Gwobrau Tystysgrifau Teilyngdod Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi 2026 i 2027
Mae enwebiadau bellach yn cael eu derbyn ar gyfer gwobrau Tystysgrif Teilyngdod Arglwydd Raglaw Ei Mawrhydi 2026 a 2027.
Welsh Lord-Lieutenant logo. Copyright: RFCA for Wales.
Mae’r gwobrau’n cydnabod gwasanaeth eithriadol milwyr wrth gefn a gwirfoddolwyr sy’n oedolion yn y cadetiaid ac fe’u bwriedir i ategu’r anrhydeddau a roddir gan y Brenin yn y Flwyddyn Newydd a’r Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd.
Bydd yr Arglwydd Raglawiaid yn dosbarthu’r gwobrau hyn mewn 8 seremoni ym mhob un o siroedd wedi’u cadw Cymru ar y dyddiadau canlynol:
2026
- Powys - 15 Ionawr – Gwesty’r Elephant and Castle, Y Drenewydd
- Morgannwg Ganol - 29 Ionawr – Canolfan y Fyddin Wrth Gefn Pontypridd
- De Morgannwg - 19 Chwefror – HMS CAMBRIA, Caerdydd
- Gwynedd - 5 Mawrth – Canolfan y Fyddin Wrth Gefn Caernarfon
2027
- Dyfed - 14 Ionawr
- Gwent - 28 Ionawr
- Gorllewin Morgannwg - 18 Chwefror
- Clwyd - 4 Mawrth
Dylid cyflwyno enwebiadau gan Swyddogion Rheoli Unedau Wrth Gefn, Swyddogion Ardal y Corfflu Cadetiaid Môr, Cadlywyddion Sirol Lluoedd Cadetiaid y Fyddin, Asgell-Gomanderiaid Cadetiaid Awyr yr RAF a Chadlywyddion y Llu Cadetiaid Cyfun.
Gellir enwebu’r bobl ganlynol am wobrau:
- Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Wrth Gefn
- Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion sy’n gwasanaethu gyda’r Cadetiaid
- Gwirfoddolwyr Sifil sy’n gwasanaethu gyda’r Cadetiaid
- Gweithwyr sifil sy’n cefnogi’r Lluoedd Wrth Gefn/Cadetiaid
- Milwyr rheolaidd sy’n gwasanaethu gyda’r Lluoedd Cadetiaid
- Aelodau a staff y Gymdeithas Lluoedd Arfog Wrth Gefn a Chadetiaid
Mae’r dyddiad cau ar gyfer argymhellion ar gyfer seremonïau gwobrwyo 2026 fel a ganlyn:
- Powys - Dydd Llun 20 Hydref 2025
- Morgannwg Ganol - Dydd Llun 27 Hydref 2025
- De Morgannwg - Dydd Llun 3 Tachwedd 2025
- Gwynedd - Dydd Llun 10 Tachwedd 2025
I enwebu unigolyn ar gyfer Tystysgrifau Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw, llenwch a chyflwynwch y Ffurflen Tystysgrif Teilyngdod.
Updates to this page
-
Added nomination deadlines and locations for the 2026 awards, and confirmed dates for the 2027 awards.
-
Updated nominations deadline for the 2025 award ceremonies.
-
Added translation