Atodiad 8. Cod diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd

Gwybodaeth am y côd diogelwch ar gyfer gyrwyr newydd, gan gynnwys y Ddeddf Gyrwyr Newydd a hyfforddiant ychwanegol.

Ar ôl i chi basio’r prawf gyrru, byddwch yn gallu gyrru ar eich pen eich hun. Bydd hyn yn rhoi llawer o gyfleoedd i chi ond mae angen i chi barhau i fod yn ddiogel. Er eich bod wedi dangos bod gennych y sgiliau sydd eu hangen i yrru’n ddiogel, mae nifer o yrwyr sydd newydd gymhwyso yn brin o brofiad. Mae angen i chi barhau i ddatblygu eich sgiliau, yn enwedig wrth ragweld ymddygiad defnyddwyr eraill y ffordd i osgoi cael gwrthdrawiad. Mae cymaint ag un gyrrwr newydd mewn pump yn cael rhyw fath o wrthdrawiad yn eu blwyddyn gyntaf o yrru. Mae’r cod hwn yn rhoi cyngor i’ch helpu yn y deuddeg mis cyntaf ar ôl pasio’r prawf gyrru, pan fyddwch yn fwyaf bregus, mewn modd mor ddiogel â phosibl.

Y cod diogelwch

  • Mae llawer o’r gwrthdrawiadau gwaethaf yn digwydd yn y nos. Rhwng hanner nos a 6 yb yw’r amser o risg uchel i yrwyr newydd. Osgowch yrru yn ystod yr amser hwnnw oni bai fod gwir angen.

  • Os byddwch yn gyrru â theithwyr yn y cerbyd, chi fydd yn gyfrifol am eu diogelwch. Peidiwch â gadael iddyn nhw dynnu eich sylw neu eich annog i gymryd risgiau. Dywedwch wrth eich teithwyr fod angen i chi ganolbwyntio er mwyn cyrraedd eich cyrchfan yn ddiogel.

  • Peidiwch â thynnu eu sylw atoch neu geisio cystadlu â gyrwyr eraill, yn enwedig os byddant yn gyrru’n wael.

  • Peidiwch â gyrru os ydych wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau. Gall hyd yn oed meddyginiaethau dros y cownter effeithio ar eich gallu i yrru’n ddiogel - darllenwch y label i weld a allent effeithio ar eich gyrru.

  • Gwnewch yn siŵr fod pawb yn y car yn gwisgo gwregys diogelwch drwy gydol y daith.

  • Cadwch eich cyflymder i lawr - mae llawer o wrthdrawiadau difrifol yn digwydd oherwydd bod y gyrrwr yn colli rheolaeth, yn enwedig ar droeon.

  • Nid oes gan y mwyafrif o yrwyr newydd unrhyw brofiad o yrru ceir pwerus iawn neu sbortsceir. Oni bai eich bod wedi dysgu gyrru mewn cerbyd o’r fath, bydd angen i chi gael digon o brofiad yn gyrru ar eich pen eich hun cyn gyrru car mwy pwerus.

  • Mae gyrru heb yswiriant yn drosedd. Gweler Atodiad 3 i gael gwybodaeth am y mathau gwahanol o yswiriant sydd ar gael.

Deddf Gyrwyr Newydd

COFIWCH o dan y Deddf Gyrwyr Newydd, bydd eich trwydded yn cael ei diddymu os byddwch yn cael chwe phwynt cosb ar eich trwydded o fewn dwy flynedd o basio eich prawf gyrru cyntaf. Bydd angen i chi basio’r profion theori ac ymarferol eto i gael eich trwydded lawn yn ôl.

Hyfforddiant ychwanegol

Gallech ystyried cymryd hyfforddiant ychwanegol fel Pass Plus, a allai hefyd arbed arian i chi ar eich yswiriant, yn ogystal â’ch helpu i leihau’r risg o fod mewn gwrthdrawiad. Mae tair ffordd wahanol o gael rhagor o wybodaeth: