Stori newyddion

Therapi ceffylau yn ganolog i ganolfan gymunedol arobryn dan arweiniad cyn-filwyr yng Nghwm Rhondda

Therapi ceffylau yn ganolog i ganolfan gymunedol arobryn dan arweiniad cyn-filwyr yng Nghwm Rhondda

Paul Bromwell standing with a horse. Copyright: RFCA for Wales

Tua 20 mlynedd yn ôl sefydlwyd yr elusen Valley Veterans gan gyn-filwr a fu’n ymladd yn Rhyfel y Falklands, Paul Bromwell, i ddechrau fel grŵp cymorth anffurfiol i gyn-filwyr sy’n delio ag anhwylder straen ôl-drawmatig (PTSD).

Ar ôl gwasanaethu yn y Gwarchodlu Cymreig yn ystod Gwrthdaro y Falklands 40 mlynedd yn ôl, roedd Paul yn gwybod yn iawn am effeithiau dychwelyd i fywyd sifil ar ôl gadael y Lluoedd Arfog. Roedd ef ei hun yn dioddef o PTSD o ganlyniad i’w amser yn Ne yr Iwerydd ac ar ôl dychwelyd adref i Gwm Rhondda, ac yn cael trafferth i gael y gefnogaeth yr oedd ei angen arno ar y dechrau.

Y frwydr honno a’i arweiniodd i sefydlu grŵp cymorth anffurfiol ar gyfer dioddefwyr PTSD sydd bellach wedi tyfu i fod yn ganolfan gymunedol fywiog dan arweiniad cyn-filwyr gyda mwy na 140 o gyfranogwyr gweithredol.

 Yn y diweddaraf o gyfres o wobrau, enillodd Paul y categori Hyrwyddwr Cymunedol yn ddiweddar yng Ngwobrau Dewi Sant – gwobrau cenedlaethol Cymru sy’n cydnabod cyflawniadau eithriadol gan ddinasyddion Cymru. Cyflwynwyd y wobr gan y Prif Weinidog Eluned Morgan mewn seremoni yn y Senedd.

Roedd y wobr yn cydnabod sut mae Valley Veterans yn darparu cymorth wythnosol i gyn-filwyr agored i niwed sydd o fudd i’w hiechyd meddwl a chorfforol. Am y 15 mlynedd cyntaf ariannodd Paul y grŵp yn bersonol trwy ail-forgeisio ei gartref i brynu tir i adeiladu stablau ar gyfer gwasanaethau therapi ceffylau.

Dros y blynyddoedd mae’r gefnogaeth yn yr hwb wedi ehangu ac mae’r grŵp bellach yn cynnal clwb brecwast bob dydd Iau yng Nghanolfan Gymunedol Ton Pentre, sy’n denu hyd at 60 o gyn-filwyr bob wythnos, sesiwn gwaith papur fore Mercher, a gweithgareddau ceffylau a garddwriaethol dyddiol ar dir cyfagos.

Esboniodd y sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol Paul Bromwell sut y deilliodd y syniad ar gyfer y therapi ceffylau fel rhan o ganolfan Valley Veterans oherwydd ei fod eisiau cynnig yr un cyfle i eraill a roddwyd iddo ef.

Dywedodd Paul,

Es i i ffwrdd i ferlota gyda Combat Stress ac fe wnaeth fy helpu cymaint pan ddes adref, prynais geffyl ac ar y diwrnodau nad oeddwn yn gallu cysgu, byddwn i fyny ar y mynydd gyda fy ngheffyl a byddai’n fy dawelu.

Roeddwn i’n meddwl os yw hyn yn gweithio i mi fe fyddai’n helpu eraill. Erbyn hynny roeddwn i’n edrych ar ôl cwpl o fechgyn a oedd yn ffrindiau da i mi ac a oedd yn teimlo ychydig o straen ac yn cael problemau oedd wedi’u hachosi o’u hamser yn y lluoedd arfog.

Ac o’r dyddiau cynnar hynny o ychydig o ffrindiau ac un ceffyl, mae Valley Veterans bellach yn cysylltu llawer o grwpiau cymorth a mwy na 100 o gyn-filwyr ledled y Cwm.

Pan fydd angen help ar bobl, rydyn ni bob amser yma - nid yw’n lle tywyll lle nad oes neb ar gael i helpu, mae yna bob amser rhywun yma, meddai Paul.

