Stori newyddion

Clwb Busnes Caerdydd yn llofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog

Yn ei ddigwyddiad diweddaraf, llofnododd Clwb Busnes Caerdydd Gyfamod y Lluoedd Arfog ochr yn ochr â Bws Caerdydd.

Cardiff Business Club signs Armed Forces Covenant. Copyright: Morgan James Photography.

Y siaradwr oedd yr Uwchfrigadydd Duncan G Forbes, Cyfarwyddwr Strategaeth a Pholisi’r Llynges Frenhinol a Phennaeth Cynorthwyol Staff y Llynges.

Wedi ei noddi gan Gymdeithas Cadetiaid Lluoedd Wrth Gefn Cymru, mi wnaeth yr Uwchfrigadydd annerch y Clwb, gan gyfeirio at ei hen gapten a’i fentor, y Brigadydd Jock Fraser, wrth iddo ymddeol yr haf hwn, cyn tynnu sylw’n briodol at thema etifeddiaeth ei ddarlith.

Gan addo siarad heb agenda na sbin, ond gan ddefnyddio’r achlysur i adrodd straeon, meithrin cysylltiadau a gorffwys, dechreuodd yr Uwchfrigadydd drwy drafod cyd-destun strategol eang gwaith presennol y Llynges.

Aeth yr Uwchfrigadydd ymlaen wedyn i edrych ymlaen, gan dynnu sylw at bwysigrwydd gwasanaeth pobl ifanc a’r hyder sydd ganddo ynddynt, ond gan gydnabod bod angen newid hen systemau i fod yn fwy beiddgar, yn fwy creadigol, ac i gymryd mwy o risgiau. Fodd bynnag, beth bynnag maent yn ei wneud i newid, rhaid i’r dull gynnal y prif sbardun o wasanaethu’r genedl, gan mai ar hynny yr adeiladwyd y Llynges.

Wrth sôn am y Llynges yng Nghymru, dywedodd eu bod yn recriwtio dwywaith yn fwy o forwyr a llongwyr o Gymru na’r boblogaeth ehangach, a bod y recriwtiaid hynny’n gwasanaethu am gyfnod hirach na’r cyfartaledd. Yna, mae bron pob un yn dychwelyd i Gymru ar ôl gwasanaethu, gyda’r nodweddion cywir i gefnogi twf busnes. Soniodd am HMS Caerdydd a fydd yn gwbl weithredol yn ddiweddarach yn y degawd hwn, a buddsoddiad y Weinyddiaeth Amddiffyn yng Nghaerdydd a ledled Cymru.

Is-gyrnol (wedi ymddeol) Craig Hampton-Stone, Cyfarwyddwr Bws Caerdydd, roddodd y diolchiadau, cyn iddo lofnodi Cyfamod y Lluoedd Arfog gyda’r Uwchfrigadydd Duncan G Forbes a Phil Jardine, Cadeirydd Clwb Busnes Caerdydd.

Mae’r Cyfamod yn addewid gwirfoddol a wneir gan fusnesau, a’i fwriad yw rhoi modd i sefydliadau fynegi eu cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog ac ymrwymo i ffyrdd y gallant ddarparu’r cymorth hwnnw. Rhaid i bob Cyfamod gael ei gymeradwyo a’i gofrestru gyda Thîm Cyfamod y Lluoedd Arfog yn y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Dywedodd Phil:

Rydyn ni mor falch o fod wedi llofnodi’r cyfamod, yn enwedig ochr yn ochr â gwestai mor uchel ei fri â’r Uwchfrigadydd Duncan G Forbes. Roedd ffurfioli ein cydnabyddiaeth a’n gwerthfawrogiad o’r lluoedd arfog yn benderfyniad hawdd, ac rydym yn falch o fod wedi cymryd y cam hwn ar y cyd â Bws Caerdydd.

Cyhoeddwyd ar 7 May 2024