyswllt:

Craig Middle, Rheolwr Perthynas Amddiffyn (DRM) De Cymru

Tony Fish, Rheolwr Perthynas Amddiffyn (DRM) Gogledd Cymru

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 17 Mehefin 2025