Summary
Mae Rheolau'r Ffordd Fawr hyn yn berthnasol i Gymru, Lloegr a'r Alban. Mae Rheolau'r Ffordd Fawr yn ddarllen hanfodol i bawb.
Mae’n gymwys i’ Loegr, yr Alban a Chymru
Cyfarwyddyd i Ogledd Iwerddon
Gallwch archebu copi o lyfr Rheolau’r Ffordd Fawr ar-lein neu brynu copi o’r rhan fwyaf o siopau llyfrau’r stryd fawr.
I aros yn wybodus:
- cofrestrwch i gael rhybuddion e-bost pan fydd y rheolau’n newid
- dilynwch Reolau’r Ffordd Fawr ar Facebook
Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg (English).
Contents
- 
        
          I bwy mae Rheolau'r Ffordd Fawr, sut mae wedi cael ei eirio, y canlyniadau o beidio â dilyn y rheolau, cerbydau hunanyrru, a hierarchaeth defnyddwyr ffyrdd (Rheolau H1 i H3). 
- 
        
          Rheolau ar gyfer cerddwyr, gan gynnwys canllawiau cyffredinol, croesi'r ffordd, croesfannau, a sefyllfaoedd lle mae angen bod yn fwy gofalus. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer cadeiriau olwyn modur a sgwteri symudedd, gan gynnwys ar balmentydd ac ar y ffordd. 
- 
        
          Rheolau ynghylch anifeiliaid, gan gynnwys cerbydau sy'n cael eu tynnu gan geffylau, marchogion ac anifeiliaid eraill. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer beicwyr, gan gynnwys trosolwg, cyffyrdd ffyrdd, cylchfannau a chroesi'r ffordd. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer beicwyr modur, gan gynnwys helmedau, cludo teithwyr, beicio mewn golau dydd a beicio yn y tywyllwch. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer gyrwyr a beicwyr modur, gan gynnwys cyflwr cerbydau, ffitrwydd i yrru, alcohol a chyffuriau, beth i'w wneud cyn cychwyn, tynnu a llwytho cerbydau, a gwregysau diogelwch ac ataliadau plant. 
- 
        
          Signalau, gweithdrefnau stopio, goleuadau rheoli'r cerbyd, terfynau cyflymder, pellteroedd stopio, llinellau a marciau lonydd a ffyrdd aml-lôn, ysmygu, ffonau symudol a llywio â lloeren. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer defnyddio'r ffordd, gan gynnwys rheolau cyffredinol, goddiweddyd, cyffyrdd, cylchfannau, croesfannau i gerddwyr a bacio. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sydd angen gofal ychwanegol, gan gynnwys cerddwyr, beicwyr modur a beicwyr, defnyddwyr eraill y ffordd a cherbydau eraill. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer gyrru dan amodau tywydd garw, gan gynnwys tywydd gwlyb, tywydd rhewllyd ac eira, tywydd gwyntog, niwl a thywydd poeth. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer aros a pharcio, gan gynnwys rheolau am barcio yn y nos a gorfodaeth parcio cyfreithlon. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer traffyrdd, gan gynnwys rheolau ar gyfer rhoi signalau, ymuno â'r draffordd, gyrru ar y draffordd, rheolaeth lonydd, goddiweddyd, stopio a gadael y draffordd. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer damweiniau a digwyddiadau, gan gynnwys rheolau ar gyfer traffyrdd, rhwystrau, digwyddiadau, digwyddiadau sy'n ymwneud â nwyddau a dogfennau peryglus. 
- 
        
          Rheolau ar gyfer gwaith ffyrdd (gan gynnwys ffyrdd cyflymder uchel), croesfannau gwastad a thramffyrdd. 
- 
        
          Signalau goleuadau a ddefnyddir i reoli traffig, gan gynnwys signalau goleuadau traffig, goleuadau coch sy'n fflachio, signalau traffyrdd a signalau rheoli lonydd. 
- 
        
          Signalau a ddefnyddir i ddefnyddwyr eraill y ffordd, gan gynnwys signalau dangosydd cyfeiriad, signalau goleuadau brecio, signalau goleuadau bacio a signalau breichiau. 
- 
        
          Signalau a ddefnyddir gan bersonau awdurdodedig, gan gynnwys swyddogion yr heddlu, signalau breichiau i bersonau sy'n rheoli traffig, swyddogion Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau a swyddogion traffig a hebryngwyr croesfannau ysgolion. 
- 
        
          Arwyddion traffig a ddefnyddir, gan gynnwys arwyddion yn rhoi gorchmynion, arwyddion rhybudd, arwyddion cyfeiro, arwyddion gwybodaeth ac arwyddion gwaith ffordd. 
- 
        
          Marciau ffyrdd a ddefnyddir, gan gynnwys y rhai ar draws y gerbydffordd, ar hyd y gerbydffordd, wrth ymyl y gerbydffordd, ar y cwrb neu ar ymyl y gerbydffordd a marciau ffyrdd eraill. 
- 
        
          Marciau cerbydau a ddefnyddir, gan gynnwys marciau cefn cerbydau nwyddau mawr, platiau rhybudd, marcwyr amcanestyn a marciau eraill. 
- 
        
          Gwybodaeth a rheolau amdanoch chi a'ch beic. 
- 
        
          Gwybodaeth a rheolau am ofynion trwyddedau beiciau modur. 
- 
        
          Gwybodaeth a rheolau ynghylch dogfennaeth cerbydau modur a gofynion gyrwyr sy'n dysgu. 
- 
        
          Gwybodaeth am ddefnyddwyr y ffordd a'r gyfraith, gan gynnwys deddfau a rheoliadau. 
- 
        
          Gwybodaeth a rheolau am gosbau, gan gynnwys pwyntiau ac anghymhwyso, tabl cosb, gyrwyr newydd a chanlyniadau eraill o droseddu. 
- 
        
          Gwybodaeth a rheolau am gynnal a chadw a diogelwch cerbydau. 
- 
        
          Gwybodaeth am gymorth cyntaf ar y ffordd, gan gynnwys delio â pherygl, cael cymorth, helpu'r rhai dan sylw, a darparu gofal brys. 
- 
        
          Gwybodaeth am y côd diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd, gan gynnwys y Ddeddf Gyrwyr Newydd a hyfforddiant ychwanegol. 
- 
        
          Trosiadau metrig, gwefannau defnyddiol, darllen ychwanegol, cynllun y bathodyn glas a chod ymarfer cerbydau a dynnir gan geffylau. 
- 
        
          Mynegai o'r pynciau sy'n cael eu cynnwys yn Rheolau'r Ffordd Fawr.