Atodiad 3. Dogfennaeth cerbydau modur a gofynion gyrwyr sy'n dysgu

Gwybodaeth a rheolau ynghylch dogfennaeth cerbydau modur a gofynion gyrwyr sy'n dysgu.

Dogfennau

Trwydded yrru. Mae’n RHAID i chi gael trwydded yrru ddilys ar gyfer y categori o gerbyd modur yr ydych chi’n ei yrru. Mae’n RHAID i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) os byddwch yn newid eich enw a/neu’ch cyfeiriad.

Y gyfraith RTA 1988 sects 87 & 99(4)

Caiff deiliaid trwyddedau nad ydynt yn rhai’r Gymuned Ewropeaidd sydd bellach yn byw yn y DU yrru ar y drwydded honno am uchafswm o 12 mis yn unig o’r dyddiad y byddant yn breswylydd yn y wlad hon.

I sicrhau hawliau gyrru parhaus

  • Dylid cael trwydded dros dro Brydeinig a phasio prawf/profion gyrru cyn i’r cyfnod o 12 mis fynd heibio, neu

  • yn achos gyrrwr sy’n dal trwydded gan wlad sydd wedi’i dynodi yn ôl y gyfraith at ddibenion cyfnewid trwydded, dylai’r gyrrwr gyfnewid y drwydded am un Brydeinig.

MOT. Mae’n RHAID bod ceir a beiciau modur, fel arfer, yn pasio prawf MOT dair blynedd o ddyddiad y cofrestriad cyntaf a phob blwyddyn wedi hynny. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru cerbyd modur heb dystysgrif MOT pan ddylai gael un. Yn eithriadol, efallai y byddwch yn gyrru i apwyntiad prawf wedi’i drefnu ymlaen llaw neu i garej ar gyfer atgyweiriadau sy’n ofynnol ar gyfer y prawf. Gall gyrru cerbyd modur nad yw’n deilwng o’r ffordd annilysu eich yswiriant.

O 20 Mai 2018, bydd ceir, faniau, beiciau modur a cherbydau teithwyr ysgafn eraill a gynhyrchwyd neu a gofrestrwyd am y tro cyntaf dros 40 o flynyddoedd yn ôl, yn cael eu heithrio o’r prawf MOT, oni bai fod y cerbyd wedi cael ei newid yn sylweddol o fewn y 30 mlynedd blaenorol. Gellir dod o hyd i ganllawiau ar beth sy’n cyfrif fel newid sylweddol yn www.gov.uk/historic-vehicles.

Os bydd cerbyd sydd ar hyn o bryd wedi’i eithrio o’r prawf MOT yn cael ei newid yn sylweddol, ac ni all ceidwad y cerbyd barhau i hawlio esemptiad rhag y prawf MOT.

Y gyfraith RTA 1988 sects 45, 47, 49 & 53

Yswiriant. I ddefnyddio cerbyd modur ar y ffordd, mae’n RHAID i chi gael polisi yswiriant dilys. Mae’n RHAID bod y polisi yn rhoi yswiriant i chi am anaf neu ddifrod i drydydd parti pan fyddwch yn defnyddio’r cerbyd modur hwnnw. Cyn gyrru unrhyw gerbyd modur, sicrhewch fod yr yswiriant hwn gyda chi neu fod eich yswiriant eich hun yn darparu digon o yswiriant. Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â gyrru cerbyd modur heb yswiriant. Hefyd, byddwch yn ymwybodol, hyd yn oed os na fydd bai arnoch chi am ddamwain traffig ar y ffordd, y gallwch chi ddal i fod yn atebol i gwmnïau yswiriant.

Y gyfraith RTA 1988 sect 143

Erbyn hyn gall gyrwyr heb yswiriant gael eu canfod yn awtomatig gan gamerâu ochr y ffordd. Ymhellach i’r cosbau am yrru heb yswiriant (gweler ‘tabl cosb’), gall yr heddlu bellach ymafael mewn cerbyd troseddwr, a’i gymryd ymaith a’i falu.

Y gyfraith RTA 1988 sects 165a & 165b

Nodir isod y mathau o yswiriant sydd ar gael:

Yswiriant trydydd parti - Dyma’r math rhataf o yswiriant yn aml, a dyma’r isafswm sydd ei angen yn ôl y gyfraith. Mae’n cynnwys unrhyw un y gallech ei anafu neu eiddo y gallech ei ddifrodi. Nid yw’n cynnwys difrod i’ch cerbyd modur nac anaf i chi eich hun.

