Stori newyddion

Arglwydd Raglaw Clwyd Ei Fawrhydi yn cydnabod deuddeg o bobl

Mae cynrychiolydd y Brenin dros Glwyd wedi cydnabod ymdrechion deuddeg o bobl o bob rhan o’r sir.

Lord-Lieutenant of Clwyd Awards. Copyright: RFCA for Wales.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i chwech o bobl gan Henry George Fetherstonhaugh OBE FRAgS, yn y seremoni ym Marics Hightown, Wrecsam ar ddydd Iau 21 Mawrth.

Y rhain oedd Graham Oliver, Is-gomander o HMS Eaglet; Gary Johnston, Swyddog Gwarant 2 o HMS Eaglet; Edward Ditchfield, Llongwr Abl 2 o HMS Eaglet; Paul Burrows, Prif Hyfforddwr Catrodol o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; Charmaine Lloyd, Uwch Gapten o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd; a Stephen Davies, Sarjant Hyfforddwr Staff o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

Cafodd llwyddiannau tri cadet yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad, lle’r oedd bron i 80 o bobl yn bresennol.

Fe wnaeth Owen Brumby, Sarjant Gadét o Lu Cadetiaid Cyfun Ysgol Santes Ffraid; Lewis Hughes,  Swyddog Gwarant Cadetiaid o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF; ac Alun Hughes, Sarjant Gadét Hedfan o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, roi braslun o’u cyfnod yn y cadetiaid i’r gynulleidfa, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rolau dros y 12 mis diwethaf.

Mae rôl y cadetiaid hyn yn para tan fis Medi ac mae’n cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw, fel digwyddiadau Coffa, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dewiswyd y tri ar gyfer rôl anrhydeddus cadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Hefyd yn ystod y noson cyflwynwyd tair gwobr hir-wasanaeth i aelodau o Lu Cadetiaid y Fyddin.

Dyfarnwyd Medal Lluoedd y Cadetiaid i’r Is-swyddog Oedolion Bradley Burn a’r Hyfforddwr Rhingyll Staff Gareth Griffith, ill dau o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd. A chyflwynwyd y 5ed Clasbyn i Fedal Lluoedd y Cadetiaid i Gapten Merv Jones, hefyd o Lu Cadetiaid y Fyddin Clwyd a Gwynedd.

 Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru yn ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gydag elusennau a chymunedau lleol, yn ogystal â chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflawni gan 1,850 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifiliad, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y digwyddiad gwobrwyo ei drefnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 26 March 2024