Stori newyddion

Pobl ifanc yn cael eu hanrhydeddu gan Arglwydd Raglaw Powys 2023

Mae dau berson ifanc yn eu harddegau o Bowys wedi cael eu penodi’n Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023 mewn seremoni wobrwyo yn y Canolbarth.

Group of military people smiling

Lord-Lieutenant of Powys Awards. Copyright RFCA for Wales.

Mae dau berson ifanc yn eu harddegau o Bowys wedi cael eu penodi’n Gadetiaid yr Arglwydd Raglaw ar gyfer 2023 mewn seremoni wobrwyo yn y Canolbarth.

Cyflwynwyd bathodyn y penodiad, a fydd yn para am flwyddyn, i’r Sarjant Cadét Elliot Paul Tranter o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys ac i’r Sarjant Hedfan Amira Vieyra o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF.

Cawsant eu penodi gan Mr Tony Evans, Dirprwy Arglwydd Raglaw Powys, ar ran Mrs Tia Jones, yr Arglwydd Raglaw, yn y seremoni yng Ngwesty’r Elephant and Castle yn y Drenewydd ar ddydd Iau, 12 Ionawr.

Daeth bron i 100 o bobl i’r digwyddiad i ddathlu’r penodiadau newydd ac i gydnabod y perfformwyr uchel yn y cymunedau milwyr wrth gefn a chadetiaid.

Dewiswyd y ddau ar gyfer rôl anrhydeddus cadét yr Arglwydd Raglaw ar ôl cael eu henwebu gan arweinwyr grwpiau cadetiaid a Chymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid yng Nghymru.

Ymunodd Elliot o Drefeglwys, sy’n 16 oed ac yn mynychu Ysgol Uwchradd Llanidloes, ag Uned Llanidloes ychydig dros bedair blynedd yn ôl gan ddilyn ôl troed llawer o aelodau o’i deulu. Roedd yn un o’r cadetiaid cyntaf i ddechrau cymryd rhan eto ar ôl y pandemig a symudodd i’r Drenewydd i helpu am ychydig fisoedd cyn dychwelyd i Lanidloes, lle cyfrannodd yn helaeth at y gwaith ailadeiladu. Mae Elliot, sy’n anelu at fod yn drydanwr, yn mwynhau saethu a chwarae pêl-droed.

Llwyddodd Amira o Landrindod, sy’n 17 oed ac yn mynychu Chweched Dosbarth Henffordd, i gael blas ar hedfan ar ei thaith gyntaf ac mae wedi manteisio ar bob cyfle drwy Sgwadron 579 Llandrindod i gael rhagor o oriau hedfan, ac mae’n awyddus i fynd ar drywydd ysgoloriaethau ar gyfer gleidio a hedfan â phŵer. Y tu allan i’r cadetiaid, mae Amira yn bwriadu astudio Astudiaethau Busnes yn y brifysgol. Mae hefyd yn bobydd brwd ac yn gweithio fel cogydd ym mwyty ei rhieni.

Byddant yn dilyn ôl troed yr Uwch Sarjant Cadét Stephanie Chaplin a’r Sarjant Cadét Grace Buschini, y ddau o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys; yr Hyfforddwr Sifil Erin Nodland o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a’r Corporal Gadét Antonia Scott-Howell o Lu Cadetiaid Cyfun Llanymddyfri, a gafodd Dystysgrif a Bathodyn yr Arglwydd Raglaw am fod yn gynrychiolwyr yn 2022.

Mae rôl cadét yr Arglwydd Raglaw yn cynnwys mynychu digwyddiadau swyddogol gyda Mrs Tia Jones, Arglwydd Raglaw Powys, sy’n gweithredu fel cynrychiolydd y Brenin mewn nifer o ddigwyddiadau swyddogol, gan gynnwys digwyddiadau Cofio, ymweliadau Brenhinol a gorymdeithiau.

