Atodiad 2. Gofynion trwyddedau beiciau modur

Gwybodaeth a rheolau am ofynion trwyddedau beiciau modur.

Gofynion trwyddedau beiciau modur

Os oes gennych drwydded beic modur dros dro, mae’n RHAID i chi gwblhau cwrs Hyfforddiant Sylfaenol Gorfodol (CBT) yn foddhaol.

Yna, gallwch reidio beic modur ar eich pen eich hun ar y ffordd gyhoeddus hyd at 125 cc, ag allbwn pŵer heb fod yn fwy nag 11 kW, â phlatiau L (yng Nghymru gellir defnyddio naill ai platiau D neu blatiau L, neu’r ddau), am hyd at ddwy flynedd.

Y gyfraith RTA 1988 sect 97 (3)

I reidio moped, mae’n RHAID i ddysgwyr

  • fod yn 16 oed neu’n hŷn
  • bod â thrwydded moped dros dro
  • cwblhau hyfforddiant CBT.

Y gyfraith RTA 1988 sects 97(3) & 101

Yna gallwch reidio ar eich pen eich hun ar y ffordd gyhoeddus gerbyd dwy olwyn ag uchafswm cyflymder cynllunedig o 45 km/h (28 mya), â phlatiau L (yng Nghymru gellir defnyddio naill ai platiau D neu blatiau L, neu’r ddau), am hyd at ddwy flynedd.

Mae’n RHAID i chi basio’r prawf theori yn gyntaf ar gyfer beiciau modur ac yna’r prawf ymarferol moped i gael eich trwydded moped llawn.

Y gyfraith MV(DL)R reg 38(4)

Sylwch. Os gwnaethoch chi basio eich prawf gyrru car cyn 1 Chwefror 2001, rydych yn gymwys i reidio moped heb blatiau L (a/neu blatiau D yng Nghymru), er yr argymhellir eich bod yn cwblhau CBT cyn reidio ar y ffordd. Os gwnaethoch chi basio eich prawf gyrru car ar ôl y dyddiad hwn, mae’n RHAID i chi gwblhau CBT cyn reidio moped ar y ffordd.

Y gyfraith RTA 1988 sect 97(3)

Categorïau trwyddedau ar gyfer mopedau a beiciau modur

Categori AM (moped) – oedran isaf 16

  • cerbyd dwy olwyn ag uchafswm cyflymder cynllunedig o 45 km/h (28 mya)
  • cerbyd tair neu bedair olwyn ag uchafswm cyflymder cynllunedig dros 25 km/h (15.5 mya), hyd at 50 cc a chydag allbwn pŵer heb fod yn fwy na 4 kW.

Categori A1 – oedran isaf 17

  • beiciau modur hyd at 125 CC, ag allbwn pŵer heb fod yn fwy na 11 kW
  • beiciau tair olwyn ag allbwn pŵer heb fod yn fwy na 15 kW.

Categori A2 – oedran isaf 19

  • beiciau modur ag allbwn pŵer heb fod yn fwy na 35 kW.

Categori A

  • beiciau modur digyfyngiad ag allbwn pŵer dros 35 kW (oedran isaf 24 o dan fynediad uniongyrchol, neu 21 o dan fynediad cynyddol)
  • beiciau tair olwyn ag allbwn pŵer dros 15 kW (oedran isaf 21).

Mae mynediad cynyddol yn broses sy’n caniatáu i reidiwr gymryd prawf ymarferol categori uwch os oes ganddynt o leiaf ddwy flynedd o brofiad ar feic modur categori is eisoes. Er enghraifft, os ydych wedi dal trwydded categori a2 am o leiaf ddwy flynedd, gallwch gymryd y prawf ymarferol categori A yn 21 oed. Nid oes gofyniad i gymryd prawf theori arall.

Os ydych chi am ddysgu reidio beiciau modur sy’n fwy na 125 CC a chydag allbwn pŵer dros 11 kW, mae’n RHAID i chi fodloni’r gofynion oedran isaf, cwblhau cwrs CBT yn foddhaol a bod gyda hyfforddwr cymeradwy ar feic modur arall mewn cyswllt radio.

Y gyfraith MV(DL)R regs 9 & 16(7), & RTA 1988 sect 97(3)

I gael eich trwydded moped neu feic modur llawn, mae’n RHAID i chi basio prawf theori beic modur a modiwlau 1 a 2 profion ymarferol ar feic modur dwy-olwyn.

Y gyfraith MV(DL)R reg 38

Mae’n RHAID I CHI BEIDIO â chario teithiwr piliwn na thynnu trelar hyd nes y byddwch wedi pasio’ch prawf. Hefyd, gweler Rheol 253 ynghylch cerbydau sy’n cael eu gwahardd rhag traffyrdd.

Y gyfraith MV(DL)R reg 16