Stori newyddion

Deg o bobl yn cael eu cydnabod gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi Dyfed

Mae ymdrechion deg o bobl o bob cwr o Ddyfed, gan gynnwys dau gadét ifanc, wedi cael eu cydnabod gan gynrychiolydd y Brenin dros y sir.

Lord-Lieutenant of Dyfed Awards. Copyright: RFCA for Wales.

I gydnabod eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i ddyletswydd, dyfarnwyd Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw i bump o bobl gan Miss Sara Edwards, yn y seremoni yng Ngwesty’r Ivy Bush, Caerfyrddin, ddydd Iau 7 Mawrth.

Y pump oedd Colin Sharp a Hilary Anderson, ill dau o Gorfflu Cadetiaid Môr Aberdaugleddau; Is-lefftenant (SCC) Lucy Killick RNR o Gorfflu Cadetiaid Môr Llanelli; Hyfforddwr Rhingyll Staff Colleen Chinnery a Hyfforddwr Rhingyll Staff Kirsty Richards o Lu Cadetiaid Byddin Dyfed a Morgannwg

Yn ystod y noson, cyflwynwyd tair gwobr am wasanaeth hir a gwasanaeth gwirfoddol i aelodau’r Corfflu Cadetiaid Môr hefyd.

Cafodd cyflawniadau dau gadét yr Arglwydd Raglaw eu cydnabod a’u dathlu yn ystod y digwyddiad a fynychwyd gan 80 a mwy o bobl.

Bu Is-swyddog Gadét Annis Henton o Gorfflu Cadetiaid Môr Abergwaun ac Is-swyddog Gadét Luke Coburn o Gorfflu Cadetiaid Môr Dinbych-y-pysgod yn sôn wrth y gynulleidfa am eu hamser yn y cadetiaid, gan gynnwys uchafbwyntiau eu rôl dros y 12 mis diwethaf.

Mae’r rôl, sy’n parhau tan fis Medi, yn cynnwys mynychu nifer o ymrwymiadau swyddogol gyda’r Arglwydd Raglaw fel digwyddiadau Sul y Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Dewiswyd y ddau i fod yn gadetiaid yr Arglwydd Raglaw, rôl mawr ei bri, ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr y grŵp cadetiaid a Chymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru.

Dyma’r tair gwobr am wasanaeth hir a gwasanaeth gwirfoddol a gyflwynwyd i aelodau Corfflu Cadetiaid y Môr:

Is-gomander (SCC) Peter Killick RNR o Gadetiaid Môr Llanelli a dderbyniodd y 5ed Bwcl i Fedal Lluoedd y Cadetiaid; Mrs Valerie Callaghan o Gadetiaid Môr Abergwaun a dderbyniodd y Wobr Aur i Gydnabod Gwasanaeth Gwirfoddolwyr, a dyfarnwyd Gwobr Efydd i Gydnabod Gwasanaeth Gwirfoddolwyr i Mr Brian Murphy o Gadetiaid Môr Abergwaun.

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau drwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol.

Mae’r maes llafur cadetiaid yn cael ei ddarparu gan 1,850 o oedolion sy’n gwirfoddoli fel Hyfforddwyr a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser hamdden yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Trefnwyd y digwyddiad gwobrwyo gan Gymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid (RFCA) Cymru - sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog ers 100 a mwy o flynyddoedd.

Cyhoeddwyd ar 8 March 2024