Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Ei Fawrhydi yn cydnabod gwasanaeth eithriadol ac ymroddiad i ddyletswydd
Mae tri pherson wedi derbyn Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw gan Arglwydd Raglaw Morgannwg Ganol Ei Fawrhydi, yr Athro Peter Vaughan CBE QPM CStJ.
The Lord-Lieutenant of Mid Glamorgan stood in a group with his Lord-Lieutenant Cadets, recipients of a Certificate of Merit and guest speaker. Copyright: RFCA for Wales
Cyflwynwyd eu gwobr i’r tri - yr Is-swyddog Matthew Maguire, yr Is-swyddog Rhys Davies o Gorfflu Cadetiaid Môr Rhondda a’r Swyddog Peilot Max Parry o Gadetiaid Awyr Rhif 3 Adain Cymru yr Awyrlu Brenhinol i gydnabod eu gwasanaeth eithriadol a’u hymroddiad i ddyletswydd, yn seremoni wobrwyo’r Arglwydd Raglaw a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Fyddin Wrth Gefn, Pontypridd ddydd Iau, 29 Ionawr 2026.
Cafodd cyflawniadau pedwar cadet yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu hefyd yn ystod y noson wobrwyo.
Bu’r Cadetiaid Arweiniol Emma Maguire o Gorfflu Cadetiaid Môr y Rhondda; Corporal y Cadetiaid Cayce Ayers o Fintai Pen-y-bont ar Ogwr, Llu Cadetiaid y Fyddin Dyfed a Morgannwg; Swyddog Gwarant y Cadetiaid Neve Jacobs o Sgwadron 2077 (Pont-y-clun), Rhif 1 Adain Cymru Cadetiaid Awyr yr Awyrlu Brenhinol; ac Awyr-ringyll y Cadetiaid Claudia-Jean Garton o Sgwadron 1092 (Pen-y-bont ar Ogwr), Rhif 3 Adain Cymru yr Awyrlu Brenhinol, yn sôn am eu hamser fel cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf.
Dewiswyd y pedwar ar gyfer rôl fawreddog cadet i’r Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a chan y Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru.
Mae gwaith cadet yr Arglwydd Raglaw, sy’n para tan fis Medi, yn cynnwys mynychu, yng nghwmni’r Arglwydd Raglaw yn ei rôl fel cynrychiolydd y Brenin, nifer o ddigwyddiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau’r Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.
Maen nhw’n dilyn ôl troed cadetiaid y llynedd, gan gynnwys cyn-Swyddog Gwarant y Cadetiaid Cody Evans, sydd bellach yn Hyfforddwr Sifil gydag Adain Cymru Rhif 3 yr Awyrlu Brenhinol ac yn Llysgennad Ieuenctid gyda Gwobr Dug Caeredin. I gychwyn dathliadau pen-blwydd y cynllun yn 70 oed, bu Cody yn sôn am ei siwrne fel rhan o Wobr Dug Caeredin gyda’r gynulleidfa.
Mae 4,500 a mwy o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a thrwy gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,850 o oedolion sy’n gwirfoddoli fel hyfforddwyr a chan gynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser hamdden gyda’r nos ac ar benwythnosau.
Trefnwyd y seremoni wobrwyo gan Gymdeithas Lluoedd wrth Gefn a Chadetiaid dros Gymru – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers dros 100 mlynedd.