Deg o Ganolfannau Cadetiaid ar y Cyd newydd wrthi’n cael eu datblygu yng Nghymru
Mae deg o Ganolfannau Cadetiaid ar y Cyd newydd wrthi’n cael eu datblygu yng Nghymru fel rhan o ymdrech genedlaethol i foderneiddio ystâd y lluoedd wrth gefn a’r cadetiaid.

Cadets and Cadet Force Adult Volunteers outside their new Joint Cadet Centre in Caldicot. Copyright: RFCA for Wales.
Y canolfannau newydd hyn, ar hyd a lled Cymru mewn lleoliadau fel Cil-y-coed yn y De a Bangor yn y Gogledd, yw cyfraniad Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru at ymdrech y llywodraeth i wella ystâd y lluoedd wrth gefn a’r cadetiaid ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.
Bu i’r Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn (REOP), dan gyfarwyddyd yr Ysgrifennydd Gwladol, ganfod bod nifer o safleoedd yng Nghymru â’r potensial i gael eu gwella a’u datblygu’n Ganolfannau Cadetiaid ar y Cyd.
Cynhaliwyd y rhaglen hon yn dilyn adolygiad cenedlaethol o ystâd y lluoedd wrth gefn a’r cadetiaid a gynhaliwyd yn 2020 i archwilio cyrhaeddiad, cyflwr, a chynaliadwyedd pob un o adeiladau’r lluoedd wrth gefn a’r cadetiaid yn y Deyrnas Unedig, yn ogystal â’u gwerth am arian.
Er bod y fenter yn cael ei harwain gan y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae Pwyllgor Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru, y Sefydliad Seilwaith Amddiffyn, a Chymdeithasau Rhanbarthol y Cadetiaid Lluoedd Wrth Gefn a’r Cadetiaid wedi bod yn rhan o’r gwaith, ac mae dros £5m wedi ei fuddsoddi mewn 10 o safleoedd ar hyd a lled Cymru.
Mae’r Canolfannau Cadetiaid ar y Cyd newydd hyn naill ai yn safleoedd wedi eu hadnewyddu fel yng Nghoed-duon, neu yn adeiladau modern newydd fel yng Nghil-y-coed.
Mae’r Rhaglen Optimeiddio Ystadau Wrth Gefn wedi cyflawni 59 allan o’r 88 prosiect a gynlluniwyd yn y Deyrnas Unedig sy’n canolbwyntio ar ystâd y cadetiaid. Ar ôl i’r holl brosiectau gael eu cwblhau, bydd cyfanswm y buddsoddiad yn £45 miliwn.
Dywedodd Mr Phil Young, Pennaeth Ystadau Cymdeithas Lluoedd Wrth Gefn a Chadetiaid Cymru:
Rydym yn addasu ac yn gwella ein hystâd er mwyn sicrhau bod gennym ni adeiladau addas yn y lleoliadau cywir i ddiwallu anghenion y cadetiaid yn y dyfodol.
Un o’r datblygiadau diweddaraf yw’r Ganolfan Gadetiaid ar y Cyd ym Mhenarth, lle cafodd dau adeilad oedd eisoes yn bodoli ac yn cael eu defnyddio gan y cadetiaid awyr, eu hadnewyddu a’u hymestyn i greu un adeilad. Mae cadetiaid lleol y fyddin hefyd yn defnyddio’r adeilad newydd.
Yng Nghymru, mae’r rhaglen hon wedi arwain at gael gwared â 12 o safleoedd lluoedd wrth gefn a chadetiaid, a’r nod yw gwella effeithlonrwydd yr ystâd yng Nghymru.
Mae pump o Ganolfannau Cadetiaid ar y Cyd newydd wedi eu hagor yn y Blaenau, Coed-duon, Cil-y-coed, Penarth a Phengam.
Bydd pump o Ganolfannau Cadetiaid eraill yn cael eu creu yn Nhredegar, Bangor, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhydaman, a Glynebwy.
Yng Nghil- y-coed, cafodd hen adeilad Cadetiaid y Fyddin ym Mill Lane ei ddymchwel i wneud lle i adeilad pwrpasol newydd sbon, a agorodd ei ddrysau’r haf diwethaf, ac sy’n cael ei rannu gan gadetiaid y fyddin a’r awyr yn y dref.
Kerris Drew, Hyfforddwr Sarjant Staff, Dywedodd yr Hyfforddwr Sarjant Staff o AFC Cil-y-coed:
Mae’r adeilad modern newydd hwn yn grêt – mae’n fwy o lawer na’r hen un ac mae ganddo gyfleusterau gwell. Mae ganddo fwy o ystafelloedd dosbarth sy’n golygu ein bod yn gallu cynnal hyfforddiant mwy effeithlon ac wedi’i dargedu gyda’r cadetiaid. Mae’n cynnwys storfa fawr, swyddfeydd a system awyru hyd yn oed. Mae ardal paredio tu allan ar gyfer ymarferion a gardd sydd â blychau bywyd gwyllt.
Mae’r adeilad yn rhoi cyfle i gadetiaid y fyddin a chadetiaid awyr hyfforddi ar y cyd.