Stori newyddion

Deuddeg o sefydliadau Cymreig yn cipio’r Aur

Mae deuddeg cyflogwr wedi derbyn Gwobr Aur fawreddog y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr mewn seremoni o fri yng Nghaerdydd.

ERS Gold Award winners. Copyright: RFCA for Wales.

Cafodd y 12 cyflogwr o bob cwr o Gymru eu cydnabod am y gefnogaeth ragorol maen nhw’n ei rhoi i Gymuned y Lluoedd Arfog, mewn seremoni wobrwyo a gynhaliwyd yn HMS CAMBRIA, Bae Caerdydd ar 25 Medi.

Dechreuodd y noson wobrwyo fawreddog gyda derbyniad diodydd, gyda’r gwesteion yn cael eu diddanu gan Cerys Rees, telynores Catrawd y Cymry Brenhinol. Cafodd y gwesteion eu diddanu hefyd gan Fand Catrodol (a Chorfflu Drymiau) y Cymry Brenhinol.

LCyflwynydd y noson oedd Sian Lloyd, gyda’r croeso yn cael ei estyn gan James Evans AS, cadeirydd Grŵp Trawsbleidiol y Senedd ar y Lluoedd Arfog a’r Cadetiaid. Traddodwyd yr anerchiad agoriadol gan y Brigadydd Russ Wardle OBE DL, cadeirydd y Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.

Dyma’r enillwyr o Gymru:

  • Basel Cottage Holidays
  • Cyngor Sir Caerfyrddin
  • Cyngor Sir Ceredigion
  • Dŵr Cymru Welsh Water
  • Edwin C. Farrall (Transport) Ltd
  • Gatewen Training Services Limited
  • Ysgol Rydal Pen-rhos
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • SudoCyber Limited
  • The Mentor Ring Limited
  • Siambr Fasnach Gorllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru
  • Wurkplace Limited

Cyflwynwyd y gwobrau ar y cyd gan y Comodor Tris Kirkwood OBE ADC, Comander Rhanbarthol y Llynges Cymru, Gorllewin Lloegr ac Ynysoedd y Sianel, y Brigadydd Mark Davis CBE, Cadlywydd  Brigâd 160 (Cymreig), Pennaeth y Fyddin yng Nghymru a Swyddog Awyr Cymru, y Comodor Awyr Rob Woods OBE.

Mae’r Cynllun Cydnabod Cyflogwyr, a ddyfernir gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, yn cydnabod sefydliadau sy’n cyflogi ac yn cefnogi’r rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog, cyn-filwyr a’u teuluoedd. Ledled y DU, mae 202 o sefydliadau wedi derbyn y wobr Aur eleni.

Er mwyn ennill Aur, rhaid i gyflogwyr:

  • darparu o leiaf 10 diwrnod o absenoldeb â thâl ychwanegol i filwyr wrth gefn
  • gweithredu polisïau AD ar gyfer cyn-filwyr a Gwirfoddolwyr Oedolion Llu y Cadetiaid
  • eirioli dros Amddiffyn ar draws eu rhwydweithiau a’u sectorau
  • dangos ymrwymiad parhaus ymhell y tu hwnt i’r gofynion gofynnol

Mae’r sefydliadau hyn yn arwain trwy esiampl, gan helpu i newid agweddau cenedlaethol a chodi safonau ar draws eu sectorau.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Medi 2025