Yswiriant Trydydd Parti, Tân a Lladrad - yn debyg i yswiriant trydydd parti, ond mae’n yswirio yn erbyn eich cerbyd modur yn cael ei ddwyn, neu ei ddifrodi gan dân.

Yswiriant cynhwysfawr - dyma’r math drutaf o yswiriant ond yr un gorau. Ar wahân i gynnwys pobl eraill ac eiddo yn erbyn anaf neu ddifrod, mae hefyd yn ymdrin â difrod i’ch cerbyd modur eich hun, hyd at werth marchnad y cerbyd hwnnw, ac anaf personol i chi eich hun.

Tystysgrif gofrestru. Rhoddir tystysgrifau cofrestru (a elwir hefyd yn dystysgrifau cofrestru wedi’u cysoni) ar gyfer yr holl gerbydau modur a ddefnyddir ar y ffordd, gan eu disgrifio (gwneuthuriad, model ac ati) a rhoi manylion y ceidwad cofrestredig. Mae’n RHAID i chi roi gwybod i’r Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau yn Abertawe cyn gynted â phosibl pan fyddwch yn prynu neu’n gwerthu cerbyd modur, neu os byddwch yn newid eich enw neu’ch cyfeiriad. Ar gyfer tystysgrifau cofrestru a gyhoeddwyd ar ôl 27 Mawrth 1997, y prynwr a’r gwerthwr sy’n gyfrifol am gwblhau’r tystysgrifau cofrestru. Y gwerthwr sy’n gyfrifol am anfon y tystysgrifau ymlaen i’r DVLA. Esbonnir y gweithdrefnau ar gefn y tystysgrifau cofrestru.

Y gyfraith RV(R&L)R regs 21, 22, 23 & 24

Treth Car (VED). Mae’n RHAID talu Treth Car ar bob cerbyd modur sy’n cael ei ddefnyddio neu ei gadw ar ffyrdd cyhoeddus.

Y gyfraith VERA sects 29 a 33

Hysbysiad statudol oddi ar y ffordd (HOS). Mae hwn yn hysbysiad i’r DVLA nad yw cerbyd modur yn cael ei ddefnyddio ar y ffordd. Os mai chi yw ceidwad y cerbyd a’ch bod am gadw cerbyd modur heb ei drethu ac oddi ar y ffordd gyhoeddus, mae’n RHAID i chi wneud datganiad HOS - mae’n drosedd peidio â gwneud hynny. Bydd y cerbyd yn aros yn HOS nes i chi ei werthu, ei drethu neu ei sgrapio. Os yw eich cerbyd yn segur neu oddi ar y ffordd, mae’n RHAID iddo gael naill ai datganiad HOS neu yswiriant dilys.

Y gyfraith RV(RL)R reg 26 & sched 4

Cyflwyno dogfennau. Mae’n RHAID i chi allu cyflwyno eich trwydded yrru, tystysgrif yswiriant ddilys a (os yw’n briodol) thystysgrif MOT ddilys, ar gais swyddog yr heddlu. Os na allwch wneud hyn, gellir gofyn i chi fynd â nhw i orsaf yr heddlu o fewn saith diwrnod.

Y gyfraith RTA 1988 sects 164 & 165

Gyrwyr sy’n dysgu

Mae’n RHAID i ddysgwyr sy’n gyrru car feddu ar drwydded dros dro ddilys. Mae’n RHAID iddynt gael eu goruchwylio gan rywun o leiaf 21 oed sy’n dal trwydded CE/AEE lawn ar gyfer y math hwnnw o gar (awtomatig neu â llaw) ac sydd wedi dal trwydded am o leiaf dair blynedd.

Cyfreithiau MV(DL)R reg 16 & RTA 1988 sect 87

Cerbydau. Mae’n RHAID bod unrhyw gerbyd sy’n cael ei yrru gan ddysgwr arddangos platiau L coch. Yng Nghymru, gellir defnyddio platiau D coch, platiau L coch, neu’r ddau. Mae’n RHAID bod y platiau yn cydymffurfio â manylebau cyfreithiol a bod yn amlwg i eraill o’r tu blaen i’r cerbyd ac o’r tu ôl i’r cerbyd. Dylech dynnu’r platiau neu eu gorchuddio pan na fydd y cerbyd yn cael ei yrru gan ddysgwr (ac eithrio cerbydau ysgolion gyrru).

Y gyfraith MV(DL)R reg 16 & sched 4

Mae’n RHAID i chi basio’r prawf theori (os oes angen un) ac yna prawf gyrru ymarferol ar gyfer y categori o gerbyd yr ydych chi am ei yrru cyn gyrru ar eich pen eich hun.

Y gyfraith MV(DL)R reg 40