Stori newyddion

Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer yr Ystad Wirfoddol i’w darparu gan gontractau Ystad Adeiledig y weinyddiaeth amddiffyn

Yn dilyn cyflawni Astudiaeth Gwerth am Arian yr Ystad Wirfoddol, cytunwyd y bydd gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer yr Ystad Wirfoddol yn cael eu darparu yn y dyfodol gan gontractau Ystad Adeiledig y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Mae’r contractau hyn yn cynnwys gwaith cynnal a chadw allweddol, atgyweiriadau, gwasanaethu a Rheoli Cyfleusterau Caled, ledled yr Ystad Wirfoddol i alluogi Milwyr wrth Gefn a Chadetiaid i barhau i weithio a hyfforddi.

Lansiwyd Astudiaeth Gwerth am Arian yr Ystad Wirfoddol ar 22 Hydref i benderfynu a fyddai’n fwy cost-effeithiol bodloni gofynion Rheoli Cyfleusterau Caled Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid drwy gyflenwyr Ystad Adeiledig y  Weinyddiaeth Amddiffyn na thrwy’r trefniadau presennol.

Ar ôl ymgynghori ag ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys y 13 Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid, Cyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid, y Gwasanaethau unigol, cwsmeriaid Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn a’r Weinyddiaeth Amddiffyn ehangach, argymhellodd yr Astudiaeth y dylid mabwysiadu trefniadau cytundebol presennol Ystad Adeiledig y Weinyddiaeth Amddiffyn i ddarparu Gwasanaethau Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer yr Ystad Wirfoddol.

Bydd mabwysiadu’r trefniadau Ystad Adeiledig yn rhoi cyfle i drawsnewid y dull o gynnal yr Ystad Wirfoddol, ar yr un pryd â sicrhau cydymffurfiaeth statudol a gorfodol a darparu lle mwy diogel i Luoedd Wrth Gefn a Chadetiaid weithio a hyfforddi. Mae hefyd yn caniatáu aliniad strategol yr Ystad Wirfoddol gydag ystad ehangach y Weinyddiaeth Amddiffyn, gan greu ethos ‘un Ystad Amddiffyn’. Mae buddion contractau ystad adeiledig Gwasanaethau Seilwaith Amddiffyn y Dyfodol yn cynnwys:

  • symud o’r dull ‘trwsio ar fethiant’ presennol i gynnal a chadw ataliol a phenderfyniadau buddsoddi ar sail tystiolaeth
  • mabwysiadu safonau cynnal a chadw arfer gorau’r diwydiant
  • gwelliant mewn cydymffurfiaeth Iechyd a Diogelwc
  • lefel uwch o fuddsoddiad mewn cynnal a chadw’r Ystad Wirfoddol
  • gwell Technoleg Gwybodaeth i lywio a rheoli Gwaith Rheoli Cyfleusterau ar yr Ystad Wirfoddol i sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi yn cael eu llywio fwy gan ddata

Bydd y 13 Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid yn alinio â’r pedwar rhanbarth Ystad Adeiledig, ac mae’r dyddiadau cychwyn ar gyfer y trefniadau newydd fel a ganlyn:

RFCA Rhanbarth Ystad Adeiledig Cyflenwr Ystad Adeiledig Dyddiad cychwyn
Ucheldir yr Alban, Iseldir yr Alban, Gogledd Iwerddon Yr Alban a Gogledd Iwerddon (SNI) Mitie 1 Awst 2024
Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr De-ddwyrain (SE) VINCI 1 Awst 2024
Wessex De-orllewin Lloegr (SW) VIVO (Cyd-fenter rhwng Serco ac EQUANS) 1 Awst 2024
Dwyrain Anglia, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gogledd Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Cymru, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Swydd Efrog a’r Humber Canolbarth (CEN) VIVO 1 Awst 2024

Cytunwyd y dylai’r Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid a Chyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid gadw’r cyfrifoldeb am reoli’r berthynas gytundebol ar gyfer darparu gwasanaeth Rheoli Cyfleusterau Caled yn y dyfodol ar draws yr Ystad Wirfoddol a pharhau i weithredu fel cynghorydd ystadau ar ran y Gwasanaethau unigol.

Bydd strwythurau sefydliadol diwygiedig ar gyfer timau ystadau’r Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid a Chyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid yn cael eu rhoi ar waith i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cael eu rheoli’n effeithiol. Nod y strwythurau hyn yw gwella cyfraddau denu a chadw staff ystadau â chymwysterau proffesiynol.

Yn ystod y broses o symud bydd y DIO, Partneriaid yn y Diwydiant a Chymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid yn cydweithio i sicrhau bod adnoddau digonol a phriodol ar gael i gyflawni’r holl weithgareddau gofynnol i sicrhau darpariaeth lwyddiannus o dan y trefniadau newydd. Yn ogystal, bydd pecyn hyfforddi cynhwysfawr yn cael ei gyflwyno, gan gynnwys i ddefnyddwyr ystadau, er mwyn sicrhau bod rolau a chyfrifoldebau’r dyfodol yn cael eu deall yn llawn.

Meddai’r Uwchfrigadydd Jamie Gordon CB CBE, Prif Weithredwr Cyngor y Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid:

Rwy’n gweld y bydd cael y cyflenwyr Ystad Adeiledig i Reoli Cyfleusterau Caled ar yr Ystad Wirfoddol yn rhoi cyfle i’r Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid drawsnewid y dull o sicrhau cydymffurfiaeth statudol a gorfodol, a darparu lle diogel i Filwyr wrth Gefn a Chadetiaid weithio a hyfforddi.

Mae hefyd yn sicrhau lle canolog i’r Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid wrth gynnal a datblygu’r Ystad Wirfoddol. Dim ond un o’r newidiadau y mae’r Cymdeithasau Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid wedi’u gweithredu i ddarparu eu cefnogaeth hanfodol i’r Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid dros y 115 mlynedd diwethaf yw hwn.

Meddai James Crosfield, Uwch Berchennog Cyfrifol Astudiaeth Gwerth am Arian yr Ystad Wirfoddol:

Rwy’n falch iawn y bydd contractau Ystad Adeiledig y Weinyddiaeth Amddiffyn bellach yn cael eu mabwysiadu gan yr Ystad Wirfoddol i ddarparu Rheoli Cyfleusterau Caled ar gyfer Cymdeithasau’r Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid.

Mae’r cam hwn yn cefnogi aliniad strategol yr Ystad Wirfoddol gydag Ystad ehangach y Weinyddiaeth Amddiffyn gan greu ‘ethos amddiffyn fel un’ ac mae’n cynnig cyfle i drawsnewid y dull o gynnal yr Ystad Wirfoddol. Bydd y trefniadau newydd hyn yn dechrau nawr yn dilyn y dull Parodrwydd Gweithredol arfer gorau a ddefnyddiwyd i gyflwyno’r Contractau Ystad Adeiledig yn llwyddiannus.

Cyhoeddwyd ar 12 December 2023