Mae bod y tu allan wedi chwyldroi bywyd llawer o’r bobl sy’n dod yma - gallai fod yn gweithio yn y gerddi, yn carthu’r stablau neu’n drin y ceffylau - mae’r manteision yn amlwg i’w gweld.

Fe allan nhw ddod i gael help gyda’u gwaith papur ar ddydd Mercher, cymdeithasu yn y clwb brecwast ar ddydd Iau a gweithio y tu allan yn y gerddi a’r ardal geffylau unrhyw ddiwrnod o’r wythnos.

Dywedodd Gary Pethig (64) o Gelli, a wasanaethodd yn y Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig,

Mae’r grŵp yma wedi newid fy mywyd – mae’n llythrennol wedi bod yn achubiaeth i mi oherwydd hebddo fe fydden i’n eistedd gartref yn gwylio’r teledu - yn hytrach rwy’n dod yma ac wedi gwneud llawer o ffrindiau newydd.

Rwy’n cael cymorth wyneb yn wyneb gan wahanol sefydliadau sy’n fy helpu i lenwi pob math o waith papur y byddwn fel arall yn ei chael hi’n anodd iawn neu’n amhosibl ei gwblhau ar fy mhen fy hun ar-lein neu dros y ffôn – ac mae hyn yn golygu y gallaf gael mynediad at yr help sydd ei angen arnaf ac sydd gen i hawl iddo.

Rwyf hefyd yn mwynhau mynd allan trwy fynd allan i’r ardd a thyfu cnydau.

Dywedodd Stephen Roberts (55) o Drewiliam, a wasanaethodd yn y Peirianwyr Brenhinol ac sydd bellach yn gweithio i Wasanaeth Gwaed Cymru,

Fe ddes i yma chwe blynedd yn ôl gan fy mod i’n cael trafferth gyda PDSD, roeddwn i’n cau fy hun i ffwrdd o’r gymdeithas ac yn cael trafferth mynd allan. Roeddwn i’n gwybod am y lle yma ond doeddwn i ddim digon dewr i ddod i fyny yma nes yn y pen draw i mi drefnu cwrdd â rhywun ro’n i’n ei adnabod ac wedi bod yn dod ers hynny.

Rwyf wedi cwrdd â chriw gwych o ffrindiau rydw i’n agos atyn nhw ac wedi cael cefnogaeth ganddyn nhw ers hynny. Mae wedi newid fy mywyd, roeddwn i wedi cilio o’r gymdeithas o’r blaen ond mae dod i fyny a threulio amser yma a chymdeithasu wedi fy helpu’n fawr a gallaf nawr fynd allan i ddigwyddiadau cymdeithasol fel dathliadau pen-blwydd a digwyddiadau codi arian nad oeddwn yn gallu mynd iddyn nhw o’r blaen.

Dywedodd Des Sparey (79) o Gaerffili, a wasanaethodd yn y Gatrawd Gymreig,

Mae’r grŵp hwn wedi newid fy mywyd yn llwyr, byddwn ar goll hebddo. Does dim byd gwell na dod i fyny a siarad â’r bois yma - dwi wrth fy modd a fydden i ddim yn gwneud hebddo. Mae yna elusennau yma a fydd yn eich helpu os oes gennych broblemau gyda phethau fel gofal iechyd, eich sefyllfa ariannol neu hyd yn oed dod o hyd i rywle i fyw.

Mae asiantaethau cymorth cyn-filwyr, sefydliadau iechyd meddwl, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol eraill yn mynychu’r sesiynau dydd Iau a dydd Mercher i ddarparu cymorth a chyngor ar feysydd sy’n amrywio o gymorth tai i eiriolaeth cyflogaeth a budd-daliadau.

Meddai Sian Sexton, Eiriolwr Cyngor Ariannol ar gyfer MIND,

Rydyn ni yma yn adeiladu perthynas, yn gwneud y gwaith sylfaenol a darparu cysondeb. Rydym yn gallu darparu cymorth wyneb yn wyneb ymarferol i bobl fel llenwi ffurflenni pan fydd ei angen arnyn nhw a sut mae ei angen arnyn nhw fel y gallan nhw gael mynediad at gymorth yn haws ac yn gyflymach.

Dywedodd Stephen Sullivan, Swyddog Datblygu Llwybrau Strategol, Adferiad Change Step,

Rwy’n defnyddio’r ganolfan hon yn wythnosol ac rwy’n dod â phrosiectau eraill i mewn - mae’n ymwneud â chydweithio a rhwydweithio a gwneud y llwybrau atgyfeirio yn haws.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 10 Mehefin 2025