Roedd pedwar o oedolion sy’n gwirfoddoli – y Sarjant Awyr Andrew Dudley o Adain Gymreig Rhif 1 Cadetiaid Awyr yr RAF; y Sarjant Mark Lumb a David Holt o’r Pwyllgor Sifiliaid Cofrestredig (Aelod), ill dau o Adain Gymreig Rhif 2 Cadetiaid Awyr yr RAF, a’r Capten Rachael Jones-Morris o Lu Cadetiaid Byddin Gwent a Phowys – hefyd yn cael eu cydnabod am eu gwasanaeth rhagorol a’u hymroddiad i’r gwaith, ac yn cael Tystysgrif Teilyngdod yr Arglwydd Raglaw.

Dechreuodd Andrew, o Aberhonddu, ei yrfa fel cadét awyr yng Nghaerdydd cyn gwasanaethu yn yr RAF. Ar ôl seibiant o’i waith, dychwelodd fel hyfforddwr sifil yn 2016 cyn gwneud cais llwyddiannus am wasanaeth iwnifform. Ef yw’r prif hyfforddwr yn 415 (Aberhonddu) Detached Flight lle mae ei arweinyddiaeth wedi cael ei disgrifio fel bod yn ‘llawn ysbrydoliaeth’.

Ymunodd Mark, o Landrindod, â Sgwadron 579 Llandrindod wrth i’r pandemig daro, ond dechreuodd gymryd rhan weithredol mewn nosweithiau gorymdeithiau rhithiol a chefnogodd y gwaith o ddychwelyd i weithgareddau hyfforddi yn llawn. Mae ei wybodaeth ragorol am beirianneg hedfan wedi gwella galluoedd cyflawni prif gadét a meistr gadét y sgwadron.

Mae Mark, a fu’n beilot gleider yn ei ddyddiau milwrol ac yn gadét pan oedd yn ifanc, wrth ei fodd yn galluogi cadetiaid i hedfan, a hynny mewn gleider neu awyren â phŵer. Mae hyn wedi arwain at ddyfarnu’r ddwy Ysgoloriaeth Gleidio Arian gyntaf yn ystod y degawd diwethaf i ddau uwch gadét presennol. Mae hefyd yn cynnig hyfforddiant mathemateg a gwyddoniaeth am ddim yn y sgwadron i helpu’r rhai sydd angen cymorth ychwanegol yn eu pynciau TGAU a Lefel A.

Ymunodd David, o Landrindod, â phwyllgor sifiliaid Sgwadron 579 Llandrindod ar ôl i’w fab Chris ymuno â Chadetiaid Awyr yr RAF, gan ysgwyddo rôl y trysorydd yn fuan wedyn. Mae perchennog y ganolfan arddio leol wedi symud y sgwadron i fancio ar-lein ac wedi helpu i symleiddio’r materion ariannol i bawb. Mae diddyledrwydd y sgwadron wedi arwain at lawer o fanteision, gan gynnwys trwsio bws mini sy’n cael ei ddefnyddio gan gadetiaid.

Mae Rachael yn rhedeg Uned lwyddiannus iawn y Drenewydd, sydd â dros 30 o gadetiaid. Yn ystod ei chyfnod yn Llu Cadetiaid y Fyddin mae Rachel, sy’n nyrs, wedi mynychu nifer o wersylloedd blynyddol ac mae’n un o’r swyddogion hebrwng ar gyfer ymweliad cadetiaid o Gymru â De Affrica eleni. Crefft maes sy’n mynd â’i bryd a does dim ofn gwaith budr arni!

Mae bron i 5,000 o gadetiaid yng Nghymru sy’n ennill sgiliau a chymwysterau trwy weithio gyda chymunedau lleol, elusennau a chymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Mae maes llafur y cadetiaid yn cael ei gyflwyno gan 1,500 o hyfforddwyr gwirfoddol a chynorthwywyr sifil, sy’n rhoi o’u hamser rhydd gyda’r nos yn ystod yr wythnos ac ar benwythnosau.

Cafodd y seremoni wobrwyo ei threfnu gan Gymdeithas Cadetiaid a Lluoedd Wrth Gefn Cymru (RFCA) – sefydliad sydd wedi cefnogi’r Lluoedd Arfog am dros 100 mlynedd.

Cyhoeddwyd ar 19 January 2023